Newyddion a rhybuddion diweddaraf
Cynnwys poblogaidd
Yma i helpu busnesau bwyd
Yn ystod COVID-19 mae llawer o fusnesau bwyd wedi arallgyfeirio i gynnig gwasanaeth dosbarthu bwyd, tecawê neu i werthu ar-lein. Bu cynnydd hefyd yn y bobl sy'n coginio gartref ac yn gwerthu bwyd yn lleol neu ar-lein. Rydym ni yma i'ch helpu chi i addasu eich busnes, i gydymffurfio â gofynion hylendid ac i ddiogelu eich cwsmeriaid.
Bwyta allan? Bwyta gartref?
Bydd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn eich helpu i ddewis ble i fwyta allan neu i siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth i chi am y safonau hylendid mewn bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai, a mannau eraill lle byddwch yn bwyta allan, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.
Hyfforddiant alergedd ac anoddefiad bwyd
Mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi ar reoli alergenau yn effeithiol. Rydym ni’n cynnig cyrsiau diogelwch bwyd ar-lein am ddim i'ch helpu chi a'ch busnes i gydymffurfio â gofynion hylendid a safonau bwyd.