Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Bwyd anifeiliaid anwes amrwd

Cyngor ar drin a storio bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn ddiogel gartref.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 January 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 January 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Beth yw bwyd anifeiliaid anwes amrwd?

Bwyd anifeiliaid anwes amrwd yw bwyd anifeiliaid anwes sy’n cynnwys cig heb ei brosesu neu heb ei goginio, offal ac asgwrn amrwd. Weithiau ychwanegir cynhwysion eraill heb eu coginio fel ffrwythau, llysiau, olewau, hadau, cnau ac wyau amrwd. Efallai nad yw bob amser yn amlwg bod cynhyrchion - gan gynnwys bwyd anifeiliaid wedi'i sychu a bwydydd cnoi- yn cynnwys cig amrwd.

Gall bwyd anifeiliaid anwes amrwd, yn enwedig cig, gynnwys pathogenau neu facteria a allai achosi salwch ac a fyddai fel arfer yn cael eu lladd yn ystod y broses. goginio. Mae bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn cyflwyno risgiau ychwanegol, nid yn unig i iechyd eich anifeiliaid anwes ond hefyd i bobl yn eich cartref. 

Hyd yn oed wrth gymryd y gofal mwyaf, mae’r risg o groeshalogi yn llawer uwch gyda bwyd anifeiliaid anwes amrwd o gymharu â bwyd anifeiliaid anwes eraill. Mae hyn oherwydd y gallai bacteria fel E.coli neu salmonela ledaenu trwy ddod i gysylltiad â’r bwyd anifeiliaid anwes neu’r anifail anwes. Os bydd anifeiliaid anwes yn cael eu heintio, gallant drosglwyddo’r heintiau i’w perchnogion.

Pwy sy’n wynebu risg uwch?

Plant

Mae plant bach yn aml yn rhoi gwrthrychau yn eu ceg, gan gynnwys eu bysedd, ac maent yn wynebu risg uwch o fynd yn sâl oherwydd bod eu systemau imiwnedd yn dal i ddatblygu.
 
Ni ddylai plant, yn enwedig rhai dan 5 oed, gyffwrdd na bwyta bwyd neu ddanteithion anifeiliaid anwes amrwd. Os ydynt yn dod i gysylltiad â bwyd anifeiliaid anwes amrwd, dylech olchi eu dwylo’n drylwyr â sebon a dŵr.

Pobl hŷn a’r rhai sydd â system imiwnedd wan

Mae pobl hŷn a phobl sydd â system imiwnedd wan yn wynebu risg uwch o gael eu heintio gan facteria gwenwyn bwyd a phathogenau eraill.

Os ydych yn hŷn, neu os oes gennych system imiwnedd wan, dylech sicrhau eich bod yn dilyn arferion hylendid bwyd da a storio a thrin bwyd yn ddiogel. Dylech bob amser olchi’ch dwylo’n drylwyr â sebon a dŵr cyn ac ar ôl trin bwyd neu ddanteithion anifeiliaid anwes amrwd.

Lleihau’r risg o groeshalogi

Gall rhai pobl fynd yn sâl ar ôl trin bwyd neu ddanteithion anifeiliaid anwes amrwd os nad ydynt yn dilyn yr arferion hylendid a thrin cywir. Mae arferion hylendid da a storio a thrin yn ddiogel wrth brynu a pharatoi bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn hanfodol i leihau’r risg o salwch. Dylech ddilyn yr un egwyddorion i atal croeshalogi ag y byddech wrth baratoi a thrin bwyd i bobl.

Dylai pawb ddilyn arferion hylendid da a storio a thrin bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn ddiogel, ond os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn wynebu risg uwch, dylech fod yn hynod ofalus.

Hylendid wrth drin bwyd anifeiliaid anwes amrwd

  • golchwch eich dwylo â sebon a dŵr poeth yn syth ar ôl trin a pharatoi unrhyw fwyd neu ddanteithion anifeiliaid anwes amrwd
  • mae’n bwysig storio a dadmer bwyd a danteithion anifeiliaid anwes amrwd ar wahân i ble mae bwyd pobl yn cael ei storio a’i baratoi
  • cofiwch lanhau a diheintio pob arwyneb y mae’r bwyd anifeiliaid anwes amrwd wedi’i gyffwrdd, fel arwynebau gwaith, cynwysyddion storio, offer cegin a phowlenni bwydo

Storio a thrin bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn ddiogel

  • dylech rewi bwyd anifeiliaid anwes amrwd nes y byddwch ei angen, a’i labelu’n glir fel eich bod yn gwybod yn union beth ydyw
  • defnyddiwch offer a chynwysyddion pwrpasol ar gyfer trin a storio bwyd anifeiliaid anwes amrwd. Peidiwch â defnyddio’r un offer a chynwysyddion rydych wedi’u defnyddio ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes amrwd i drin a pharatoi bwyd i bobl. Glanhewch y rhain yn drylwyr ar ôl eu defnyddio
  • os ydych chi wedi paratoi bwyd anifeiliaid anwes amrwd ffres ac eisiau ei storio yn yr oergell yn y tymor byr, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i labelu’n glir mewn cynhwysydd wedi’i selio
  • cadwch fwyd anifeiliaid anwes amrwd ar wahân i fwyd arall yn yr oergell neu’r rhewgell. Storiwch y bwyd ar y silff isaf yn yr oergell i osgoi diferion rhag trosglwyddo i fwyd pobl
  • mae’n bwysig dadmer bwyd anifeiliaid anwes wedi’i rewi ar wahân i fwyd pobl, arwynebau paratoi bwyd ac offer. Gwnewch yn siŵr bod bwyd anifeiliaid anwes amrwd sy’n dadmer wedi’i labelu’n glir mewn cynhwysydd wedi’i selio
  • taflwch unrhyw fwyd anifeiliaid anwes amrwd nad yw’n cael ei fwyta cyn gynted ag sy’n rhesymol yn ymarferol
  • glanhewch yn drylwyr unrhyw arwynebau y gallai’r bwyd amrwd fod wedi disgyn arnynt ar ôl i’ch anifail anwes fwyta