Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cylchlythyrau’r Asiantaeth Safonau Bwyd

Ewch ati i danysgrifio i gael ein cylchlythyrau e-bost.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 December 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 December 2024

Negeseuon gan y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr

Negeseuon rheolaidd gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr yr ASB i’n partneriaid, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith i sicrhau bod gan bawb fwyd y gallwn ymddiried ynddo.

Ewch ati i danysgrifio i gael negeseuon rheolaidd gan ein Cadeirydd a’n Prif Weithredwr trwy e-bost.

Diweddariadau’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) ar y diwydiant

Yn y diweddariadau hyn, rydym yn amlygu’r risgiau a’r materion allweddol a all fod yn effeithio ar y diwydiant bwyd, yn rhannu arferion gorau i gryfhau ymateb y diwydiant i droseddau bwyd ac yn dweud wrthych am ein gwaith parhaus.

Ewch ati i danysgrifio i gael diweddariadau e-bost ar waith yr NFCU.

Y diweddaraf ar wyddoniaeth, tystiolaeth ac ymchwil i randdeiliaid

Cyfle i gael diweddariadau ar ein gwyddoniaeth, ein tystiolaeth a’n hymchwil. Mae’r diweddariadau hyn ar gyfer gwyddonwyr, ymchwilwyr, cyllidwyr ymchwil ac academyddion, ond efallai y byddant o ddiddordeb i eraill.

Ewch ati i danysgrifio i gael gwybod y diweddaraf am ein gwyddoniaeth, ein tystiolaeth a’n hymchwil.


Mae’r cylchlythyrau canlynol ar gael yn Saesneg yn unig.

Cylchlythyr awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad

Diweddariadau technegol rheolaidd i ymgeiswyr a sefydliadau masnach sydd â diddordeb mewn awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad.

Ewch ati nawr i danysgrifio i gael diweddariadau e-bost ar awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad.

Seminarau Cnoi Cil yr ASB

Cyfle i gael gwahoddiadau trwy e-bost. Mae ein seminarau misol yn annog cyd-ddysgu a rhwydweithio ar bynciau ar draws y diwydiant bwyd sy’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau ymchwil.

Ewch ati nawr i danysgrifio i gael gwahoddiadau e-bost i’n seminarau Cnoi Cil.

Y diweddaraf gan yr ASB yng Ngogledd Iwerddon am y diwydiant

Yn y diweddariadau hyn, rydym yn rhannu datblygiadau yn y diwydiant bwyd a bwyd anifeiliaid yng Ngogledd Iwerddon, yn tynnu sylw at ganllawiau a gofynion newydd sy’n effeithio ar y system fwyd ac yn dweud wrthych am ymgynghoriadau a galwadau am dystiolaeth.

Ewch ati i danysgrifio i gael e-byst yn rhannu datblygiadau yn y diwydiant bwyd a bwyd anifeiliaid yng Ngogledd Iwerddon.

Iechyd deietegol yng Ngogledd Iwerddon

Mae ein cylchlythyr Making Food Better yn cynnwys y mewnwelediadau diweddaraf i ddefnyddwyr a gwybodaeth dechnegol ar gyfer gweithgynhyrchwyr, arlwywyr a manwerthwyr bwyd yng Ngogledd Iwerddon.

Ewch ati i danysgrifio i gael e-byst yn cynnwys y mewnwelediadau diweddaraf i ddefnyddwyr a gwybodaeth dechnegol ar gyfer busnesau bwyd yng Ngogledd Iwerddon.