Alergedd ac anoddefiad bwyd
Dysgwch am yr 14 alergen a reoleiddir a pha wybodaeth am alergeddau y mae’n rhaid i fusnesau bwyd ei darparu i chi.
Mae’n bwysig bod gennych yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud dewisiadau bwyd diogel.
Dyna pam mae deddfau labelu a gwybodaeth am alergenau sy’n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd roi gwybodaeth i chi am yr hyn sydd yn eich bwyd.
Os byddwch chi’n teimlo’n sâl neu’n cael adwaith alergaidd ar ôl bwyta, dylech geisio cymorth meddygol ar unwaith. Mae gan y GIG wybodaeth am y camau i’w dilyn os bydd rhywun yn cael adwaith alergaidd.
Os oes gennych alergedd a’ch bod yn gorfod defnyddio Awto-Chwistrellwr Adrenalin (AAI), mae’n bwysig ei gario gyda chi. Mae’n bwysig defnyddio AAI os ydych yn meddwl eich bod wedi cael adwaith alergaidd. Mae gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) fwy o wybodaeth am AAIs a sut i’w defnyddio.
Os ydych chi wedi cael adwaith alergaidd, adwaith cysylltiedig â chlefyd seliag neu wedi profi anoddefiad, neu os ydych chi wedi profi “achos a fu bron â digwydd” (near miss), cysylltwch â’r busnes bwyd yn y lle cyntaf i roi gwybod am eich profiad. Os ydych chi’n meddwl bod angen cymryd camau pellach, efallai yr hoffech chi gysylltu â thîm diogelwch bwyd yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol.
Rydym yn gyfrifol am labelu alergenau a darparu canllawiau i ddefnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd (alergedd bwyd, anoddefiad bwyd a chlefyd seliag). Mae ein gwasanaeth rhybuddion alergedd yn rhan o’r cyfrifoldeb hwn. Gallwch danysgrifio i’r gwasanaeth hwn a chael hysbysiadau pan fyddwn yn cyhoeddi rhybuddion alergedd ac yn galw cynhyrchion yn ôl.
Yr 14 alergen a reoleiddir
Yn y DU, mae’n rhaid i fusnesau bwyd roi gwybod i chi, o dan gyfraith bwyd, os ydyn nhw’n defnyddio unrhyw un o’r 14 prif alergen a reoleiddir fel cynhwysion yn y bwyd a’r diod maen nhw’n ei werthu.
Mae cyfraith bwyd yn nodi mai dyma’r 14 alergen mwyaf cryf a chyffredin:
- seleri
- grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten (fel gwenith, rhyg (rye), haidd (barley) a cheirch)
- cramenogion (fel corgimychiaid, crancod a chimychiaid)
- wyau
- pysgod bys y blaidd (lupin)
- llaeth
- molysgiaid (molluscs) (fel cregyn gleision ac wystrys)
- mwstard
- pysgnau (peanuts)
- sesame
- ffa soia
- sylffwr deuocsid a sylffitau (mewn crynodiad o fwy na deg rhan fesul miliwn)
- cnau coed (fel cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau Brasil, cnau cashew, cnau pecan, cnau pistachio a chnau macadamia)
Rhybuddion alergeddau
Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, y diwydiant bwyd a sefydliadau defnyddwyr i sicrhau bod defnyddwyr yn ymwybodol o wybodaeth am alergenau sydd un ai ar goll neu’n anghywir ar gynhyrchion bwyd.
Rydym yn cyhoeddi rhybuddion bwyd fel y gallwch chi wneud dewisiadau bwyd diogel.
Gallwch gofrestru i gael rhybuddion alergedd am ddim drwy e-bost neu neges destun bob tro y byddwn yn cyhoeddi rhybudd galw cynnyrch yn ôl. Gallwch ddewis cael rhybuddion am bob alergen, neu rybuddion penodol ar gyfer eich alergedd bwyd chi. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y camau i’w dilyn os ydych chi wedi prynu’r cynnyrch sy’n cael ei alw yn ôl.
Sefydliadau alergedd, anoddefiad, a chlefyd seliag
Mae llawer o sefydliadau ac elusennau sy'n cefnogi'r rheiny sy'n byw ag alergedd bwyd, anoddefiad neu glefyd seliag. Mae’r rhain yn cynnwys:
Hanes diwygio
Published: 10 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Rhagfyr 2024