Ymgynghoriad ar awdurdodi 10 cynnyrch bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad, Rhagfyr 2024
Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas ag awdurdodi un ychwanegyn bwyd, un ychwanegyn bwyd anifeiliaid, un cyflasyn bwyd a thynnu wyth sylwedd cyflasu a ganiateir, un deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd, tair organeb a addaswyd yn enetig (i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid) a dau fwyd newydd.
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd phorthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Bydd Safonau Bwyd yr Alban hefyd yn cyhoeddi’r ymgynghoriad hwn ym mis Ionawr 2025 ar gyfer rhanddeiliaid yn yr Alban.
Pwnc yr ymgynghoriad
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer:
- manyleb newydd mewn perthynas ag ychwanegyn bwyd presennol a ganiateir
- defnydd newydd ar gyfer ychwanegyn bwyd anifeiliaid presennol a ganiateir
- awdurdodiad newydd ar gyfer un cyflasyn bwyd
- tynnu wyth cyflasyn bwyd (un cais yn cwmpasu wyth cyflasyn bwyd)
- awdurdodiad newydd ar gyfer un deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCM)
- tri awdurdodiad newydd ar gyfer tair organeb a addaswyd yn enetig (GMO) i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid
- awdurdodiad newydd ar gyfer un bwyd newydd ac ymestyn y defnydd o fwyd newydd sydd eisoes yn bodoli
Diben yr ymgynghoriad
Wrth ymgynghori, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar yr awdurdodiadau arfaethedig a’r telerau ar gyfer eu cynnig, ar unrhyw gyfnodau trosiannol neu ofynion labelu, ac ar unrhyw ffactorau dilys eraill (hynny yw, cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd ac ati) fel y’u nodwyd. Gwahoddir rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn i roi sylwadau ar y ffactorau hyn neu i nodi unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu dwyn i sylw gweinidogion cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn rhoi’r wybodaeth gefndirol, y manylion a’r cwestiynau y gwahoddir chi i ymateb iddynt. Mae’n darparu dolenni i’r argymhellion rheoli risg a’r asesiadau diogelwch. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd:
Ymgynghoriad ar awdurdodi 10 cynnyrch bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad, Rhagfyr 2024
Sut i ymateb
Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i:
- E-bost: RPconsultations@food.gov.uk
- Enw: Gwasanaeth Cyflenwi Cynhyrchion Rheoleiddiedig
- Is-adran/Cangen: Awdurdodi Cynhyrchion Rheoleiddiedig i’w Rhoi ar y Farchnad
Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Rydym yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd o fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben a darparu dolen iddo o’r dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut rydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein Hysbysiad preifatrwydd ynghylch ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny yn y ddogfen ymgynghori.
Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.
Hanes diwygio
Published: 17 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Rhagfyr 2024