Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 7 Key Findings

Bwyd a Chi 2 Cylch 7: Pennod 4 Siopa am fwyd a labelu bwyd

Mae'r bennod hon yn rhoi trosolwg o brynu bwyd, yr hyn y mae'r ymatebwyr yn chwilio amdano wrth siopa a hyder mewn labelu alergenau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 April 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 April 2024

Cyflwyniad

Mae labelu bwyd yn rhan o gylch gwaith nifer o gyrff, a’r rheiny’n amrywio rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 
Mae’r ASB yn gyfrifol am yr agweddau hynny ar labelu bwyd sy’n ymwneud â diogelwch bwyd ac alergenau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn ogystal, mae’r ASB yng Nghymru yn gyfrifol am labelu bwyd sy’n ymwneud â safonau cyfansoddiad bwyd a’r wlad tarddiad. Mae’r ASB yng Ngogledd Iwerddon yn gyfrifol am labelu bwyd mewn perthynas â safonau cyfansoddiad bwyd, gwlad tarddiad, a maeth (footnote 1)

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn chwarae rôl bwysig mewn perthynas â chynhyrchu bwyd, ac mae’n gyfrifol am agweddau ar labelu bwyd, fel cyfansoddiad a tharddiad. 

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o brynu bwyd, yr hyn y mae’r ymatebwyr yn chwilio amdano wrth siopa, a hyder mewn labelu alergenau. Cyd-ariannodd Defra gwestiynau yn y bennod hon sy’n ymwneud â tharddiad bwyd, cynaliadwyedd a lles anifeiliaid.

Ffigur 14. O ble mae’r ymatebwyr yn prynu bwyd.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Busnes bwyd Byth 2-3 gwaith y mis neu'n llai aml Tua unwaith yr wythnos neu'n amlach
Bocs ryseitiau i'ch cartref 85 10 4
Marchnad leol, marchnad ffermwyr neu siop fferm 43 44 8
Archebu bwyd neu ddiod ar-lein o archfarchnad 53 31 13
Gwerthwr llysiau, cigydd, pobydd neu werthwr pysgod annibynnol 26 53 18
Siop leol/gornel, siop bapur newydd, siop gorsaf betrol 24 47 24
Archfarchnad fach (er enghraifft Local/Metro) 11 36 51
Archfarchnad fawr 2 22 75

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud ble a pha mor aml y maen nhw’n prynu bwyd. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn prynu bwyd o archfarchnad fawr (75%) neu archfarchnad fach tua unwaith yr wythnos neu’n amlach (51%). Dywedodd tua hanner (53%) o’r ymatebwyr eu bod yn prynu bwyd o siopau annibynnol (siopau ffrwythau a llysiau, cigyddion, pobyddion, siopau pysgod); roedd 47% yn prynu bwyd o siop gornel leol, siop bapurau newydd neu siop gorsaf betrol; ac roedd 44% yn prynu bwyd o farchnadoedd lleol/ffermwyr neu siopau fferm 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml. Dywedodd tua hanner (53%) yr ymatebwyr nad oeddent erioed wedi archebu bwyd na diod ar-lein o archfarchnad. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (85%) nad oeddent erioed wedi cael blwch ryseitiau wedi’i ddosbarthu (Ffigur 14) (footnote 2)

Beth mae’r ymatebwyr yn nodi eu bod yn chwilio amdano wrth brynu bwyd?

Ffigur 15. Pa wybodaeth y mae’r ymatebwyr yn chwilio amdani wrth brynu bwyd.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o wybodaeth Bob amser a rhan fwyaf o'r amser Tua hanner yr amser neu weithiau Byth
Gwlad tarddiad 21 48 31
Logos cynlluniau sicrwydd bwyd 23 42 35
Gwybodaeth am alergenau 24 32 44
Rhestr gynhwysion 34 52 14
Gwybodaeth am faeth 38 47 15
Dyddiad 'ar ei orau cyn' 84 14 2
Dyddiad 'defnyddio erbyn' 85 12 2

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa wybodaeth maen nhw’n chwilio amdani wrth brynu bwyd. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod ‘bob amser’ neu ‘y rhan fwyaf o’r amser’ yn gwirio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (85%) neu’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ (84%) wrth brynu bwyd. Dywedodd yr ymatebwyr eu bod yn chwilio am y rhestr gynhwysion (52%), gwybodaeth am faeth (47%), y wlad tarddiad (48%), a’r logos cynlluniau sicrwydd bwyd (42%) ‘tua hanner yr amser’ neu’n ‘achlysurol’. Yr wybodaeth am alergenau oedd yn cael ei gwirio leiaf aml gan yr ymatebwyr (Ffigur 15) (footnote 3). Fodd bynnag, roedd yr ymatebwyr ag alergedd bwyd yn unig (64%)* neu anoddefiad bwyd yn unig (40%) yn fwy tebygol o chwilio am wybodaeth am alergenau ‘bob amser’ neu’r ‘rhan fwyaf o’r amser’ wrth siopa am fwyd o gymharu â’r rheiny heb orsensitifrwydd i fwyd (19%). 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth yn eu barn nhw oedd bwysicaf wrth benderfynu pa fwyd i’w brynu, gan ddewis o blith rhestr o opsiynau. Yr hyn a ddewiswyd amlaf oedd pris neu werth am arian (61%), ac yna ansawdd (39%), pa mor ffres yw bwyd (29%), a dyddiadau defnyddio erbyn a/neu pa mor hir y bydd yn cadw (27%). Roedd tua 2 o bob 10 wedi dewis blas (23%), ac iachusrwydd (22%) (footnote 4).

Pan ofynnwyd iddyn nhw pa wybodaeth maen nhw’n ei defnyddio i farnu ansawdd bwyd o blith rhestr o opsiynau, dywedodd yr ymatebwyr eu bod yn defnyddio ffresni (55%), blas (48%), ac sut mae’r bwyd yn edrych (43%) amlaf i farnu ansawdd bwyd. Dywedodd llai o’r ymatebwyr eu bod yn barnu ansawdd bwyd yn ôl cynhwysion (29%), pris (28%), brand (21%), lles anifeiliaid (16%) a gwlad tarddiad (11%). Cynlluniau sicrwydd (9%), effaith amgylcheddol (5%) a chyfleustra (3%) a ddefnyddir leiaf gan yr ymatebwyr wrth farnu ansawdd bwyd (footnote 5).

Safbwyntiau ar les anifeiliaid, tarddiad bwyd a diod ac effaith amgylcheddol bwyd

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am eu safbwyntiau ar les anifeiliaid, tarddiad bwyd a diod, ac effaith amgylcheddol bwyd. Dywedodd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr ei bod yn bwysig prynu cig, wyau a llaeth sy’n cael eu cynhyrchu yn unol â safonau lles anifeiliaid uchel (85%), prynu bwyd nad yw’n cael effaith fawr ar yr amgylchedd (74%) a phrynu bwyd sy’n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain (66%). Dywedodd tua hanner (49%) yr ymatebwyr ei bod yn bwysig prynu diod a gynhyrchir ym Mhrydain (footnote 6)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud pa mor aml maen nhw’n chwilio am wybodaeth am effaith amgylcheddol bwyd ac am les anifeiliaid wrth siopa. Dywedodd chwarter (25%) yr ymatebwyr eu bod yn chwilio am wybodaeth am yr effaith ar yr amgylchedd ‘bob amser’ neu’r ‘rhan fwyaf o’r amser’. Dywedodd tua thraean (34%) yr ymatebwyr eu bod yn chwilio am wybodaeth am les anifeiliaid wrth brynu bwyd ‘bob amser’ neu’r ‘rhan fwyaf o’r amser’ (footnote 7)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor aml, lle bo’n bosib, y maen nhw’n prynu bwyd a gynhyrchwyd ym Mhrydain sydd â gwybodaeth am les anifeiliaid neu sydd ag effaith amgylcheddol isel. Mae tua 6 o bob 10 o’r ymatebwyr yn aml (hynny yw, ‘bob amser’ neu’r ‘rhan fwyaf o’r amser’) yn prynu cig, wyau a llaeth sydd â gwybodaeth am les anifeiliaid (57%), mae 51% yn aml yn prynu bwyd a gynhyrchwyd ym Mhrydain, ac mae 36% yn aml yn prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel (footnote 8). Roedd hanner yr ymatebwyr (50%) o’r farn bod cynhyrchion bwyd yn dangos digon o wybodaeth am eu gwlad tarddiad. Roedd tua thraean (34%) yr ymatebwyr o’r farn bod cig, wyau a chynhyrchion llaeth yn dangos digon o wybodaeth am les anifeiliaid, ac roedd 21% o’r farn bod cynhyrchion bwyd yn dangos digon o wybodaeth am eu heffaith amgylcheddol (footnote 9).

Figure 16. Factors thought to contribute most to the environmental impact of food.

A chart to show which factors respondents thought contribute most to the environmental impact of food.
Factors thought to contribute to the environmental impact of food Percentage of respondents (%)
Water usage 12
Consumer demand / trends 13
How crops are grown 13
Meat production 14
Food processing 16
Land management / deforestation 28
Food waste 32
Chemicals or pesticides use 40
Transportation of food 46
Food packaging 46

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth, o blith rhestr o opsiynau, sy’n cyfrannu fwyaf at effaith amgylcheddol bwyd yn eu barn nhw. Y ffactorau y credir eu bod yn cyfrannu fwyaf at effaith amgylcheddol bwyd oedd deunydd pecynnu bwyd (46%) a chludo bwyd (46%). Ystyriwyd bod y defnydd o gemegion a phlaladdwyr (40%), gwastraff bwyd (32%) a rheoli tir a/neu ddatgoedwigo (28%) hefyd yn ffactorau sy’n cyfrannu at effaith amgylcheddol bwyd (Ffigur 16) (footnote 10)

Ffigur 17. Yr hyn a fyddai’n nodi safonau lles anifeiliaid uchel wrth gynhyrchu cig, wyau a chynhyrchion llaeth ym marn yr ymatebwyr.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o wybodaeth Canran yr ymatebwyr (%)
Ddim yn gwybod 11
Label organig cyffredinol 8
Hoff siop neu frand 8
Pris y cynnyrch 10
Gwlad tarddiad 14
Gwybodaeth olrheiniadwyedd am y cynnyrch 16
Logo wyau Llew 24
Logo sicrwydd RSPCA 25
Gwybodaeth ar y deunydd pecynnu 29
Logo Tractor Coch 31
Label maes 52

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 

Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr, o blith rhestr o opsiynau, beth fyddai’n nodi a yw cynnyrch sy'n cynnwys cig, wyau neu laeth wedi’i gynhyrchu yn unol â safonau lles anifeiliaid uchel, y dangosydd mwyaf cyffredin a ddewiswyd oedd label ffermio maes (free-range) (52%). Roedd logo’r Tractor Coch (31%) a gwybodaeth ar ddeunydd pecynnu (29%) yn ddangosyddion eraill a ddewiswyd ar gyfer safonau lles anifeiliaid. Dywedodd tua 1 o bob 10 (11%) nad ydyn nhw yn gwybod beth fyddai’n dangos a oedd cynnyrch sy’n cynnwys cig, wyau neu gynnyrch llaeth wedi’i gynhyrchu â safonau uchel o ran lles anifeiliaid (Ffigur 17) (footnote 11)

Hyder mewn labelu alergenau

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sy’n gwneud y siopa bwyd ac sy’n ystyried rhywun sydd ag alergedd neu anoddefiad bwyd pa mor hyderus roedden nhw fod yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd yn eu galluogi i nodi bwydydd a fyddai’n achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol. Yn gyffredinol, dywedodd 83% o’r ymatebwyr fod ganddyn nhw hyder (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu eithaf hyderus) yn yr wybodaeth a ddarperir (footnote 12)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor hyderus roedden nhw o ran nodi bwydydd a fydd yn achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol pan fyddan nhw’n prynu bwydydd sy’n cael eu gwerthu’n rhydd, fel mewn siop fara neu o gownter deli. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn prynu bwyd yn rhydd yn fwy hyderus wrth nodi’r bwydydd hyn mewn archfarchnadoedd (72%), mewn archfarchnadoedd ar-lein (68%) ac wrth siopa mewn siopau bwyd annibynnol (65%) o gymharu â phrynu bwyd o farchnadoedd bwyd neu stondinau bwyd (55%) (footnote 13).

Add to smarter communications search Off