Cyngor rhagofalus i berchnogion anifeiliaid anwes ar fwydydd cnoi i gŵn sy'n gysylltiedig â salwch
Mae’r ASB yn cynghori perchnogion cŵn i beidio â rhoi rhai bwydydd cnoi cŵn sy’n tarddu o Tsieina i’w hanifeiliaid anwes, yn sgil pryderon gan yr UE am gysylltiad posib â newidiadau ymddygiad difrifol
Mae’r cynhyrchion yr effeithir arnynt yn cynnwys:
Barkoo kaustange natur 29 cm
Deunydd pecynnu: bagiau 570 gram (yn cynnwys 3 asgwrn cnoi)
Cod ar y deunydd pecynnu (gweler y llun): 1148655 MHD 04.2027 3200PF027
Rhif cod bar: 4260077047292
Barkoo kauknochen, geknotet natur 11cm
Deunydd pecynnu: bagiau 150 gram (yn cynnwys 3 asgwrn cnoi)
Cod ar y deunydd pecynnu (gweler y llun): 1148592 MHD 07.2027 3200PF027
Rhif cod bar: 4260077046875
Barkoo Kauknochen geknotet 24cm
Deunydd pecynnu: bagiau 150 gram (yn cynnwys 3 asgwrn cnoi)
Cod bar: 4260077046899
Cod ar y deunydd pecynnu (gweler y llun): 1148657 MHD05.2027 3200PF027
Barkoo Kauknochen geknotet mit Spirulina 12cm
Deunydd pecynnu: bagiau 180 gram (yn cynnwys 3 asgwrn cnoi)
Cod bar: 4260077047261
Cod ar y deunydd pecynnu (gweler y llun): 1148654 MHD 06.2027 3200PF027
Cynhyrchion Chrisco:
Chrisco Tyggeruller med kylling, 10 stk (No image available)
Rhif yr eitem: 12457
Cod EAN: 5764630124578
Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’: pob dyddiad
Chrisco Tyggeruller med kylling & kyllingelever, 100g (No image available)
Rhif y cynnyrch. 12324
Cod EAN: 5764630123243
Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’: 01/12/2025; 05-01-2026; 15-03-2026; 18-03-2026; 15-04-2026; 20-04-2026; 01-06-2026; 15-07-2026
Chrisco Tyggeruller 18 stk. - hvide (No image available)
Rhif y cynnyrch. 12468
EAN code: 5764630124684
Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’: 05/01/2027; 26-02-2027; 15-03-2027; 18-03-2027; 24-03-202
Chrisco Massive politistave, 2.stk. - brune (No image available)
Rhif y cynnyrch: 12541
EAN code: 5764630125414
Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’: 26/02/2027; 15-04-2027
Chrisco Massive politistave, 2stk. - hvide (No image available)
Rhif y cynnyrch: 12542
EAN code: 5764630125421
Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’: 05/01/2027; 20-04-2027; 01-06-2027
Chrisco Tyggerulle m. kylling & kyllingelever, 1stk (No image available)
Rhif y cynnyrch: 12624
EAN code: 5764630126244
Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’: 01/12/2025; 05-01-2026; 15-03-2026; 18-08-2026
Mae adroddiadau gan yr UE yn awgrymu y gallai’r cynhyrchion hyn fod yn gysylltiedig ag achosion o syndrom blaidd-ddyn (werewolf syndrome) ymhlith cŵn. Mae’r symptomau’n cynnwys pyliau o banig, ymddygiad ymosodol, gwingiadau’r cyhyrau, ffitiau epileptig ac, mewn rhai achosion, marwolaeth. Nid ydym wedi cael unrhyw gadarnhad bod y bwydydd cnoi hyn wedi’u dosbarthu yn y DU, ac nid oes unrhyw achosion wedi’u canfod yn y DU.
‘Mae adroddiadau gan yr UE yn awgrymu y gallai’r cynhyrchion hyn fod yn gysylltiedig ag achosion o syndrom blaidd-ddyn (werewolf syndrome) ymhlith cŵn. Mae’r symptomau’n cynnwys pyliau o banig, ymddygiad ymosodol, gwingiadau’r cyhyrau, ffitiau epileptig ac, mewn rhai achosion, marwolaeth. Nid ydym wedi cael unrhyw gadarnhad bod y bwydydd cnoi hyn wedi’u dosbarthu yn y DU, ac nid oes unrhyw achosion wedi’u canfod yn y DU.’
Mae’r ASB wedi cysylltu ag awdurdodau mewn gwledydd yr UE y mae’r mater hwn wedi effeithio arnynt, i gael dealltwriaeth well o’r sefyllfa.
Cyngor i berchnogion cŵn
Os ydych wedi bwydo’r bwydydd cnoi yr effeithiwyd arnynt i’ch ci, peidiwch â bwydo dim rhagor ohonynt i’ch anifail anwes o hyn ymlaen.
Os yw eich ci yn sâl, ac wedi cael unrhyw un o’r bwydydd cnoi cŵn a restrir, dylech geisio cyngor milfeddygol, gan roi gwybodaeth fanwl i’r milfeddyg am y bwydydd a’r danteithion y mae eich ci wedi’u bwyta.
Cyngor i filfeddygon
Dylai milfeddygon fod yn effro i’r symptomau hyn ymhlith cŵn sy’n dod i’w milfeddygfeydd, a ph’un a allent fod yn gysylltiedig â bwyta’r bwydydd cnoi, sydd ag oes silff hir ac a allent fod wedi’u prynu sawl mis yn ôl.
Mae’r symptomau perthnasol yn cynnwys:
- newidiadau ymddygiadol sydyn fel udo, crïo, ymddygiad ymosodol,
- trawiadau sy’n debyg i drawiadau epileptig
Os bydd milfeddygon yn amau y gallai achosion o’r fath fod yn gysylltiedig â bwydydd cnoi cŵn, dylent roi gwybod amdanynt trwy raglen Goruchwyliaeth Anifeiliaid Bach yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).