Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Diogelwch a hylendid bwyd

Mae bwyd yn effeithio ar bawb. Mae pawb yn bwyta.

Cyfeiriadau at yr UE yn yr adran Diogelwch a hylendid bwyd 

Rydym ni wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE), er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020 yn gywir.  

Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen bod unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau’r UE yn y canllawiau hyn yn golygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.

Darllenwch ein datganiad am ddiweddaru cynnwys a gynhyrchwyd cyn diwedd cyfnod pontio’r UE neu tra’r oedd y DU yn yr UE.

Bwyta allan? Bwyta gartref?

Bydd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn eich helpu i ddewis ble i fwyta allan neu i siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth i chi am y safonau hylendid mewn bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai, a mannau eraill lle byddwch yn bwyta allan, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.