Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adnoddau addysgol i bobl ifanc yng Nghymru

Penodol i Gymru

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau i ysgolion, hyfforddwyr sgiliau, darparwyr dysgu, colegau a phrifysgolion sydd â’r nod o wella sgiliau pobl ifanc ar bwysigrwydd hylendid a diogelwch bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 January 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 January 2024

Cwrs e-ddysgu ar ddiogelwch a hylendid bwyd

Rydym yn darparu cwrs e-ddysgu am ddim i sefydliadau addysg yng Nghymru sydd am gynnig hyfforddiant ‘Lefel 2 Diogelwch a Hylendid Bwyd (Arlwyo)’ i unrhyw un 14 oed a hŷn.

Bwriad y cymhwyster hwn, sydd wedi’i achredu gan City and Guilds, yw cefnogi eich dysgwyr i ddatblygu sgiliau cegin pwysig a bod yn barod i ymgymryd â gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod.

Mae dysgwyr yn cael tystysgrif ddigidol y gellir ei lawrlwytho ar ôl cwblhau’r hyfforddiant ar-lein yn llwyddiannus. Mae’r cwrs yn cymryd tua thair awr i’w gwblhau. Mae’r cwrs yn hyblyg, a gall yr unigolyn weithio drwy’r deunydd yn ei amser ei hun. Mae’n canolbwyntio ar bynciau sy’n ymwneud â bwyd, gan gynnwys:

  • pwysigrwydd diogelwch a hylendid bwyd
  • effaith salwch sy’n cael ei gludo gan fwyd
  • deall cyfraith bwyd
  • deall alergenau
  • peryglon diogelwch bwyd a halogiad bwyd
  • cadw bwyd
  • storio a rheoli tymheredd
  • hylendid personol
  • safle ac offer hylan

Cysylltu â ni

Os hoffech gofrestru eich diddordeb mewn unrhyw un o’r adnoddau uchod, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i walesadminteam@food.gov.uk.