Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Bwyd a Chi 2 – CSHB Cylch 8: Pennod 3 – Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i wneud penderfyniadau

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o’r ffordd y bydd pobl yn defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth benderfynu ble i fwyta allan neu ble i brynu bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Sgoriau hylendid bwyd derbyniol

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ystyried a fyddent yn dal i fwyta neu archebu bwyd o fwyty neu siop tecawê pe baent yn gweld bod y sgôr hylendid bwyd ar sticer y busnes yn is na’r sgôr uchaf o 5 (da iawn). Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y byddent yn dal i fwyta bwyd mewn bwyty neu o siop tecawê pe baent yn gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 4 (da) (94%) neu 3 (boddhaol ar y cyfan) (61%). Serch hynny, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr na fyddent yn bwyta mewn bwyty nac o siop tecawê pe baent yn gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 2 (angen gwella) (82%), 1 (angen gwella yn sylweddol) (95%) neu 0 (angen gwella ar frys) (95%) (Ffigur 13). (footnote 1)

Ffigur 13. Parodrwydd i fwyta mewn bwyty neu o siop tecawê sydd â sgôr hylendid bwyd sy’n is na 5

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 ;Aros am arolygiad – Gogledd Iwerddon a Lloegr;Aros am sgôr – Cymru;0 – angen gwella ar frys;"1 – angen gwella
yn sylweddol";2 – angen gwella;3 – boddhaol ar y cyfan;4 – da;;;;;;
Dal i fwyta yn y bwyty / o’r siop tecawê;35;45;2;2;9;61;94;;;;;;
Peidio bwyta yn y bwyty / o’r siop tecawê;42;32;95;95;82;29;3;;;;;;
Ddim yn gwybod;23;24;3;3;9;10;3;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;;;

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa sgôr y byddent fel arfer yn ei hystyried fel y sgôr hylendid bwyd isaf a fyddai’n dderbyniol iddynt wrth ystyried prynu bwyd o rywle. Byddai 8% o’r ymatebwyr yn ystyried mai dim ond sgôr o 5 sy’n dderbyniol, ond dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr mai sgôr o 4 (44%) neu 3 (37%) oedd y sgôr isaf y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol. Roedd lleiafrif o’r ymatebwyr yn ystyried sgôr o 2 (4%), 1 (1%) neu 0 (1%) yn dderbyniol. (footnote 2)

Sefyllfaoedd sy’n effeithio ar sgoriau hylendid bwyd derbyniol

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a allent feddwl am sefyllfa lle y byddent yn penderfynu prynu bwyd o fusnes â sgôr is na’u sgôr dderbyniol isaf arferol. Ar draws pob sgôr, dywedodd tua dau draean o’r ymatebwyr (68%) na allent feddwl am sefyllfa lle y byddent yn penderfynu prynu bwyd o fusnes bwyd â sgôr is, tra oedd 24% yn gallu meddwl am sefyllfa o’r fath (Ffigur 14). (footnote 3)  (footnote 4)

Ffigur 14. Parodrwydd yr ymatebwyr i brynu bwyd gan fusnes sydd â sgôr hylendid bwyd sy’n is na’u sgôr dderbyniol isaf

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Column1;2 – angen gwella;3 – boddhaol ar y cyfan;4 – da;5 – da iawn;Pob sgôr: 1-5 ;;;;
Ie;44;23;23;23;24;;;;
Na;52;69;69;62;68;;;;
Ddim yn gwybod;4;8;8;15;8;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;
;;;;;;;;;

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

O ran yr ymatebwyr hynny a oedd yn gallu meddwl am sefyllfa lle y byddent yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr is na’u sgôr dderbyniol arferol, gofynnwyd iddynt egluro beth fyddai’r sefyllfa honno drwy ddewis o blith rhestr o opsiynau. Y sefyllfaoedd mwyaf cyffredin oedd pe na bai llawer o ddewis o leoedd i fynd iddynt (53%), pe baent wedi bwyta bwyd yno o’r blaen (51%), pe bai angen iddynt brynu rhywbeth yn gyflym (36%), neu pe baent yn gwybod bod y bwyd o ansawdd uchel (35%) (Ffigur 15). (footnote 5)

Ffigur 15. Y deg sefyllfa fwyaf cyffredin lle y byddai’r ymatebwyr yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr hylendid bwyd is na’u sgôr dderbyniol isaf arferol

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 ;Canran yr ymatebwyr (%)
Roeddwn i mewn lle anghyfarwydd;12
Roeddwn i’n mwynhau blas y bwyd;14
Gwnaeth rhywun arall ddewis y busnes bwyd;19
Doedd dim llawer o arian gen i /
roedd yn rhad";23
Roeddwn i allan yn hwyr yn y nos;23
Roedd rhywun wedi argymell y lle i mi;33
Roeddwn i’n gwybod bod y bwyd o ansawdd uchel;35
Roedd angen i mi brynu rhywbeth yn gyflym;36
Roeddwn i wedi bwyta yno o’r blaen;51
Doedd dim llawer o ddewis o leoedd i fynd iddynt;53

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a allent feddwl am sefyllfa lle y byddent ond yn prynu bwyd gan fusnes â sgôr uwch na’u sgôr dderbyniol isaf arferol. Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (66%) yn gallu meddwl am sefyllfa lle y byddai hyn yn berthnasol, ond nid oedd 23% o’r ymatebwyr yn gallu meddwl am sefyllfa o’r fath. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a oedd yn ystyried bod sgôr o 2 (angen gwella) (50%), 3 (boddhaol ar y cyfan) (66%), neu 4 (da) (68%) yn gyffredinol dderbyniol yn gallu meddwl am sefyllfa lle y byddent ond yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr uwch (Ffigur 16). (footnote 6)  (footnote 7)

Ffigur 16. Parodrwydd yr ymatebwyr i brynu bwyd gan fusnes â sgôr hylendid bwyd sy’n uwch na’u sgôr dderbyniol isaf arferol

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Column1;2 – angen gwella;3 – boddhaol ar y cyfan;4 – da;Pob sgôr: 0-4;4-da;Pob sgôr:0-4;;;;;
Ie;50;66;50;66;68;66;;;;;
Na;37;22;37;22;22;23;;;;;
Ddim yn gwybod;13;12;13;12;10;11;;;;;
;;;;;;;;;;;
Note for future use: weird formatting of the linked chart that I couldn't fix. ;;;;;;;;;;;
It's taking column headings from one column and column values from another.;;;;;;;;;;;
e.g. column B heading (2-improvement necessary) is linked to data from column D values. ;;;;;;;;;;;
So the column headings are confusing but I've arranged the data so the chart displays the right values. ;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

O ran yr ymatebwyr hynny a oedd yn gallu meddwl am achlysur lle byddent ond yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr uwch na’u sgôr dderbyniol arferol, gofynnwyd iddynt egluro beth fyddai’r achlysur hwnnw trwy ddewis o blith rhestr o opsiynau. Yr achlysuron mwyaf cyffredin oedd achlysuron arbennig (54%), pan fyddai’r ymatebydd yng nghwmni pobl benodol neu aelodau penodol o’i deulu (46%), pan fyddai’r ymatebydd mewn lle anghyfarwydd (er enghraifft gweithio i ffwrdd neu ar ei wyliau) (41%), neu pan fyddai gan yr ymatebydd neu rywun arall ofynion iechyd arbennig (er enghraifft salwch neu feichiogrwydd) (41%) (Ffigur 17). (footnote 8)

Ffigur 17. Achlysuron lle byddai’r ymatebwyr ond yn prynu bwyd gan fusnes â sgôr hylendid bwyd sy’n uwch na’u sgôr dderbyniol arferol

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Achlysur;Canran yr ymatebwyr (%);;;;;;
Arall;8;;;;;;
Pan fydd yn rhan o gadwyn;15;;;;;;
Pan fyddaf am fynd i le drud;22;;;;;;
Pan fyddaf yn mynd yng nghwmni plant ifanc;34;;;;;;
Pan fyddaf yn mynd yng nghwmni pobl hŷn;38;;;;;;
Pan fydd gen i neu rywun arall ofynion iechyd arbennig;41;;;;;;
Pan fyddaf mewn lle anghyfarwydd;41;;;;;;
Pan fyddaf yng nghwmni pobl benodol/aelodau penodol o’r teulu;46;;;;;;
Pan fydd yn achlysur arbennig;54;;;;;;
;;;;;;;
;;;;;;;
;;;;;;;
;;;;;;;
;;;;;;;
;;;;;;;
;;;;;;;

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Effaith y sticer sgôr hylendid bwyd ar ganfyddiadau ac ymddygiadau

Pe na bai sticer sy’n dangos sgôr hylendid bwyd y busnes yn cael ei arddangos wrth y fynedfa, gofynnwyd i’r ymatebwyr i ba raddau, os o gwbl, y byddai hynny’n effeithio ar eu penderfyniad i fwyta yno. O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, byddai 58% yn llai tebygol (hynny yw ‘yn llawer llai tebygol’ neu ‘ychydig yn llai tebygol’) o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa. Fodd bynnag, dywedodd 29% o’r ymatebwyr na fyddai hynny’n eu gwneud yn llai tebygol o fwyta yno. Dywedodd 13% o’r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod beth fyddai’r effaith ar eu penderfyniad i fwyta yno pe bai busnes yn peidio ag arddangos ei sgôr. (footnote 9)

Dywedodd cyfran uwch o’r ymatebwyr sy’n byw yng Nghymru (70%) y byddent yn llai tebygol o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa o gymharu â’r ymatebwyr yn Lloegr (57%) a Gogledd Iwerddon (60%).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB a oeddent, yn ystod y 12 mis diwethaf, wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd. Dywedodd 17% o’r ymatebwyr eu bod wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd, a dywedodd 63% nad oeddent wedi gwneud hyn. Dywedodd 20% o’r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod neu nad oeddent yn gallu cofio a oeddent wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd. (footnote 10)

Pryderon am fusnesau bwyd nad ydynt yn arddangos sgôr CSHB

Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth fyddai’n peri pryder iddynt pe baent yn ymweld â busnes bwyd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd ar y safle. Y pryderon mwyaf cyffredin oedd bod gan y busnes bwyd safonau hylendid gwael (50%) a bod gan y busnes bwyd sgôr hylendid bwyd wael neu isel a’i fod yn ceisio’i chuddio (47%). Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (56%) a Gogledd Iwerddon (53%) yn fwy tebygol o boeni bod gan y busnes bwyd sgôr hylendid isel/gwael a’i fod yn ceisio ei chuddio na’r ymatebwyr yn Lloegr (46%).**

Ni fyddai dros chwarter o’r ymatebwyr (26%) yn sylwi pe na bai sticer yn cael ei arddangos, ac ni fyddai 4% yn poeni am ddim byd pe na bai’r sticer yn cael ei arddangos (Ffigur 18). (footnote 11)  Roedd yr ymatebwyr yn Lloegr (27%) yn fwy tebygol o ddweud na fyddent yn sylwi pe bai’r sticer ar goll na’r ymatebwyr yng Nghymru (18%) neu Ogledd Iwerddon (20%).**

Ffigur 18. Pryderon yr ymatebwyr pe na bai busnes bwyd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd ar ei safle

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Pryder;Canran yr ymatebwyr (%);;;;;;;;;;
Fyddwn i ddim yn poeni;4;;;;;;;;;;
Fyddwn i ddim yn sylwi ar y sticer coll;26;;;;;;;;;;
Dydy’r busnes ddim yn bodloni’r gofynion cyfreithiol;39;;;;;;;;;;
A yw’r busnes wedi’i arolygu gan yr awdurdodau perthnasol;42;;;;;;;;;;
Pa mor ddiogel yw hi i fwyta yn y busnes bwyd;43;;;;;;;;;;
Mwy o berygl o gael gwenwyn bwyd/salwch/haint drwy fwyta yno;44;;;;;;;;;;
Bod gan y busnes sgôr hylendid bwyd isel neu wael a’i fod yn ceisio’i chuddio;47;;;;;;;;;;
Bod safonau hylendid y busnes yn wael;50;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;
;;;;;;;;;;;

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8