Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Datganiad o ran diweddaru cynnwys a gynhyrchwyd cyn diwedd cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd neu tra’r oedd y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd

O 1 Ionawr 2021, byddwn ni’n diweddaru cyfeiriadau at gyfraith, systemau a sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn ein cynnwys. Rydym ni wedi ymrwymo i gael cyfundrefn reoleiddio gadarn ac effeithiol ar waith, a fydd yn golygu y gall busnes barhau fel arfer.

Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) wedi'i throsi yn gyfraith y Deyrnas Unedig (DU)

Trosodd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (yr ‘EUWA’) fel y’i diwygiwyd deddfwriaeth yr UE sy'n uniongyrchol berthnasol (yn benodol, Rheoliadau a Phenderfyniadau'r UE) fel yr oedd ar ddiwedd y cyfnod pontio (11pm 31 Rhagfyr 2020) yn gyfraith ddomestig. Mae'n cadw deddfwriaeth a wnaed yn y DU yn flaenorol i weithredu rhwymedigaethau'r UE.

Yn gyffredinol, yr un effaith a sydd gan y ddeddfwriaeth ag yr oedd ganddi yn flaenorol cyn diwedd y cyfnod pontio, oni bai y caiff ei newid gan y Senedd, neu tan hynny. Mae peth deddfwriaeth wedi'i diwygio gan offerynnau statudol (OSau) a wnaed o dan yr EUWA. Mae hyn gan fod yr EUWA wedi creu pwerau i lunio is-ddeddfwriaeth i gywiro diffygion yng 'nghyfraith yr UE a ddargedwir' i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithio'n iawn ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol o 1 Ionawr 2021 mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac nid yw cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hynny.
 

Cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law)

I chwilio am gyfraith yr UE a ddargedwir, ewch i www.legislation.gov.uk a defnyddiwch y dewis chwilio 'All UK Legislation (inclusing originating from the EU)'. Byddwn yn diweddaru cyfeiriadau a dolenni perthnasol yn ein cynnwys.

Bydd Archif We Ymadael â'r UE yn cynnwys fersiynau o ddeddfwriaeth yr UE o EUR-LEX fel yr oeddent ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Offerynnau statudol Ymadael â'r UE yr ASB

Mae rhestr lawn o’n OSau Ymadael â'r UE i drwsio elfennau anweithredol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid i’w gweld isod.

Bydd yr OSau hyn, sy'n weithredol ledled y DU, yn sicrhau y bydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu ym Mhrydain Fawr. Maent hefyd yn cynnwys cywiriadau gorfodi cenedlaethol Lloegr i sicrhau bod rheoliadau gorfodi cyfredol sy'n berthnasol i Loegr yn unig yn parhau i weithredu'n iawn o fewn cyfraith yr UE a ddargedwir. Mae Cymru a'r Alban wedi cynhyrchu eu OSau cenedlaethol eu hunain i sicrhau bod eu rheoliadau gorfodi cenedlaethol yn parhau i weithio'n iawn o fewn cyfraith yr UE a ddargedwir.

Mae Gogledd Iwerddon wedi bwrw ymlaen â diwygiadau i ddeddfwriaeth ddomestig Gogledd Iwerddon i adlewyrchu’r ffaith bod cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu bwyd o fewn cylch gwaith polisi'r ASB yng Ngogledd Iwerddon.  

Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Ymadael â'r UE) (Gogledd Iwerddon) 2020 yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2006 a Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Gogledd Iwerddon) 2015.

Deddfwriaeth sydd wedi’i chreu:

Mae'r OSau uchod yn dilyn ein hymgynghoriad ar ddull arfaethedig tuag at gyfraith yr UE a ddargedwir ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid a'n hymgynghoriad ar ddiwygiadau pellach sy'n ofynnol i gefnogi gweithrediad Protocol Gogledd Iwerddon (NIP) a sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn briodol ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.

Offerynnau Statudol Deddf UE (Cytundeb Ymadael) Defra ac adrannau eraill y llywodraeth

Mae'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi rhestr o offerynnau statudol yr ASB ac adrannau eraill y llywodraeth sydd wedi'u gosod a'u nodi fel rhai sy'n effeithio ar awdurdodau lleol.  Mae rhai o'r offerynnau statudol wedi'u cynnwys yn yr adran enghreifftiau o ddeddfwriaeth isod.

Newid cyfeiriadau yng nghyfraith yr UE i gyfraith, sefydliadau, systemau a phrosesau'r DU

Prydain Fawr

Rhaid i'r ASB sicrhau bod yr holl ddogfennau canllaw a'r deunydd y mae hi'n eu cynhyrchu fel rhan o'i rôl fel yr awdurdod cymwys canolog, ac sydd â goblygiadau cyfreithiol o ran cynnal rheolaethau swyddogol yn gyffredinol, yn cynnwys y cyfeiriadau cywir at gyfraith y DU (yn ogystal â chyfraith perthnasol yr UE, mewn perthynas â Gogledd Iwerddon) a phob swyddogaeth, system a sefydliad perthnasol.

Mae hyn yn golygu y byddwn yn cywiro unrhyw gyfeiriadau at yr UE, sefydliadau, systemau a phrosesau na fydd y DU mewn perthynas â Phrydain Fawr yn dibynnu arnynt mwyach.

Rhaid i'r ASB sicrhau bod yr holl ddogfennau canllaw a'r deunydd y mae hi'n eu cynhyrchu fel rhan o'i rôl fel yr awdurdod cymwys canolog ac sydd â goblygiadau cyfreithiol o ran cynnal rheolaethau swyddogol yn gyffredinol, yn cynnwys y cyfeiriadau cywir at gyfraith yr UE mewn perthynas â Gogledd Iwerddon. Bydd canllawiau'r ASB yn parhau i fod ‘yn gyfredol’ ag unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol yng nghyfraith berthnasol yr UE at ddibenion Gogledd Iwerddon.

Rydym ni'n blaenoriaethu'r materion hynny y mae'n rhaid eu newid er mwyn i bob awdurdod gorfodi bwyd allu gorfodi'r gyfraith o'r diwrnod cyntaf. Bydd hyn yn cynnwys:

O 1 Ionawr 2021, bydd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn gyfrifol am lawer o’r swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop. Darllenwch ragor am y broses dadansoddi risg diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid o 1 Ionawr 2021. Mae'r newid hwn yn golygu y bydd cyfeiriadau at Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a sefydliadau eraill yr UE wedi cael eu disodli gan gyfeiriadau at yr ASB, Safonau Bwyd yr Alban a gweinidogion iechyd.

Dogfennaeth orfodi

Byddwn ni’n diweddaru dogfennau gorfodi a gynhyrchwyd cyn diwedd cyfnod pontio’r UE neu tra’r oedd y DU yn yr UE.

Rhaid i'r ASB sicrhau bod yr holl ddogfennau canllaw a'r deunydd y mae hi’n eu cynhyrchu fel rhan o'i rôl fel yr awdurdod cymwys canolog, ac sydd â goblygiadau cyfreithiol o ran cynnal rheolaethau swyddogol yn gyffredinol, yn cynnwys y cyfeiriadau cywir at gyfraith y DU (yn ogystal â chyfraith perthnasol yr UE, mewn perthynas â Gogledd Iwerddon) a phob swyddogaeth, system a sefydliad perthnasol.

Rydym ni'n blaenoriaethu'r materion hynny y mae'n rhaid eu newid er mwyn i bob awdurdod gorfodi bwyd allu gorfodi'r gyfraith o'r diwrnod cyntaf. Bydd hyn yn cynnwys ffurflenni ardystio a ffurflenni cyfreithiol rhagnodedig a ddefnyddir gan awdurdodau gorfodi. Mae cyfeiriadau eraill yn cael eu hadolygu a'u blaenoriaethu a chânt eu diweddaru maes o law.

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol o 1 Ionawr 2021 mewn perthynas â’r rhan fwyaf o’r gyfraith diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, a safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu, fel y'u rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hynny.

Rheoliadau gorfodi

Bydd yr holl reoliadau gorfodi domestig sy'n benodol i'r gwledydd yn parhau i fod mewn grym ac yn gweithredu'r darpariaethau gweinyddol hanfodol y mae swyddogion awdurdodedig yn dibynnu arnynt, fel:

  • pwerau mynediad
  • pwerau i gyflwyno hysbysiadau ffurfiol
  • troseddau
  • cosbau
  • terfynau amser i ddwyn achos
  • eglurhad ar awdurdodaethau gorfodi

Negeseuon allweddol eraill

  • Cafodd Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 (ECA) ei diddymu ar 31 Ionawr 2020 gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (EUWA). Fodd bynnag, cafodd rhai o ddarpariaethau'r ECA eu 'harbed' wedi hynny trwy welliannau a wnaed i'r EUWA o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020.
  • Bydd deddfwriaeth bwyd a bwyd anifeiliaid yr UE yn eu fersiynau cyfunol yn cael eu hymgorffori yng nghyfraith y DU  o 1 Ionawr 2021.
  • Ni fydd teitlau’r holl ddeddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid yr UE a ddargedwir yn newid.
  • Mae’r ASB wedi cynhyrchu Canllawiau Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid fel adnodd cyfeirio ar gyfer deddfwriaeth bwyd a bwyd anifeiliaid sy'n berthnasol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r ASB yn ceisio sicrhau bod yr wybodaeth sydd yn y canllawiau yn gywir ac yn gyflawn adeg eu cyhoeddi, ond ni warantir bod yr wybodaeth yn hollol gywir a chyflawn. Mae gan yr Archifau Cenedlaethol ddyletswydd statudol i gyhoeddi'r gyfraith sy'n berthnasol ledled y DU yn gywir. Dylech chi gyfeirio at yr Archifau Cenedlaethol (legistlation.gov.uk) i wirio'r gyfraith fel y mae'n berthnasol o bryd i'w gilydd.
  • Mae amryw dermau UE (fel y Gymuned Ewropeaidd, yr Undeb Ewropeaidd, aelod-wladwriaethau) wedi'u dileu gan na fyddant bellach yn berthnasol yng nghyd-destun cyfraith bwyd y DU.
  • Mae'r OSau hyn yn trwsio unrhyw elfennau anweithredol posibl sydd wedi'u cynnwys yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a'r rheoliadau gweithredu domestig priodol. Gweler yr enghreifftiau isod.
  • O 1 Ionawr 2021, pan fyddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd a diwygiedig, byddwn yn ceisio sicrhau bod croesgyfeiriadau yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r gyfraith sydd mewn grym yn y DU ar y pryd (Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon). 
  • Bydd angen i awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd bennu sut orau i adolygu eu canllawiau a'u dogfennaeth eu hunain a'u diwygio yn ôl yr angen i adlewyrchu'r newidiadau yn y gyfraith.

Enghreifftiau o ddeddfwriaeth

Mae'r enghreifftiau canlynol yn berthnasol yn Lloegr yn unig. Fodd bynnag, bydd yr un egwyddorion yn berthnasol i ddeddfwriaeth bwyd a bwyd anifeiliaid genedlaethol ac i ddeddfwriaeth gysylltiedig arall sy'n gyfrifoldeb polisi Defra ac adrannau amaethyddol gweinyddiaethau datganoledig Cymru a’r Alban.

Diogelwch bwyd

Mae rheoliad diogelwch bwyd yr UE 'Rheoliad (CE) 178/2002' yn parhau i gael ei gyfeirio ato fel Rheoliad (CE) 178/2002. Gwnaed cywiriadau i'r rheoliad UE hwn a Rheoliadau Diogelwch Bwyd a Hylendid (Lloegr) 2013 (sy'n caniatáu ar gyfer ei orfodi yn Lloegr) trwy'r OS trwsio, sef Rheoliadau Cyfraith Bwyd Cyffredinol (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019 a Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019. Mae'r un egwyddor yn gymwys i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) Rhif 931/2011 ar y gallu i olrhain.

Mae Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019 hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd (Lloegr) 2013 i ddarparu ar gyfer darpariaeth drosiannol mewn perthynas â'r defnydd parhaus, am gyfnod penodol, o stociau hanesyddol o labeli, deunydd lapio a deunydd pecynnu sy'n cynnwys y marc adnabod ‘UK/EC’. Darllenwch ein canllawiau yma am yr hyn sy'n berthnasol ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon.

Hylendid bwyd

Yn yr un modd, mae rheoliadau hylendid yr UE (a restrir isod) yn parhau i gael eu gorfodi yn Lloegr trwy Reoliadau Diogelwch Bwyd a Hylendid (Lloegr) 2013:

  • Rheoliad (CE) 852/2004
  • Rheoliad (CE) 853/2004
  • Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) 2015/1375
  • Rheoliad (CE) 2073/2005

Roedd Rheoliadau Hylendid Bwyd Penodol (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019 a Rheoliadau Hylendid Bwyd Cyffredinol (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Ymadael â’r UE) 2020, yn gwneud amryw newidiadau i ddeddfwriaeth hylendid bwyd yr UE a ddargedwir a'i rheoliadau gorfodi domestig er mwyn caniatáu iddynt barhau i fod yn weithredol yn y DU mewn perthynas â Phrydain Fawr.

Mae Rheoliad (UE) 2017/625 ac elfennau deddfwriaeth perthnasol eraill, i'r graddau y maent yn ymwneud â bwyd, yn parhau i fod â'r un teitlau. Bydd yr elfennau a arferai gael eu cynnwys yn Rheoliad (CE) 854/2004 (er enghraifft Rheoliad (UE) 2019/627) yn parhau i gael eu gorfodi trwy Reoliadau Diogelwch Bwyd a Hylendid (Lloegr) 2013.

Rheolaethau swyddogol

Mae elfennau Rheoliad (UE) 2017/625 a oedd yn flaenorol wedi’u cynnwys yn Rheoliad (CE) 882/2004 yn cael eu gorfodi trwy Reoliadau Swyddogol Rheoli Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Lloegr) 2009 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol ac ati.) (Ymadael â’r UE) 2020 a Rheoliadau Swyddogol Rheoli Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Lloegr) (Diwygiadau Amrywiol) 2019.

Mae y rheoliadau a ganlyn yn gwneud amryw o newidiadau i'r pecyn deddfwriaeth rheolaethau swyddogol a'i ddeddfwriaeth gweithredu domestig er mwyn caniatáu iddynt barhau i fod yn weithredol yn y DU:
 

  • Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, Iechyd Planhigion ac ati) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
  • Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Ymadael â'r UE) 2020
  • Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, Iechyd Planhigion ac ati) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2020

Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE)

Mae Rheoliad (CE) 999/2001 yn parhau i gael ei orfodi trwy Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Lloegr) 2018. Bydd Rheoliad (CE) 999/2001 yn cael ei ddiwygio gan Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019, a wnaeth y newidiadau priodol sy'n ofynnol er mwyn i'r ddeddfwriaeth barhau i weithredu ar ôl i ni ymadael.

Ychwanegion bwyd

Mae Rheoliad (CE) Rhif 1333/2008 ar ychwanegion bwyd, a Rheoliad (UE) Rhif 234/2011 a Rheoliad (CE) Rhif 1331/2008 sy'n sefydlu gweithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd, yn parhau i gael eu gorfodi trwy’r Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Lloegr) 2013. Mae'r un peth yn wir am ddeddfwriaeth debyg yr UE ar gyflasynnau ac ensymau.

Roedd holl ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir a’i rheoliadau gorfodi domestig yn cael ei diwygio gan Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Ymadael â'r UE) 2020, a wnaeth ddileu cyfeiriadau at sefydliadau'r UE fel Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a'r Comisiwn ac yn disodli ag endidau priodol y DU. Gall yr holl ychwanegion bwyd a awdurdodwyd cyn diwedd y cyfnod pontio barhau i gael eu defnyddio yn unol â'r manylebau a'r amodau defnyddio a bennir yng nghyfraith yr UE a ddargedwir.

O 1 Ionawr 2021, bydd ceisiadau am ychwanegion, cyflasynnau ac ensymau newydd yn cael eu rheoli yn y DU gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban, a fydd, er enghraifft, yn gyfrifol am sicrhau y caiff yr asesiad risg priodol ei lunio a darparu cyngor ar p'un a yw sylwedd newydd yn ddiogel a bod modd ei ychwanegu at restr o sylweddau cymeradwy. Fodd bynnag, mater i'r awdurdod priodol fel y caiff ei ddynodi fydd gwneud y penderfyniad rheoli risg terfynol ar awdurdodi ai peidio.

Halogion mewn bwyd

Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 315/93 yn gosod gweithdrefnau’r Gymuned ar gyfer halogion mewn bwyd a Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 1881/2006, sy’n gosod lefelau uchaf ar gyfer rhai halogion mewn bwydydd. Bydd Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Ymadael â'r UE) 2020, wedi cywiro elfennau anweithredol o fewn deddfwriaeth halogion yr UE i adlewyrchu’r ffaith y bydd asesiadau risg a phenderfyniadau rheoli risg yn cael eu gwneud o fewn y DU.

Deddfwriaeth bwyd anifeiliaid

Mae holl ddeddfwriaeth bwyd anifeiliaid yr UE (rhestr ddethol isod) yn parhau i gael eu gorfodi drwy reoliadau gweithredu domestig presennol:

  • Rheoliad (CE) Rhif 183/2005 (sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid)
  • Rheoliad (CE) Rhif 1831/2003 (sy'n gwneud darpariaethau ar gyfer ychwanegion a ddefnyddir mewn maeth anifeiliaid)
  • Rheoliad (CE) Rhif 767/2009 (sy'n rheoli'r broses o roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a'r defnydd ohono)
  • Rheoliad (UE) Rhif 68/2013 (sy'n catalogio deunyddiau bwyd anifeiliaid)
  • deddfwriaeth sy'n awdurdodi'r holl ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol sy'n bodoli ar ddiwedd y cyfnod pontio

Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Ymadael â'r UE) 2020 yn gwneud y newidiadau priodol sy'n ofynnol er mwyn i'r ddeddfwriaeth bwyd anifeiliaid uchod barhau i weithredu o 1 Ionawr 2021.