Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 8 Key Findings

Bwyd a Chi 2, Cylch 8: Pennod 6 – Bwyta gartref

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth ac ymddygiadau’r ymatebwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 October 2024

Cyflwyniad

Mae’r ASB yn gyfrifol am ddiogelu’r cyhoedd rhag clefydau a gludir gan fwyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr, cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd, a’r sectorau manwerthu a lletygarwch, i sicrhau bod y bwyd y mae pobl yn ei brynu yn ddiogel. Mae’r ASB yn rhoi canllawiau ymarferol ac argymhellion i ddefnyddwyr ar ddiogelwch a hylendid bwyd yn y cartref.

Mae arolwg Bwyd a Chi 2 yn gofyn i’r ymatebwyr am eu hymddygiadau mewn perthynas â bwyd yn y cartref, gan gynnwys a ydynt yn bwyta bwydydd penodol, ac am eu gwybodaeth a’u hymddygiadau mewn perthynas â phum agwedd bwysig ar ddiogelwch bwyd, sef: glanhau, coginio, oeri, atal croeshalogi a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’. Mae Bwyd a Chi 2 hefyd yn gofyn i ymatebwyr pa mor aml y maent yn paratoi neu’n bwyta rhai mathau o fwyd.

Mae yna ddwy fersiwn o’r modiwl ‘Bwyta gartref’; y modiwl craidd sy’n cynnwys nifer cyfyngedig o’r prif gwestiynau sy’n cael eu trafod yn flynyddol, a’r modiwl ‘archwiliad dwfn’ sy’n cynnwys cwestiynau ychwanegol ac sy’n cael ei anfon bob 2 flynedd. Mae’r bennod hon yn adrodd ar gwestiynau o’r modiwl craidd ‘Bwyta gartref’.(footnote)

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth ac ymddygiadau’r ymatebwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd.

Glanhau

Golchi dwylo yn y cartref

Mae’r ASB yn argymell y dylai pawb olchi eu dwylo cyn paratoi, coginio neu fwyta bwyd, ar ôl trin bwyd amrwd, a chyn paratoi bwyd parod i’w fwyta.

Dywedodd 7 o bob 10 o’r ymatebwyr (70%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu fwyta bwyd, a nododd 29% o’r ymatebwyr eu bod y gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, tra dywedodd 1% nad ydyn nhw byth yn gwneud hyn.(footnote)

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (92%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl trin cig, dofednod neu bysgod amrwd, a dywedodd 7% eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dywedodd llai na 0.5% nad ydyn nhw byth yn gwneud hyn.(footnote)

Dywedodd dau o bob pump o’r ymatebwyr (41%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn bwyta, dywedodd 55% o ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dywedodd 3% nad ydyn nhw byth yn golchi eu dwylo cyn bwyta.(footnote)

Golchi dwylo wrth fwyta allan

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, roeddent yn golchi eu dwylo neu’n defnyddio hylif diheintio dwylo (sanitising gel) neu weips cyn bwyta pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref. Dywedodd traean (33%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo, yn defnyddio hylif diheintio dwylo neu weips pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref. Roedd 59% yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, ac nid oedd 7% byth yn gwneud hyn.(footnote)

Oeri

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar oeri bwyd yn gywir i helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu.

Ydy’r ymatebwyr yn gwirio tymheredd yr oergell ac, os ydynt, sut?

Pan ofynnwyd iddynt beth yw’r tymheredd cywir y tu mewn i oergell, dywedodd 60% o’r ymatebwyr sydd ag oergell y dylai fod rhwng 0 a 5 gradd Celsius, fel yr argymhellir gan yr ASB. Dywedodd un rhan o bump (20%) o’r ymatebwyr y dylai’r tymheredd fod yn uwch na 5 gradd, dywedodd 3% y dylai’r tymheredd fod yn is na 0 gradd, ac nid oedd 16% o’r ymatebwyr yn gwybod beth oedd y tymheredd cywir ar gyfer y tu mewn i’w hoergell.(footnote)

Dywedodd tri o bob pump o’r ymatebwyr ag oergell eu bod yn monitro’r tymheredd, naill ai â llaw (46%) neu drwy larwm tymheredd mewnol (12%).(footnote) O blith yr ymatebwyr sy’n monitro tymheredd eu hoergell, dywedodd 80% eu bod yn gwirio tymheredd eu hoergell o leiaf unwaith y mis, yn unol ag argymhelliad yr ASB.(footnote)

Coginio

Mae’r ASB yn argymell y bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. Wrth goginio porc, dofednod, a chynhyrchion briwgig, mae’r ASB yn argymell y dylai’r cig fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd, ac nad yw unrhyw ran o’r cig yn binc, a bod unrhyw suddion yn glir.

Dywedodd tua thri chwarter (77%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn coginio bwyd nes ei fod yn stemio'n boeth ac wedi'i goginio’r holl ffordd drwodd, ond dywedodd 23% nad ydyn nhw bob amser yn gwneud hyn.(footnote)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor aml y maent yn bwyta cyw iâr neu dwrci pan fo’r cig yn binc neu pan fo’r suddion yn binc.(footnote) Dywedodd 9 o bob 10 (90%) o’r ymatebwyr nad ydyn nhw byth yn bwyta cyw iâr na thwrci pan fydd y cig neu’r suddion yn binc. Fodd bynnag, nododd 7% o'r ymatebwyr eu bod yn bwyta cyw iâr neu dwrci o leiaf yn achlysurol pan fydd yn binc neu pan fydd y sudd yn binc.(footnote)

Ailgynhesu

Ffigur 24. Sut mae’r ymatebwyr yn gwirio a yw bwyd sydd wedi’i ailgynhesu yn barod i’w fwyta

Ffigur 24. Sut mae’r ymatebwyr yn gwirio a yw bwyd sydd wedi’i ailgynhesu yn barod i’w fwyta.
Y dull a ddefnyddir Canran yr ymatebwyr
Defnyddio thermomedr / prôb 13
Rhoi fy llaw drosto / ei gwrdd 15
Ei flasu 27
Gwirio bod y tymheredd yn gyson drwyddo draw 30
Defnyddio amserydd 33
Ei droi 35
Gweld stê, yn codi ohono 36
Gweld ei fod yn ffrwtian 37
Dilyn y cyfarwyddiadau ar y label 47
Gwirio bod y canol yn boeth 56

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi sut maent yn gwirio bod bwyd yn barod i’w fwyta pan fyddant yn ei ailgynhesu. Y dull mwyaf cyffredin oedd gwirio bod y canol yn boeth (56%), a’r dulliau lleiaf cyffredin oedd rhoi llaw dros y bwyd neu gyffwrdd ag ef (15%), neu ddefnyddio thermomedr neu brôb (13%) (Ffigur 24). (footnote 1)

Mae’r ASB yn argymell ailgynhesu bwyd unwaith yn unig. Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr sawl gwaith y byddent yn ailgynhesu bwyd, dywedodd y mwyafrif y byddent yn ailgynhesu bwyd unwaith yn unig (79%). Byddai 11% yn ailgynhesu bwyd ddwywaith, a byddai 3% yn ailgynhesu bwyd fwy na dwywaith. (footnote 2)

Bwyd dros ben

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am ba mor hir y byddent yn cadw bwyd dros ben yn yr oergell. Dywedodd tua 6 o bob deg (64%) o’r ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn deuddydd, dywedodd 27% o’r ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn tridiau i 5 diwrnod, a dywedodd 2% y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl 5 diwrnod neu fwy. (footnote 3)

Atal croeshalogi

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar atal croeshalogi. Mae’r ASB yn argymell na ddylai pobl olchi cig na dofednod amrwd. Wrth olchi cig amrwd, gellir lledaenu bacteria niweidiol ar eich dwylo, eich dillad, eich offer a’ch arwynebau gwaith.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, roeddent yn golchi cyw iâr amrwd. (footnote 4) Dywedodd dros hanner (56%) yr ymatebwyr nad ydynt byth yn golchi cyw iâr amrwd; fodd bynnag, dywedodd 40% o’r ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn yn achlysurol o leiaf. (footnote 5)

Sut a ble mae’r ymatebwyr yn storio cig a dofednod amrwd yn yr oergell

Mae’r ASB yn argymell y dylid gorchuddio cig a dofednod amrwd yn yr oergell, eu cadw ar wahân i fwydydd parod i’w bwyta, a’u storio ar waelod yr oergell i atal croeshalogi.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi, o blith ymatebion amrywiol, sut maent yn storio cig a dofednod yn yr oergell. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yn eu deunydd pecynnu gwreiddiol (71%) neu ar wahân i fwydydd wedi’u coginio (51%). Dywedodd 4 o bob deg o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd mewn cynhwysydd wedi’i selio (40%) a’u bod yn gorchuddio cig a dofednod amrwd â ffilm/ffoil (35%), gydag 14% o’r ymatebwyr yn cadw’r cynnyrch ar blât. (footnote 6)

Dywedodd y rhan fwyaf (63%) o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd ar waelod yr oergell, fel y mae’r ASB yn ei argymell. Fodd bynnag, dywedodd 20% o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd ble bynnag y mae lle yn yr oergell, dywedodd 11% eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yng nghanol yr oergell, a dywedodd 7% eu bod yn eu storio yn rhan uchaf yr oergell. (footnote 7)

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am yr hyn maent yn ei ddeall am wahanol fathau o labeli dyddiadau a chyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu bwyd, oherwydd os caiff bwyd ei storio yn rhy hir neu ar y tymheredd anghywir, gall achosi gwenwyn bwyd. Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch bwyd. Mae dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd bwyd.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa ddyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Nododd oddeutu dwy ran o dair (65%) o’r ymatebwyr yn gywir mai’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yw’r wybodaeth sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Fodd bynnag, dywedodd rhai o’r ymatebwyr (10%) mai’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yw’r dyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. (footnote 8)

Dywedodd dwy ran o dair (66%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn coginio neu baratoi bwyd. Yn ogystal, nododd 31% o’r ymatebwyr eu bod yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dywedodd 1% o’r ymatebwyr nad oeddent byth yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’. (footnote 9)

Ffigur 25. Pa mor hir ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ y byddai ymatebwyr yn bwyta gwahanol fwydydd

Ffigur 25. Pa mor hir ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ y byddai ymatebwyr yn bwyta gwahanol fwydydd.
Math o fwyd Unrhyw bryd ar ôl y dyddiad defnyddio erbyn 7+ diwnod 3-6 diwrnod 1-2 diwrnod Byth
Pysgod cregyn 23 0 2 20 75
Unrhyw bysgod eraill 35 0 4 31 62
Cig amrwd fel cig eidion,
cig oen neu borc neu ddofednod amrwd " 46 1 6 38 52
Pysgod mwg 49 2 13 34 48
Llaeth 57 2 18 37 40
Cigoedd wedi’u coginio 45 1 16 40 40
Iogwrt 61 6 22 34 36
Salad mewn bagiau 71 2 22 47 26
Caws 71 18 28 24 23

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sy’n bwyta bwydydd penodol pryd, os o gwbl, yw’r dyddiad hwyraf y byddent yn bwyta’r math o fwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Dywedodd y rhan fwyaf na fyddent yn bwyta pysgod cregyn (75%), na physgod eraill (62%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni fyddai tua hanner yr ymatebwyr yn bwyta cig amrwd (52%) na physgod mwg (48%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Salad mewn bagiau (71%) a chaws (71%) oedd y bwydydd yr oedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud y byddent yn eu bwyta ar unrhyw adeg ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Byddai tua 6 o bob deg o’r ymatebwyr yn bwyta iogwrt (61%), llaeth (57%) a chigoedd wedi’u coginio (57%) ar unrhyw adeg ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (Ffigur 25). (footnote 10)