Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer adborth Cofrestru Busnesau Bwyd gan weithredwyr busnesau bwyd

Gwybodaeth am yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer adborth mewn perthynas â’r Gwasanaeth Cofrestru Busnesau Bwyd, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda’r data a’ch hawliau chi.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ y data personol sy’n cael ei roi i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth adborth hon i wella ein gwasanaeth cofrestru busnesau bwyd digidol. Rydym ni hefyd yn defnyddio adborth i adolygu a gwella’r cyngor a’r canllawiau cofrestru busnesau bwyd a roddir i fusnesau.

Rydym yn gwneud hyn drwy gynnal ein swyddogaethau swyddogol ac yn unol â’r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau a allai godi mewn cysylltiad â bwyta bwyd. Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad oes ei angen arnom ni.

I gael mwy o wybodaeth, darllenwch yr adran Pam mae angen eich gwybodaeth bersonol arnom yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Beth sydd ei angen arnom a sut rydym yn ei ddefnyddio

Rydym yn casglu eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost. Mae angen yr wybodaeth hon i’n galluogi i gysylltu â chi i gael adborth.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am natur eich busnes, eich ymwybyddiaeth o’r angen i gofrestru, a’ch rhesymau dros gofrestru. Rydym yn gwneud hyn i’n helpu i wella cyngor busnes ac i wneud y broses gofrestru mor effeithlon â phosib.

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn cwestiynau i chi ac yn cadw gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch profiad o gofrestru fel y gallwn wella’r gwasanaeth Cofrestru Busnesau Bwyd digidol. 

Sut a ble rydym yn storio’ch data, a chyda phwy y gallwn ei rannu 

Dim ond cyhyd ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion hyn y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol, a hynny’n unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon cyhyd â bod busnes wedi’i gofrestru a/neu ei gymeradwyo fel gweithredwr busnes bwyd. Cedwir rhestrau hanesyddol o fusnesau cofrestredig a/neu rai wedi’u cymeradwyo am 6 blynedd.

I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, ewch i’r adran Sut a ble rydym yn storio’ch data, a chyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Trosglwyddiadau Rhyngwladol 

I gael mwy o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i’r adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE

I gael mwy o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i’r adran Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Eich hawliau  

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’r adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol, neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.