Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hyb Cudd-wybodaeth Fewnforio

Mae’r Hyb Cudd-wybodaeth Fewnforio (IIH) yn darparu gwybodaeth am ystod o ddata am y ffiniau, yn ogystal â chudd-wybodaeth sy’n gysylltiedig â mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO), cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO), a bwyd nad yw’n dod o anifeiliaid (FNAO).

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cynllun Monitro Cenedlaethol (NMP) – Adroddiad Dadansoddi Data

Dyma grynodeb o’r canlyniadau yn sgil samplu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) a fewnforiwyd, a gynhaliwyd mewn Arolygfeydd Ffin y DU (BCPs), o dan Gynllun Monitro Cenedlaethol (NMP) y DU. Mae data NMP ar gyfer POAO wedi dod o System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS), a thrwy ddewis y botwm ‘ar hap’ ar y tab ‘gwiriadau’ (checks). IPAFFS yw system newydd Prydain Fawr sy’n disodli system TRACES yr UE.

Cynllun Monitro Cenedlaethol ar gyfer POAO: Adroddiad Dadansoddi Data 2022-23 (Saesneg yn unig) 

System Rhybuddio Cynnar (EWS)

Fel arfer, cyhoeddir hysbysiad am fewnforion trwy’r System Rhybuddio Cynnar (EWS) bob dau fis. Bydd yr hysbysiad yn rhestru cyfuniadau penodol o nwyddau, gwledydd a pheryglon a nodwyd yn ystod y mis blaenorol fel risgiau ‘sy’n dod i’r amlwg’, a hynny drwy gasglu a dadansoddi rhybuddion o ffynonellau gwybodaeth amrywiol o’r DU, yr UE a thu hwnt.

Prif amcan yr EWS ar gyfer mewnforion yw rhoi gwybod i swyddogion gorfodi’r DU, ac eraill, am y risgiau hyn sy’n dod i’r amlwg, ond hefyd i gasglu tystiolaeth bellach a helpu gydag adolygiadau o ddeddfwriaeth bwyd a fewnforir.

Mae'r hysbysiadau EWS ar gael ar lwyfan Rhwydwaith Rhannu'r ASB. Rhaid i chi gofrestru a mewngofnodi i gael mynediad atynt.

Rheoli Masnach – Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel sy'n Dod o Anifeiliaid (HRFNAO)

Mae’r set ddata Rheoli Masnach a System Arbenigol - Bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid yn cynnwys y gwaith monitro gwyliadwriaeth a wneir gan Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd ynghylch bwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir nad ydynt yn dod o anifeiliaid, ac fe’i cofnodir ar IPAFFS. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i werthuso’r risgiau o fwyd wedi’i fewnforio i iechyd y cyhoedd. Data Prydain Fawr o’r System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS) ar ôl ymadael â’r UE yw hwn.

Rheoli Masnach – Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO)

Mae’r set ddata Rheoli Masnach a System Arbenigol - Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid yn cofnodi’r rheolaethau a gymhwysir at gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fewnforir i’r Deyrnas Unedig trwy borthladdoedd dynodedig cymeradwy (BCPs). Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i werthuso’r risgiau o fwyd wedi’i fewnforio i iechyd y cyhoedd. Data Prydain Fawr o’r System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS) ar ôl ymadael â’r UE yw hwn.

Hysbysiadau ar y Ffin

Mae’r data ar gyfer Hysbysiadau ar y Ffin yn ymwneud â mewnforion sydd wedi methu gwiriadau diogelwch bwyd ar ffin Prydain Fawr. Cofnodir methiannau o’r fath ar y Dangosfwrdd ar gyfer Hysbysiadau ar y Ffin, sef modiwl a adeiladwyd o fewn IPAFFS (System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid). Cyflwynir y data hwn gan yr Awdurdod Iechyd Porthladdoedd (PHA), ac mae’n hysbysu’r ASB am lwythi a fewnforir a allai beri risgiau i iechyd y cyhoedd ym Mhrydain Fawr.  Dyma fwy o wybodaeth am Hysbysiadau ar y Ffin.

Rheolaethau Swyddogol Dwys

Bwriad y system gwirio Rheolaethau Swyddogol Dwys (IOC) yw gwella diogelwch bwydydd sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr. Mae gwiriadau IOC yn cael eu defnyddio pan fydd gwiriadau mewnforio sydd eisoes wedi’u cynnal yn dangos bod deddfwriaeth wedi’i thorri’n ddifrifol neu wedi’i thorri droeon. Mae’r gwiriadau mewnforio ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith i roi mwy o sicrwydd bod bwyd yn ddiogel wrth gyrraedd marchnad Prydain Fawr. Fel arfer, bydd y gwiriadau’n cael eu cynnal yn y sefydliadau penodol hynny lle mae pryderon am iechyd y cyhoedd.

Os bydd methiannau anffafriol yn ystod cyfnod y rheolaethau swyddogol dwys, bydd y mater yn cael ei uwchgyfeirio i system Gwiriadau wedi’u Gorfodi (IC). Bydd mesurau diogelu ychwanegol ar waith ar gyfer cynhyrchion o dan y system IC. Bydd cynhyrchion sy’n destun y system IOC gyfredol ond sydd wedi’u huwchgyfeirio i’r system IC yn cael eu hamlygu o dan ‘statws cyfredol’.