Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Bwyd a Chi 2 – CSHB Cylch 8: Pennod 1 – Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r CSHB

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth yr ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Ymwybyddiaeth o’r CSHB

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (86%) eu bod wedi clywed am y CSHB. Dywedodd dros hanner (57%) eu bod wedi clywed am y CSHB a’u bod yn gwybod llawer neu ychydig amdano, roedd 29% wedi clywed am y CSHB ond ddim yn gwybod llawer neu ddim byd amdano ac roedd 14% erioed wedi clywed am y CSHB. (footnote 1)

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr a oedd yn byw yng Nghymru (93%), Lloegr (86%), a Gogledd Iwerddon (91%) wedi clywed am y CSHB (Ffigur 1)**.

Ffigur 1. Ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Ffigur 1. Ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
 Wedi clywed am y CSHB Erioed wedi clywed am y CSHB
Lloegr 86 14
Cymru 93 7
Gogledd Iwerddon 91 8

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Roedd gwybodaeth am y CSHB yn amrywio fesul gwlad. Roedd ymatebwyr yng Nghymru (74%) a Gogledd Iwerddon (66%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio a bod ganddynt o leiaf rywfaint o wybodaeth am y Cynllun o gymharu â’r rheiny yn Lloegr (56%).

Roedd gwybodaeth am y CSHB hefyd yn amrywio fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, dywedodd 62% o’r ymatebwyr yng Ngogledd-orllewin Lloegr, 60% o’r rheiny yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, 59% yn Nwyrain Lloegr a 58% yn Ne-ddwyrain Lloegr fod ganddynt rywfaint o wybodaeth am y CSHB, o gymharu â 47% o’r ymatebwyr yn Llundain.

Roedd ymatebwyr rhwng 25 a 74 oed yn fwy tebygol o fod yn gwybod o leiaf ychydig am y CSHB na’r rheiny 75 oed a throsodd. Er enghraifft, dywedodd 65% o’r ymatebwyr rhwng 45 a 64 oed eu bod yn gwybod am y CSHB, o gymharu â 45% o’r rheiny 75 oed a throsodd (Ffigur 2).

Ffigur 2. Ymwybyddiaeth o’r CSHB a gwybodaeth amdano fesul grŵp oedran

Ffigur 2. Ymwybyddiaeth o’r CSHB a gwybodaeth amdano fesul grŵp oedran
 Wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod ychydig/tipyn amdano Wedi clywed am y CSHB ond ddim yn gwybod llawer/dim byd amdano Erioed wedi clywed am y CSHB
16-24 51 37 11
25-34 56 34 10
35-44 62 31 7
45-54 65 23 12
55-64 63 26 11
65-74 58 27 15
75+ 45 27 28

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Roedd gwybodaeth am y CSHB hefyd yn amrywio rhwng y grwpiau canlynol o bobl:

  • Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC): roedd ymatebwyr mewn grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 61% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd a galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (40%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (59%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (34%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (58%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny nad ydynt yn siopa am fwyd (41%).
  • Grŵp ethnig: roedd ymatebwyr gwyn (60%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB nag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (46%).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB ymhle roedden nhw wedi dod ar ei draws. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd trwy weld sticer a oedd wedi’i arddangos mewn safle busnes bwyd (85%). Roedd 36% o’r ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB ar wefan busnes bwyd; roedd 22% wedi dod ar ei draws ar wefan neu ap archebu a dosbarthu bwyd (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats); roedd 16% wedi clywed am y CSHB gan rywun, ac roedd 16% wedi dod ar ei draws ar wefan yr ASB (Ffigur 3). (footnote 2)

Ffigur 3. Lleoliadau lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Ffigur 3. Lleoliadau lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
 Percentage of respondents (%)
Rhywle arall 6
Ar wefan arall 3
Ar ap arall 4
Mewn hysbyseb neu erthygl mewn cylchgrawn 5
Yn y papur newyddion lleol 8
Ar y cyfryngau cymdeithasol 10
Ar wefan yr ASB 16
Wedi clywed gan rywun 16
Ar wefan neu ap archebu/dosbarthu bwyd 22
Ar wefan busnes bwyd 36
Sticer mewn busnes bwyd 85

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yng Nghymru (90%), Lloegr (85%) a Gogledd Iwerddon (89%) wedi dod ar draws y CSHB trwy weld sticer ar safle busnes bwyd (Ffigur 4)**. Yr ail le mwyaf cyffredin yr oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB yng Nghymru (38%) yn Lloegr (37%) ac yng Ngogledd Iwerddon (29%) oedd ar wefan busnes bwyd**.

Ffigur 4. Y 5 lle mwyaf amlwg lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Ffigur 4. Y 5 lle mwyaf amlwg lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
 Lloegr Cymru Gogledd Iwerddon
Ar wefan yr ASB 15 18 16
Wedi clywed gan rywun 15 22 18
Ar wefan neu ap archebu/dosbarthu bwyd 23 18 15
Ar wefan busnes bwyd 37 38 29
Sticer mewn busnes bwyd 85 90 89

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Roedd gwahaniaethau rhwng grwpiau oedran o ran ble roedd ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB:

  • Roedd ymatebwyr o dan 65 oed yn fwy tebygol o fod wedi dod ar draws y CSHB drwy sticer mewn busnes bwyd nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 91% o’r rhai rhwng 45 a 64 oed wedi dod ar draws sticer mewn busnes bwyd, o’i gymharu â 78% o’r rhai rhwng 65 a 74 oed.
  • Roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi dod ar draws y CSHB drwy wefan neu ap archebu bwyd nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 39% o bobl rhwng 25 a 34 oed wedi dod ar draws y CSHB drwy wefan neu ap archebu bwyd, o gymharu â 6% o bobl rhwng 65 a 74 oed a 3% o bobl 75 oed a hŷn.
  • Roedd ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed yn fwy tebygol o fod wedi dod ar draws y CSHB drwy’r cyfryngau cymdeithasol (24%) na phobl 25 oed a hŷn. Er enghraifft, roedd 8% o’r ymatebwyr rhwng 45 a 64 oed wedi dod ar draws y CSHB drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Roedd ymatebwyr 75 oed a hŷn yn fwy tebygol o fod wedi dod ar draws y CSHB mewn papur newydd lleol (14%) neu mewn hysbyseb neu erthygl gylchgrawn (13%) na’r rhai rhwng 16 a 24 oed (1% ar gyfer y naill leoliad neu’r llall).

Adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i’r ymatebwyr, dywedodd 89% ohonyn nhw eu bod nhw wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn uwch yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (94%) nag yn Lloegr (89%) (footnote 3)**.

Roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer nag ymatebwyr hŷn. Er enghraifft, dywedodd 96% o’r ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed eu bod wedi gweld y sticer, o gymharu â 69% o’r rhai 75 oed a hŷn (Ffigur 5).

Ffigur 5. Adnabyddiaeth o'r sticer sgôr hylendid bwyd fesul grŵp oedran

Ffigur 5. Adnabyddiaeth o'r sticer sgôr hylendid bwyd fesul grŵp oedran
 Wedi gweld y sticer o'r blaen Heb weld y sticer o'r blaen
16-24 96 3
25-34 94 2
35-44 95 2
45-54 92 4
55-64 91 5
65-74 81 13
75+ 69 25

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Roedd adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd hefyd yn amrywio ar gyfer y grwpiau canlynol:  

  • Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr mewn cartrefi â 3 neu fwy o bobl (er enghraifft, 95% o’r rheiny mewn cartrefi â phedwar person) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi ag un person (80%).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm dros £96,000 yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd (97%), na’r rheiny ag incwm llai nag £19,000 (86%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (90%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (80%).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle roedden nhw wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gweld y sticer mewn bwytai (84%), mewn caffis (72%) neu mewn siopau tecawê (65%) (Ffigur 6) (footnote 4).

Ffigur 6. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf

Ffigur 6. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
 Canran yr ymatebwyr (%)
Ar stondinau marchnad / bwyd stryd 8
Mewn siopau bwyd eraill 10
Mewn ysgolion a sefydliadau eraill 14
Mewn archfarchnadoedd 14
Mewn gwestai / llety gwely a brecwast 24
Mewn tafarndai 52
Mewn siopau coffi neu frechdanau 57
Mewn siopau tecawê 65
Mewn caffis 72
Mewn bwytai 84

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn bwytai yng Nghymru (85%), Lloegr (83%) a Gogledd Iwerddon (85%)**. Roedd ymatebwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn siopau tecawê (76%) a siopau coffi neu frechdanau (68%) o gymharu ag ymatebwyr yn Lloegr (siopau tecawê 64%, siopau coffi neu frechdanau 56%). Roedd ymatebwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn tafarndai (65%) na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (42%) a Lloegr (52%). Roedd ymatebwyr yng Nghymru (37%) a Gogledd Iwerddon (37%) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn gwestai a llety gwely a brecwast nag ymatebwyr yn Lloegr (23%) (Ffigur 7).

Ffigur 7. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Ffigur 7. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
 Lloegr Cymru Gogledd Iwerddon
Ar stondinau marchnad / bwyd stryd 8 15 8
Mewn siopau bwyd eraill 10 17 11
Mewn ysgolion a sefydliadau eraill 13 22 19
Mewn archfarchnadoedd 13 24 17
Mewn gwestai / llety gweld a brecwast 23 37 37
Mewn tafarndai 52 65 42
Mewn siopau coffi neu frechdanau 56 68 64
Mewn siopau tecawê 64 76 73
Mewn caffis 71 79 78
Mewn bwytai 83 85 85

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8