Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 8 Key Findings

Bwyd a Chi 2, Cylch 8: Pennod 2 – Pryderon am fwyd

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon ymatebwyr am fwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 October 2024

Cyflwyniad

Gwaith yr ASB, fel y nodir yn y gyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol. Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon yr ymatebwyr am fwyd.

Pryderon cyffredin

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Nid oedd gan y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (79%) unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta, a dim ond 21% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder. (footnote 1)

Ffigur 2. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd heb anogaeth

Ffigur 2. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd heb anogaeth.
Math o bryder Canran yr ymatebwyr
Y gadwyn cyflenwi bwyd 6
Dilysrwydd bwyd 6
Halogi bwyd 10
Labelu bwyd 11
Tarddiad bwyd 12
Materion amgylcheddol a moesegol 12
Maeth ac iechyd 22
Ansawdd bwyd 29
Dulliau cynhyrchu bwyd 30
Diogelwch a hylendid bwyd 33

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryderon esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd (33%), dulliau cynhyrchu bwyd (30%), ansawdd bwyd (29%), a maeth ac iechyd (22%) (Ffigur 2). (footnote 2)

Ffigur 3. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd gydag anogaeth

Ffigur 3. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd gydag anogaeth.
Math o bryder Canran yr ymatebwyr
Hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê 47
Hylendid bwyd wrth fwyta allan 47
Faint o halen sydd mewn bwyd 47
Faint o fraster sydd mewn bwyd 48
Gallu bwyta’n iachus 50
Lles anifeiliaid 51
Gwenwyn bwyd 54
Faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir 55
Faint o siwgr sydd mewn bwyd 58
Gwastraff bwyd 63
Ansawdd bwyd 65
Prisiau bwyd 69

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddyn nhw bryderon am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Y pryder mwyaf cyffredin oedd prisiau bwyd (69%). Roedd pryderon cyffredin eraill yn cynnwys ansawdd bwyd (65%), gwastraff bwyd (63%), a faint o siwgr sydd mewn bwyd (58%) (Ffigur 3). (footnote 3)

Ffigur 4. Lefel y pryder am bynciau sy’n ymwneud â bwyd

Ffigur 4. Lefel y pryder am bynciau sy’n ymwneud â bwyd.
Pwnc yn ymwneud â bwyd Ddim yn bryderus o gwbl Ddim yn bryderus iawn Ychydig yn bryderus Yn bryderus iawn
Argaeledd amrywiaeth eang o fwyd 12 36 35 13
Bod bwyd a gynhyrchir yn y DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label 12 37 32 15
Diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir yn y DU 10 34 33 19
Bod bwyd o’r tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label 5 21 44 26
Bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn modd cynaliadwy 5 20 45 27
Bwyd a addaswyd yn enetig (GM) 10 21 34 28
Diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r DU 3 18 45 30
Cynhwysion ac ychwanegion mewn bwyd 4 18 44 31
Lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd 5 16 41 34
Fforddiadwyedd bwyd 2 9 38 49

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi i ba raddau roedden nhw’n pryderu am nifer o faterion penodol sy’n ymwneud â bwyd. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o nodi lefel uchel o bryder am fforddiadwyedd bwyd (49%). Roedd materion eraill yr oedd yr ymatebwyr yn bryderus iawn yn eu cylch yn cynnwys lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd (34%), a chynhwysion ac ychwanegion mewn bwyd (31%) (Ffigur 4). (footnote 4)

Roedd lefel y pryder am fforddiadwyedd bwyd a nodwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 16 a 54 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r rheiny oedd yn 55 oed neu’n hŷn (er enghraifft, 55% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed o gymharu â 34% o’r rheiny oedd yn 75 oed neu’n hŷn). 
  • Incwm blynyddol y cartref: Roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm uwch, (er enghraifft, 56% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000 o gymharu â 36% o’r rheiny ag incwm dros £96,000).
  • Rhanbarth (Lloegr) (footnote 5): roedd lefelau’r pryder ynghylch fforddiadwyedd bwyd yn amrywio fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (64%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd yn byw yn y rhan fwyaf o ranbarthau eraill Lloegr, gan gynnwys Dwyrain Canolbarth Lloegr (45%), Llundain (47%), De-orllewin Lloegr (42%) a De-ddwyrain Lloegr (46%).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (74%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd isel (61%) neu ymylol (58%). Y rheiny â diogeledd bwyd uchel oedd lleiaf tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd (40%). 
  • Grŵp ethnig: Roedd yr ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (59%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r ymatebwyr gwyn (48%).  (footnote 6)