Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Bwyd a Chi 2 – CSHB Cylch 8: Pennod 2 – Dealltwriaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ddealltwriaeth a defnydd yr ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Dealltwriaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa fathau o fusnesau bwyd oedd yn dod o dan y CSHB yn eu tyb nhw, gan ddewis o blith rhestr o fusnesau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn meddwl bod y CSHB yn berthnasol i fwytai (93%), caffis (91%), siopau tecawê (89%), siopau coffi neu frechdanau (87%), tafarndai (85%), a gwestai neu lety gwely a brecwast (77%). Roedd llai o ymatebwyr yn meddwl bod y CSHB yn berthnasol i ysgolion a sefydliadau eraill (55%), archfarchnadoedd (45%), a stondinau marchnad neu fwyd stryd (45%) (Ffigur 8).(footnote) Yng Nghymru yn unig, mae’r CSHB hefyd yn cwmpasu sefydliadau bwyd sy’n ymwneud â masnach busnes-i-fusnes, er enghraifft gweithgynhyrchwyr bwyd, neu becynwyr nad ydynt yn gwerthu i siopau manwerthu. Dim ond 38% o ymatebwyr yng Nghymru oedd yn meddwl bod y CSHB yn cynnwys y mathau hyn o fusnesau.

Ffigur 8. Gwybodaeth yr ymatebwyr am y busnesau bwyd y mae’r CSHB yn berthnasol iddyn nhw

Ffigur 8. Gwybodaeth yr ymatebwyr am y busnesau bwyd y mae’r CSHB yn berthnasol iddyn nhw
 Canran yr ymatebwyr (%)
Ddim yn gwybod 4
Arall 2
Siopau bwyd eraill 40
Stondinau marchnad / bwyd stryd 45
Archfarchnadoedd 45
Ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill 55
Gwestai a llety gwely a brecwast 77
Tafarndai 85
Siopau coffi neu frechdanau 87
Siopau tecawê 89
Caffis 91
Bwytai 93

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd 

Gofynnwyd i’r holl ymatebwyr, a oedden nhw wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein), ni waeth faint yr oedden nhw’n ei wybod am y CSHB ac ni wnaeth a wnaethon nhw benderfynu prynu bwyd yno ai peidio. Roedd tua 4 o bob 10 (42%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. (footnote 1)

Roedd ymatebwyr yng Nghymru (58%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd nag ymatebwyr yn Lloegr (41%) a Gogledd Iwerddon (49%)**.

Roedd yr arfer o wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl.

  • Grŵp oedran: roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 53% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o’u cymharu â 26% o’r rheiny 75 oed a hŷn.
  • Maint y cartref: roedd y rheiny mewn cartrefi â 3 neu 4 person neu fwy (er enghraifft, 52% o’r rheiny mewn cartref â 4 person) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr busnes na’r rheiny mewn cartrefi ag un person (33%).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd ymatebwyr o Ddwyrain Canolbarth Lloegr (48%), Gogledd-orllewin Lloegr (47%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag ymatebwyr o Dde-orllewin Lloegr (35%) neu Lundain (35%).
  • Diogeledd bwyd (footnote 2): roedd ymatebwyr â lefelau isel neu isel iawn (52%)  o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o gymharu â 40% o’r rheiny â lefelau ymylol uchel o ddiogeledd bwyd.
  • Gorsensitifrwydd i fwyd: roedd ymatebwyr ag alergedd bwyd (57%) – ond nid y rheiny â mathau eraill o orsensitifrwydd i fwyd, fel anoddefiad bwyd neu glefyd seliag – yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o gymharu â 41% o’r rheiny heb unrhyw alergedd neu anoddefiad bwyd.
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (43%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes  o gymharu â 29% o’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd pa fathau o fusnesau yr oedden nhw wedi gwirio sgoriau hylendid ar eu cyfer yn ystod y 12 mis blaenorol.  Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê (70%) a bwytai (70%). Roedd dros hanner (51%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd caffis; roedd 35% wedi gwirio sgôr siopau coffi neu frechdanau ac roedd 34% wedi gwirio sgôr tafarndai (Ffigur 9). (footnote 3)

Ffigur 9. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis blaenorol.

Ffigur 9. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis blaenorol.
 Canran yr ymatebwyr (%)
Rhywle arall 1
Mewn siopau bwyd eraill 5
Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill 6
Ar stondiau marchnad / bwyd stryd 8
Mewn archfarchnadoedd 8
Mewn gwestai / llety gwely a brecwast 14
Mewn tafarndai 34
Mewn siopau coffi neu frechdanau 35
Mewn caffis 51
Mewn bwytai 70
Mewn siopau tecawê 70

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Roedd yr arfer o wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol fathau o fusnesau ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl.

  • Grŵp oedran: roedd ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd rhai mathau o fusnesau nag oedolion iau. Er enghraifft, roedd ymatebwyr rhwng 65 a 74 oed yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd caffis (59%), tafarndai (47%), siopau coffi a brechdanau (43%), a gwestai/llety gwely a brecwast (17%) nag ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed (42% caffis, 27% tafarndai, 32% siopau coffi neu frechdanau, a 6% gwestai/llety gwely a brecwast).
  • Maint y cartref: roedd y rheiny mewn cartrefi â 2 pherson neu fwy yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê na’r rheiny mewn cartrefi ag 1 person (56%). Er enghraifft, roedd 79% o’r ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi â 5 person neu fwy wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê.
  • Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel (82%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê nag ymatebwyr â diogeledd bwyd ymylol (72%) neu uchel (65%).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd y rheiny mewn cartrefi ag incwm blynyddol o lai na £19,000 yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd archfarchnadoedd (17%) na chartrefi ag incwm uwch. Er enghraifft, roedd 3% o gartrefi a oedd yn ennill rhwng £64,000 a £95,999, a 5% o gartrefi a oedd yn ennill £96,000 neu fwy wedi gwirio sgôr hylendid bwyd archfarchnadoedd.
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd ymatebwyr o Lundain (77%), De-ddwyrain Lloegr (76%) a Swydd Efrog a’r Humber (75%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd bwytai nag ymatebwyr o Ogledd-orllewin Lloegr (56%).  Roedd ymatebwyr o Orllewin Canolbarth Lloegr (80%) a Gogledd-orllewin Lloegr (77%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê nag ymatebwyr yn Ne-orllewin Lloegr (62%) a Llundain (57%).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes sut yr oedden nhw wedi gwirio’r sgôr. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (86%) wedi edrych ar y sticer sgôr hylendid bwyd a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd. Roedd tua 1 o bob 5 (21%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes ar wefan y busnes bwyd neu (20%) ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats), ac roedd 15% o’r ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr ar wefan yr ASB (Ffigur 10).(footnote)

Ffigur 10. Sut yr oedd yr ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnesau bwyd

Ffigur 10. Sut yr oedd yr ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnesau bwyd
 Canran yr ymatebwyr (%)
Mewn papur newyddion lleol 3
Ar wefan arall 3
Ar ap (e.e. Scores on the Doors Food Hygiene Rating) 4
Ar wefan yr ASB 15
Gwefan neu ap archebu bwyd ar-lein (e.e. Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) 20
Gwefan busnes bwyd 21
Sticer y CSHB sy'n cael ei arddangos yn y busnes bwyd (fel mewn ffenestr neu ar y drws) 86

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Roedd ymatebwyr yng Nghymru (89%), Lloegr (85%) a Gogledd Iwerddon (91%) yn fwyaf tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy edrych ar sticer a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes**.

Roedd sut yr oedd yr ymatebwyr yn gwirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl.

  • Grŵp oedran: roedd ymatebwyr o dan 55 oed (er enghraifft, 20% o’r rheiny rhwng 35 a 44 oed) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid ar wefan yr ASB na’r rheiny 55 oed a hŷn (er enghraifft, 3% o’r ymatebwyr 75 oed a hŷn).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd ymatebwyr yn Nwyrain Lloegr (92%) a De-orllewin Lloegr (91%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy sticer CSHB a arddangoswyd yn y busnes bwyd nag ymatebwyr yn Gogledd-orllewin Lloegr (76%).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd ymatebwyr ag incwm y cartref blynyddol o lai na £96,000 (er enghraifft, 27% o’r ymatebwyr ag incwm blynyddol o £19,000 i £31,999) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ar wefan y busnes na chartrefi ag incwm o £96,000 neu fwy (9%). Roedd ymatebwyr ag incwm uwch (er enghraifft, 28% o gartrefi ag incwm o £96,000 neu fwy) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid ar wefan yr ASB na’r rheiny ag incwm cartref o dan £32,000 (er enghraifft, 8% o’r ymatebwyr ag incwm o £19,000 neu lai).
  • Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC): roedd ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (23%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ar wefan y busnes nag ymatebwyr mewn galwedigaethau lled-ailadroddus ac ailadroddus (13%).
  • Diogeledd bwyd: Roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel neu isel iawn (29%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ar wefan y busnes na’r rheiny â diogeledd bwyd uchel neu ymylol (18%).

Mewn rhai achosion, gall y ffordd y mae grwpiau gwahanol yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ddangos ble maen nhw’n bwyta allan neu sut maen nhw’n archebu bwyd tecawê.  

  • Grŵp oedran: roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (er enghraifft 59% o’r ymatebwyr 16 i 24 oed) ac o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein ( 27% o’r ymatebwyr 16 i 24 oed) o gymharu ag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 7% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein, ac roedd 5% wedi defnyddio gwefan y busnes hwn i wirio sgôr hylendid busnes bwyd. (footnote 4)
  • Plant o dan 16 oed: roedd yr ymatebwyr â phlant o dan 16 oed yn y cartref hefyd yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (43%), ac o fod wedi defnyddio gwefan y busnes hwn i wirio sgôr hylendid y busnes bwyd (29%) o gymharu â chartrefi heb blant. Roedd 27% o’r ymatebwyr heb blant yn y cartref wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein, ac roedd 16% wedi defnyddio gwefan y busnes gwn i wirio sgôr hylendid y busnes bwyd.
  • Plant o dan 6 oed: yn yr un modd, roedd yr ymatebwyr â phlant ifanc o dan 6 oed yn y cartref hyd yn oed yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (52%), ac o fod wedi defnyddio gwefan y busnes hwn i wirio sgôr hylendid y busnes bwyd (34%) na chartrefi heb blant ifanc. Roedd 28% o’r ymatebwyr heb blant o dan 6 oed yn y cartref wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein, ac roedd 17% wedi defnyddio gwefan y busnes hwn i wirio sgôr hylendid y busnes bwyd.
  • Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd drwy edrych ar sticer y CSHB a arddangoswyd yn y busnes bwyd (90%) nag ymatebwyr â diogeledd bwyd isel (79%). Roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (77%) hefyd yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, bar neu dafarn nag ymatebwyr â diogeledd bwyd isel (67%). Roedd y rheiny â diogeledd bwyd isel neu ymylol (30% yr un) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid trwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein o gymharu â 14% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel. Roedd yr ymatebwyr hyn hefyd yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd tecawê o wefan neu ap dosbarthu bwyd (er enghraifft, 48% o ymatebwyr â diogeledd bwyd isel o gymharu â 23% o ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis blaenorol pa mor aml yr oedd yn hawdd dod o hyd i’r sgôr. Dywedodd 14% o’r ymatebwyr ei bod bob amser yn hawdd dod o hyd i sgôr hylendid bwyd, dywedodd 64% ei bod yn hawdd dod o hyd i’r sgôr y rhan fwyaf o’r amser, a dywedodd 19% ei bod yn hawdd dod o hyd i’r sgôr tua hanner yr amser neu o bryd i’w gilydd. (footnote 5)

Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth fwyta allan neu brynu bwyd tecawê

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr o opsiynau, y bydden nhw fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan neu o ble i archebu bwyd tecawê. (footnote 6)

O blith y rheiny a oedd wedi archebu bwyd o siop tecawê, y ffactorau mwyaf cyffredin a ystyriwyd ganddynt wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê oedd profiad blaenorol yr ymatebwyr o’r siop tecawê (79%) ac ansawdd y bwyd (70%). Roedd tua thraean (34%) o’r ymatebwyr wedi ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu tecawê (Ffigur 11). (footnote 7) 

Ffigur 11. Y deg ffactor mwyaf cyffredin sy’n cael eu hystyried wrth archebu

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 ;Canran yr ymatebwyr (%);;;;;;;;;;;;
A oes gwybodaeth am galorïau ar gael;1;;;;;;;;;;;;
A oes gwybodaeth am alergenau ar gael;6;;;;;;;;;;;;
A oes dewisiadau iachach ar gael;9;;;;;;;;;;;;
A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn;10;;;;;;;;;;;;
Adolygiadau er enghraifft ar TripAdvisor Google y cyfryngau cymdeithasol neu mewn papurau newydd;28;;;;;;;;;;;;
A oes dewisiadau dosbarthu neu gasglu ar gael;28;;;;;;;;;;;;
Yr amserau danfon/casglu;31;;;;;;;;;;;;
A oes modd archebu’r bwyd ar-lein;33;;;;;;;;;;;;
Y Sgôr Hylendid Bwyd;34;;;;;;;;;;;;
A oes cynigion bargeinion neu ostyngiadau ar gael;36;;;;;;;;;;;;
Lleoliad y siop tecawê;37;;;;;;;;;;;;
Y math o fwyd (er enghraifft y math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan);47;;;;;;;;;;;;
Argymhellion teulu neu ffrindiau;47;;;;;;;;;;;;
Pris (gan gynnwys cost dosbarthu’r bwyd);57;;;;;;;;;;;;
Ansawdd y bwyd;70;;;;;;;;;;;;
Profiad blaenorol o’r siop tecawê;79;;;;;;;;;;;;

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (45%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd na’r ymatebwyr yn Lloegr (33%) neu Ogledd Iwerddon (37%).**

Roedd yr arfer o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 45 a 54 oed (39%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê o gymharu â’r ymatebwyr 65 oed a hŷn (er enghraifft, 19% o’r rhai 75 oed a hŷn).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr yr oedd incwm blynyddol eu cartref yn llai nag £19,000 (42%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê o gymharu â’r ymatebwyr yr oedd incwm blynyddol eu cartref yn £32,000 neu fwy (er enghraifft, 26% o’r rhai ag incwm blynyddol o £96,000 neu fwy).
  • Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC): roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau goruchwylio neu dechnegol is yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê (41%) na’r ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (31%).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd yr ymatebwyr sy’n byw ym mhob rhanbarth yn Lloegr ac eithrio Swydd Efrog a’r Humber (er enghraifft, 45% o’r rheiny yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê o gymharu â’r rheiny yn Ne-orllewin Lloegr (19%).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd isel neu isel iawn yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê (43%) o gymharu â’r ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel neu ymylol (30%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (35%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê o gymharu â’r rheiny nad ydynt yn coginio (22%).

O blith y rheiny sy’n bwyta allan, y ffactorau mwyaf cyffredin a ystyriwyd ganddynt wrth benderfynu ble i fwyta oedd ansawdd y bwyd (83%) a phrofiad blaenorol yr ymatebwyr o’r lle (80%) (Ffigur 12). (footnote 8)

Ffigur 12. Y deg ffactor mwyaf cyffredin sy’n cael eu hystyried wrth fwyta allan

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 ;Canran yr ymatebwyr (%);;;;;;;;;;;
A oes gwybodaeth am galorïau ar gael;3;;;;;;;;;;;
A oes gwybodaeth am alergenau ar gael;7;;;;;;;;;;;
A yw’r lle’n croesawu plant;13;;;;;;;;;;;
A oes dewisiadau iachach ar gael;15;;;;;;;;;;;
A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn;19;;;;;;;;;;;
Adolygiadau e.e. ar TripAdvisor Google y cyfryngau cymdeithasol;37;;;;;;;;;;;
Y Sgôr Hylendid Bwyd;41;;;;;;;;;;;
A oes cynigion bargeinion neu ostyngiadau ar gael;43;;;;;;;;;;;
Awyrgylch y lle;46;;;;;;;;;;;
Y math o fwyd (er enghraifft y math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan);50;;;;;;;;;;;
Ansawdd y gwasanaeth;61;;;;;;;;;;;
Argymhellion teulu neu ffrindiau;63;;;;;;;;;;;
Glendid y lle;64;;;;;;;;;;;
Lleoliad;67;;;;;;;;;;;
Pris;71;;;;;;;;;;;
Profiad blaenorol o’r lle;80;;;;;;;;;;;
Ansawdd y bwyd;83;;;;;;;;;;;

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Nid oedd y Sgôr Hylendid Bwyd ymhlith y deg ffactor uchaf a ystyrir wrth fwyta allan. Hwn oedd yr unfed ffactor mwyaf cyffredin ar ddeg – roedd tua 4 o bob 10 o’r ymatebwyr (41%) yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta. Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (52%) a Gogledd Iwerddon (47%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr yn Lloegr (40%).**

Roedd yr arfer o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed (53%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r rhan fwyaf o grwpiau oedran eraill (er enghraifft, 37% o’r ymatebwyr rhwng 25 a 34 oed, a 35% o’r ymatebwyr rhwng 65 a 74 oed).
  • Maint yr aelwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi â 4 person (48%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr mewn cartrefi ag 1 person (34%) neu’r ymatebwyr mewn cartrefi â 5 neu fwy o bobl (34%).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr yr oedd incwm blynyddol eu cartref yn is (er enghraifft, 47% o’r rhai ag incwm o lai nag £19,000) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr yr oedd incwm blynyddol eu cartref yn uwch (er enghraifft, 25% o’r rhai ag incwm o £96,000 neu fwy).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd isel neu isel iawn (53%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel neu ymylol (37%).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd yr ymatebwyr yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (52%), Gogledd-ddwyrain Lloegr (50%), Gogledd-orllewin Lloegr (43%) a De-ddwyrain Lloegr (40%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr yn Ne-orllewin Lloegr (29%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa (42%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr nad ydynt byth yn siopa am fwyd (28%).

Pa mor aml roedd yr ymatebwyr yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd wrth gyrraedd y safle

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml roeddent yn gwirio sgôr hylendid bwyd bwyty neu siop tecawê wrth gyrraedd y safle. Dywedodd tua 1 o bob 10 (9%) eu bod bob amser yn gwirio sgôr hylendid bwyd busnes wrth gyrraedd, dywedodd 21% o’r ymatebwyr eu bod yn gwneud hynny’r rhan fwyaf o’r amser, a dywedodd 32% eu bod yn gwneud hynny tua hanner yr amser neu’n achlysurol. Dywedodd dros draean o’r ymatebwyr (35%) nad oeddent byth yn gwirio sgôr hylendid bwyd busnes wrth gyrraedd y safle. (footnote 9)

Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (47%) a Gogledd Iwerddon (39%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwirio’r sgôr hylendid bwyd wrth gyrraedd y safle bob amser neu’r rhan fwyaf o’r amser o gymharu â’r ymatebwyr yn Lloegr (28%). Roedd yr ymatebwyr yn Lloegr (36%) a Gogledd Iwerddon (28%) yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent erioed wedi gwirio’r sgôr wrth gyrraedd y safle o gymharu â’r rheiny yng Nghymru (18%).