Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB): canllawiau i fusnesau

Cyhoeddi’r sgôr hylendid bwyd ac arddangos eich sgôr

Pryd a ble y cyhoeddir eich sgôr hylendid bwyd, a sut i arddangos eich sgôr ar eich safle ac ar-lein.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 March 2024

Cyhoeddi sgoriau

Yn dilyn arolygiad hylendid bwyd  yn eich busnes, bydd eich sgôr yn cael ei huwchlwytho gan yr awdurdod lleol er mwyn iddi gael ei chyhoeddi ar wefan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Bydd busnesau sy’n cael sgôr o ‘5 – Da iawn’ yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth yn cael ei huwchlwytho gan eich awdurdod lleol. Bydd busnesau sy’n cael sgôr o ‘0’ i ‘4’ yn cael eu cyhoeddi rhwng tair a phump wythnos ar ôl dyddiad yr arolygiad, a hynny er mwyn caniatáu amser i’r busnes gyflwyno apêl (gweler yr adran ar fesurau diogelu).

Os na allwch ddod o hyd i’ch sgôr

Os na allwch ddod o hyd i’ch sgôr ar y wefan, rhowch gynnig ar chwilio gan ddefnyddio enw’r busnes yn unig neu ran gyntaf y cod post. Os yw’ch busnes wedi’i gofrestru mewn cyfeiriad preifat (er enghraifft, os ydych yn arlwywr cartref), dim ond rhan gyntaf y cod post sy’n cael ei chyhoeddi. Ni fydd unrhyw ganlyniadau’n cael eu cynnig os byddwch yn chwilio gan ddefnyddio rhannau o’r cyfeiriad sydd heb eu cyhoeddi. Os ydych chi’n dal i fethu â dod o hyd i’ch sgôr, dylech chi gysylltu â’ch awdurdod lleol. Yr ASB sy’n darparu’r wefan sgoriau, ond mae’r hyn a gyhoeddir arni’n cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol.

Gallwch roi caniatâd i’r cyfeiriad llawn gael ei gyhoeddi. Rhaid rhoi’r caniatâd hwn yn ysgrifenedig i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr arolygiad.

Cyhoeddi’r sgôr yn gynnar

Os yw’ch busnes yng Nghymru neu Loegr, gallwch ofyn i’r sgôr gael ei chyhoeddi cyn diwedd y cyfnod apelio. Rhaid gwneud y cais hwn yn ysgrifenedig i’ch awdurdod lleol. Rhaid i chi gynnwys:

  • manylion o ran pwy ydych chi
  • enw a chyfeiriad y busnes
  • eich gwybodaeth gyswllt
  • dyddiad yr arolygiad
  • y sgôr a roddwyd

Bydd yr awdurdod lleol yn adolygu’r cais ac, fel arfer, bydd yn cyhoeddi’r sgôr yn gynnar. Nid yw’r opsiwn hwn ar gael yng Ngogledd Iwerddon.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen berthnasol isod, anfon e-bost neu ysgrifennu at eich awdurdod lleol yn uniongyrchol i ofyn am gyhoeddi’ch sgôr yn gynnar.

England

Newid manylion y busnes bwyd

Os yw’r enw neu’r cyfeiriad a ddangosir ar ein gwefan sgoriau hylendid bwyd  yn anghywir ar gyfer eich busnes, dylech chi gysylltu â’r awdurdod lleol a roddodd y sgôr i chi a gofyn i’r newidiadau angenrheidiol gael eu gwneud.

Dod o hyd i dîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.

Arddangos eich sgôr ar eich safle

Cymru

Os yw’ch busnes yng Nghymru, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi arddangos eich sgôr mewn man amlwg wrth y fynedfa i gwsmeriaid, neu’n agos ati, fel y drws blaen, y fynedfa, neu ffenest y busnes. Rhaid arddangos sticeri mewn man lle gall cwsmeriaid eu darllen yn rhwydd cyn iddynt fynd i mewn i’r safle pan fo’r busnes ar agor. 
Os ydych yn cyflenwi bwyd tecawê yn uniongyrchol i ddefnyddwyr a bod gennych fwydlen neu daflen sy’n dangos y bwyd sydd ar werth, y pris ac sy’n cynnig modd o archebu’r bwyd heb ymweld â’r safle, rhaid i chi gyhoeddi datganiad dwyieithog ar y deunydd   sy’n cyfeirio cwsmeriaid at y wefan sgoriau hylendid bwyd.

Mae’r datganiad hefyd yn atgoffa defnyddwyr bod ganddynt hawl gyfreithiol i holi’r busnes bwyd ynghylch ei sgôr hylendid bwyd wrth archebu.

Lloegr

Gallwch arddangos eich sgôr yn ffenest neu ddrws eich safle fel bod cwsmeriaid yn gallu ei gweld yn rhwydd. Mae arddangos sgôr hylendid yn dangos i gwsmeriaid eich bod yn cymryd hylendid bwyd o ddifrif.

Gogledd Iwerddon

Os yw’ch busnes yng Ngogledd Iwerddon, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi arddangos eich sgôr wrth y fynedfa i gwsmeriaid, neu’n agos ati, fel y drws blaen, y fynedfa, neu ffenest y busnes. Rhaid arddangos sticeri mewn man lle gall cwsmeriaid eu gweld a’u darllen yn rhwydd cyn iddynt fynd i mewn i’r safle pan fo’r busnes ar agor.
Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am eich sgôr ar lafar os daw cais o’r fath gan berson ar y safle neu dros y ffôn.

Arddangos eich sgôr ar-lein

Rydym yn eich annog i hyrwyddo eich sgôr hylendid trwy ei harddangos ar eich gwefan neu ar dudalennau eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag yn eich ffenestr. Er mwyn eich helpu i ddechrau arni, rydym yn darparu canllawiau cynhwysfawr a bathodynnau sgorio digidol. Ein nod yw eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich sgôr trwy ei harddangos ar-lein.

Gair i gall

Manteisio i’r eithaf ar eich sgôr

Rydym yn darparu pecyn cymorth ar y cynllun sgorio hylendid bwyd i fusnesau sy’n rhoi syniadau ac ysbrydoliaeth i chi ar sut i dynnu sylw at eich sgôr hylendid bwyd ar-lein ac all-lein.