Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 7 Key Findings

Bwyd a Chi 2, Cylch 7: Cyflwyniad

Casglwyd data ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cylch7 rhwng 23 Ebrill 2023 a 10 Gorffennaf 2023.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 April 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 April 2024

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ei rôl, ei chylch gwaith, a’i chyfrifoldebau 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. (footnote 1) Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022-2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Bwriedir i arolwg Bwyd a Chi 2 fonitro cynnydd yr ASB yn erbyn y weledigaeth hon a llywio penderfyniadau polisi trwy fesur yn rheolaidd yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill a gofnodir gan ddefnyddwyr eu hunain yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Bwyd a Chi 2: Cylch 7

Casglwyd data Bwyd a Chi 2: Cylch 7 rhwng 23 Ebrill 2023 a 10 Gorffennaf 2023. Cwblhawyd yr arolwg gan 5,812 o oedolion (16 oed neu hŷn) o 4,006 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (sef cyfradd ymateb gyffredinol o 27.6%). 

Casglwyd data Bwyd a Chi 2: Cylch 7 yn ystod cyfnod lle cafwyd y lefelau uchaf o chwyddiant blynyddol ym mhris bwyd a diodydd di-alcohol ers 1977. (footnote 2) Disgwylir y bydd yr amgylchiadau hyn wedi cael effaith sylweddol ar ymddygiadau pobl mewn perthynas â bwyd, er enghraifft, sut a ble mae pobl yn prynu a bwyta bwyd, ac ar lefelau diffyg diogeledd bwyd yn y cartref. (footnote 3)

Arolwg modiwlaidd yw Bwyd a Chi 2, gyda modiwlau ‘craidd’ sy’n cael eu cynnwys ym mhob cylch, modiwlau ‘cylchdro’ sy’n cael eu hailadrodd bob blwyddyn neu bob dwy flynedd, a modiwlau ‘untro’ sy’n mynd i’r afael â materion cyfoes o ddiddordeb. Mae’r modiwlau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cynnwys y canlynol: ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo’ (craidd); ‘Pryderon am fwyd’ (craidd); ‘Diogeledd bwyd’ (craidd); ‘Siopa a labelu bwyd’ (cylchdro), ‘Llwyfannau ar-lein’ (cylchdro) a ‘Bwydydd newydd’ (cylchdro). 

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 7. Nid yw’r holl gwestiynau a ofynnwyd yn arolwg Cylch 7 wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Mae’r canlyniadau llawn ar gael yn y tablau data a’r set ddata lawn cysylltiedig.  

Dehongli’r canfyddiadau 

I dynnu sylw at y prif wahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, dim ond pan fo’r gwahaniaethau absoliwt yn 10 pwynt canrannol neu fwy ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p <0.05) y byddwn fel arfer yn tynnu sylw at wahaniaethau yn y proffiliau ymateb. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill wedi’u cynnwys pan fo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, a hynny os tybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn. Mae seren sengl yn nodi nad yw’r gwerth yn cael ei adrodd gan fod maint y sylfaen yn is na 100, ac o ganlyniad, efallai nad yw’n gynrychioliadol o’r boblogaeth (*).

Mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cynnwys data pob is-grŵp, ond mae’r fath ddadansoddiadau ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau. Darperir gwybodaeth bwysig am bob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:  

  • Geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r opsiynau ymateb (ymateb). 
  • Nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd y cwestiwn iddynt, a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (sylfaen = N).
  • Mae ‘Sylwer:’ yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig i’w hystyried wrth ddehongli’r canlyniadau. 
Add to smarter communications search Off