Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hyb Cudd-wybodaeth Fewnforio

Mae’r Hyb Cudd-wybodaeth Fewnforio (IIH) yn darparu gwybodaeth am ystod o ddata am y ffiniau, yn ogystal â chudd-wybodaeth sy’n gysylltiedig â mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO), cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO), a bwyd nad yw’n dod o anifeiliaid (FNAO).

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 July 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 July 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cynllun Monitro Cenedlaethol (NMP) – Adroddiad Dadansoddi Data

Dyma grynodeb o’r canlyniadau yn sgil samplu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) a fewnforiwyd, a gynhaliwyd mewn Arolygfeydd Ffin y DU (BCPs), o dan Gynllun Monitro Cenedlaethol (NMP) y DU. Mae data NMP ar gyfer POAO wedi dod o System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS), a thrwy ddewis y botwm ‘ar hap’ ar y tab ‘gwiriadau’ (checks). IPAFFS yw system newydd Prydain Fawr sy’n disodli system TRACES yr UE.

Cynllun Monitro Cenedlaethol ar gyfer POAO: Adroddiad Dadansoddi Data 2022-23 (Saesneg yn unig) 

System Rhybuddio Cynnar (EWS)

Fel arfer, cyhoeddir hysbysiad am fewnforion trwy’r System Rhybuddio Cynnar (EWS) ar ddiwedd pob mis. Bydd yr hysbysiad yn rhestru cyfuniadau penodol o nwyddau, gwledydd a pheryglon a nodwyd yn ystod y mis blaenorol fel risgiau ‘sy’n dod i’r amlwg’, a hynny drwy gasglu a dadansoddi rhybuddion o ffynonellau gwybodaeth amrywiol o’r DU, yr UE a thu hwnt.

Prif amcan yr EWS ar gyfer mewnforion yw rhoi gwybod i swyddogion gorfodi’r DU, ac eraill, am y risgiau hyn sy’n dod i’r amlwg, ond hefyd i gasglu tystiolaeth bellach a helpu gydag adolygiadau o ddeddfwriaeth bwyd a fewnforir.

Mae'r hysbysiadau EWS ar gael ar y llwyfan Hwyluso Cyfathrebu. Rhaid i chi gofrestru a mewngofnodi i gael mynediad atynt.

Rheoli Masnach – Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel sy'n Dod o Anifeiliaid (HRFNAO)

Mae’r set ddata Rheoli Masnach a System Arbenigol - Bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid yn cynnwys y gwaith monitro gwyliadwriaeth a wneir gan Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd ynghylch bwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir nad ydynt yn dod o anifeiliaid, ac fe’i cofnodir ar IPAFFS. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i werthuso’r risgiau o fwyd wedi’i fewnforio i iechyd y cyhoedd. Data Prydain Fawr o’r System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS) ar ôl ymadael â’r UE yw hwn.

Rheoli Masnach – Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO)

Mae’r set ddata Rheoli Masnach a System Arbenigol - Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid yn cofnodi’r rheolaethau a gymhwysir at gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fewnforir i’r Deyrnas Unedig trwy borthladdoedd dynodedig cymeradwy (BCPs). Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i werthuso’r risgiau o fwyd wedi’i fewnforio i iechyd y cyhoedd. Data Prydain Fawr o’r System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS) ar ôl ymadael â’r UE yw hwn.

Hysbysiadau ar y Ffin

Mae’r data ar gyfer Hysbysiadau ar y Ffin yn ymwneud â mewnforion sydd wedi methu gwiriadau diogelwch bwyd ar ffin Prydain Fawr. Cofnodir methiannau o’r fath ar y Dangosfwrdd ar gyfer Hysbysiadau ar y Ffin, sef modiwl a adeiladwyd o fewn IPAFFS (System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid). Cyflwynir y data hwn gan yr Awdurdod Iechyd Porthladdoedd (PHA), ac mae’n hysbysu’r ASB am lwythi a fewnforir a allai beri risgiau i iechyd y cyhoedd ym Mhrydain Fawr.  
 
Mae’r data a gyhoeddir yn grynodeb o’r wybodaeth a gaiff ei chasglu drwy’r system Hysbysiadau ar y Ffin. Mae hyn yn cynnwys pryd y codwyd yr Hysbysiad ar y Ffin gan yr Awdurdod Iechyd Porthladdoedd ar IPAFFS; y wlad y mae’r llwyth yn tarddu ohoni; manylion y cynnyrch a’r categori perygl fel y’u rhestrir gan yr Awdurdod Iechyd Porthladdoedd; a yw’r nwydd yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth; y math o lwyth; a’r math o fethiant. Mae’r ASB yn rhoi crynodeb o’r rheswm dros y methiant, ac os nad oes gwybodaeth ar gael fe’i dynodir gan ‘NA’.

Mae gwiriadau ar fwyd ar yr adeg y caiff ei fewnforio ar waith er mwyn rheoli’r risgiau i iechyd pobl ac anifeiliaid. Mae’r Awdurdod Iechyd Porthladdoedd yn cynnal gwiriadau ar lwythi bwyd a bwyd anifeiliaid ar sail risg, er mwyn:

  • sicrhau mai dim ond cynhyrchion sy’n ddiogel i’w bwyta sy’n cael eu rhoi ar farchnad Prydain Fawr
  • diogelu iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd
  • gwirio cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Prydain Fawr

Mae Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd yn gyfrifol am fonitro bwyd a fewnforir, a diogelwch y bwyd hwnnw. Fodd bynnag, mae mewnforwyr yn gyfrifol am sicrhau bod cynhyrchion yn ddiogel a’u bod yn bodloni gofynion diogelwch bwyd Prydain Fawr. Er y gellir cynnal gwiriadau ar unrhyw lwyth bwyd a fewnforir o drydydd gwledydd, penderfynir ar y gwiriadau gwirioneddol a gynhelir ar sail risg. Ar gyfer cynhyrchion y nodwyd eu bod yn peri risg uchel, mae rheolaethau iechyd arbennig ar waith, a rhaid rhoi gwybod ymlaen llaw am fewnforion ar IPAFFS i’r Safle Rheoli ar y Ffin perthnasol os yw’r llwyth am gyrraedd Prydain Fawr. Yn ogystal, rhaid i rai cynhyrchion risg uchel ddod gyda dogfennaeth benodol ac ardystiad iechyd allforio i ddangos bod amodau mewnforio wedi’u bodloni.

Mae tair lefel o wiriadau a gynhelir gan Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, sef:

  • gwiriadau dogfennol – mae’r dystysgrif iechyd allforio ac unrhyw ganlyniadau profion labordy cysylltiedig yn cael eu gwirio i sicrhau dilysrwydd a chaiff y rhain eu croesgyfeirio â manylion y dogfennau masnachol i sicrhau eu bod yn ymwneud â’r llwyth
  • gwiriadau hunaniaeth – mae hyn yn cynnwys archwilio’r llwyth i sicrhau bod y nwyddau’n cyd-fynd â’r wybodaeth ar yr ardystiad, y labelu a’r nodau iechyd
  • gwiriadau ffisegol – mae hyn yn cynnwys archwilio’r cynnyrch i sicrhau ei fod yn ddiogel i’w fwyta ac i sicrhau mai’r un yw’r cynnyrch â’r hynny a ardystiwyd. Lle bo’n briodol, bydd hefyd yn cynnwys asesiad organoleptig a chymerir samplau i’w dadansoddi mewn labordy

Er bod yr ASB yn darparu canllawiau ar yr hyn i’w samplu drwy’r Cynllun Monitro Cenedlaethol, yr Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd sy’n cyfarwyddo’r gwaith hyn ac mae hyn yn gallu arwain at amrywiadau mewn patrymau samplu a sbarduno Hysbysiadau ar y Ffin.