Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Cofnodion datblygu polisi ar gyfer hylendid cig

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd sy'n ymwneud â chofnodion datblygu polisi ar gyfer hylendid cig, pam mae angen data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn gallu prosesu data personol pan fyddwn ni'n ymgynghori neu pan ddaw ymholaidau i law, sesiynau briffio neu ddatganiadau, a gwybodaeth yng nghyd-destun gweithdrefnau caffael yr ASB a rheoli contractau, prosiectau a deunydd cyfeirio. 

Gwnawn hyn yn unol â'n dyletswyddau statudol i gydymffurfio â'n rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny, yn unol â Rheoliad (CE) 178/2002, gyda Dull yr ASB o ymgynghori, gydag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth EM ac yn unol â gofynion polisi caffael Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth hon am 7 mlynedd wedi iddi ddod i law ac yna bydd penderfyniad ar beth i'w gadw'n barhaol.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i adrannau eraill y llywodraeth. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd. 

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).