Chwiliwch am gyfleoedd tendro yn ein porth e-dendro. Drwy gofrestru gallwch chi fynegi diddordeb mewn tendr, cael mynediad at fanylebau manwl ac ymateb ar ran eich sefydliad.
Er mwyn helpu i leihau gwastraff amgylcheddol a helpu sefydliadau i greu tendr llwyddiannus sy'n cydymffurfio, rydym ni ond yn derbyn ymatebion tendro electronig a gyflwynir trwy ein system e-dendro.
Mae gwybodaeth am dendrau cyfredol a rhai sydd wedi dod i ben hefyd ar gael ar y safleoedd canlynol:
- Dod o hyd i Dendr, sef gwasanaeth e-hysbysu newydd y DU lle mae hysbysiadau caffael yn cael eu cyhoeddi
- Dod o hyd i gontract Cyfleuster ar-lein am ddim i ddod o hyd i gontractau'r sector cyhoeddus a chyfleoedd isgontractio dros £25,000
Os hoffech wybodaeth ychwanegol am unrhyw un o'n contractau a restrir, anfonwch e-bost at ein Tîm Caffael gyda chrynodeb o'ch cais a'ch manylion cyswllt, byddwn yn ceisio ymateb o fewn dau ddiwrnod gwaith.