Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Cyflenwi Anifeiliaid Hela Gwyllt i’w Bwyta gan Bobl

Ymgynghoriad ar y canllawiau i helwyr a manwerthwyr ar drin, paratoi a chyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt yn ddiogel.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 July 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 July 2020

Crynodeb o ymatebion

Yr ymgynghoriad

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgynghoriad 8 wythnos ar y canllawiau diwygiedig i Gyflenwi Anifeiliaid Hela Gwyllt i’w Bwyta gan Bobl. Diweddarwyd y canllawiau i wella eglurder yn bennaf ynghylch gofynion Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (UE) a'r Deyrnas Unedig (DU) ar gyfer y diwydiant anifeiliaid hela gwyllt.  

Nid yw'r canllawiau diwygiedig hyn yn cynnwys unrhyw newid mewn polisi, yn hytrach mae'n rhoi mwy o eglurder ar Reoliadau'r UE ar gyfer y diwydiant anifeiliaid hela gwyllt; yn bennaf ar gyfer yr helwyr, y proseswyr a'r manwerthwyr sy'n saethu ac yn cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt. 

Prif gynigion:

  • Eglurder mewn perthynas â Rheoliadau'r UE ar eithriadau helwyr a manwerthwyr. 
  • Newid yng nghynllun y canllawiau gwreiddiol i’w gwneud yn haws eu darllen.
  • Eglurder ar reoliadau cyfredol yr UE o fewn meysydd fel y bwtri helgig, cludiant, y gallu i olrhain, cynhyrchwyr cynradd a’r heliwr/parti hela. 
  • Cynulleidfa darged: mae'r canllawiau hyn yn benodol ar gyfer y diwydiant anifeiliaid hela gwyllt (helwyr a manwerthwyr), nid ar gyfer awdurdodau gorfodi cyfraith bwyd fel y mae'r canllawiau blaenorol yn ei awgrymu (er y gallant fod yn ddefnyddiol pan fyddant yn cynnal gwiriadau gorfodi). 
  • Terminoleg: mae'r term 'saethwr' wedi'i ddileu. Mae heliwr yn derm unigol sy'n cyfeirio at hela a saethu.
     

Bydd yr ymgynghoriad hwn fwyaf o ddiddordeb i

Helwyr Anifeiliaid Gwyllt, Sefydliadau Anifeiliaid Hela Gwyllt, Manwerthwyr Anifeiliaid Hela Gwyllt, Proseswyr Anifeiliaid Hela Gwyllt ac Awdurdodau Gorfodi. 

Y pecyn ymgynghori

England, Northern Ireland and Wales

Northern Ireland, Scotland and Wales

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.