Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB): canllawiau i fusnesau
Canllawiau i fusnesau ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Mae hyn yn cynnwys trosolwg o’r cynllun, arolygiadau hylendid bwyd, arddangos sgoriau, gwneud apêl, gwneud cais am ail-arolygiad, a gwybodaeth am eich hawl i ymateb.
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn helpu defnyddwyr i ddewis ble i fwyta neu brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir iddynt am safonau hylendid busnesau. Rydym yn gweithredu’r cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol.
Bydd swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu eich busnes. Bydd yn cadarnhau bod y busnes yn dilyn cyfraith hylendid bwyd fel bod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta. Yna, bydd y swyddog yn rhoi sgôr hylendid bwyd a sticer y CSHB i chi yn fuan ar ôl yr arolygiad.
Y raddfa sgorio
Bydd y safonau hylendid a welwyd ar adeg yr arolygiad yn cael eu sgorio yn unol â graddfa benodol.
Bydd eich busnes yn cael sgôr o 5 i 0:
- 5 – mae’r safonau hylendid yn dda iawn
- 4 – mae’r safonau hylendid yn dda
- 3 – mae’r safonau hylendid yn foddhaol ar y cyfan
- 2 – mae angen gwella’r safonau hylendid rhywfaint
- 1 – mae angen gwella’r safonau hylendid yn sylweddol
- 0 – mae angen gwella’r safonau hylendid ar frys

Arolygiadau hylendid bwyd
Mae’r sgôr a gewch gan swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol yn adlewyrchu’r safonau hylendid bwyd a welwyd yn eich busnes ar adeg yr arolygiad.
Yn ystod yr arolygiad, bydd y swyddog yn gwirio’r tair elfen ganlynol:
- Pa mor hylan mae’r bwyd yn cael ei drin – sut mae’n cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio
- Cyflwr ffisegol eich busnes – gan gynnwys glendid, cynllun, goleuo, awyru, mesurau rheoli plâu a chyfleusterau eraill
- Sut rydych chi’n rheoli diogelwch bwyd, gan ystyried y prosesau, yr hyfforddiant a’r systemau sydd ar waith i sicrhau y caiff hylendid da ei gynnal. Yna, gall y swyddog asesu pa mor hyderus ydyw y bydd y safonau’n cael eu cynnal y dyfodol
Yn dilyn arolygiad hylendid bwyd ar eich safle, byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig beth yw eich sgôr hylendid bwyd a pham y cawsoch y sgôr hon. Bydd hyn naill ai ar adeg yr arolygiad neu cyn pen 14 diwrnod ar ei ôl (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus).
Mae’r sgôr yn dangos pa mor dda yw’r busnes ar y cyfan, a hynny’n seiliedig ar y safonau a welwyd adeg yr arolygiad. Eich cyfrifoldeb chi yw dilyn y gyfraith hylendid bwyd bob amser. Mae hyn yn cynnwys:
- sut y caiff bwyd ei drin
- sut y caiff bwyd ei storio
- sut y caiff bwyd ei baratoi
- glanweithdra’r cyfleusterau
- sut y caiff diogelwch bwyd ei reoli
Eithriadau
Mae dau grŵp o fusnesau eithriedig sy’n cael arolygiad gan swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol ond nad ydynt yn cael sgôr hylendid bwyd:
- busnesau sydd â risg isel i iechyd y cyhoedd ac na fyddai defnyddwyr fel rheol yn meddwl amdanynt fel busnesau bwyd, er enghraifft siopau papurau newydd, siopau fferyllfeydd neu ganolfannau ymwelwyr sy’n gwerthu nwyddau wedi’u lapio ymlaen llaw nad oes angen eu cadw’n oer
- gofalwyr plant a busnesau sy’n darparu gwasanaethau gofal yn y cartref
Pa mor aml y cynhelir arolygiadau
Caiff sgôr newydd ei rhoi bob tro y bydd eich busnes yn cael ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd. Mae pob awdurdod lleol yn cynllunio rhaglen o arolygiadau bob blwyddyn. Mae amlder yr arolygiadau’n dibynnu ar y risg bosib i iechyd y cyhoedd.
Mae’r asesiad risg hwn yn ystyried y ffactorau canlynol:
- y math o fwyd sy’n cael ei drin
- nifer y cwsmeriaid a’r math o gwsmeriaid, er enghraifft grwpiau sy’n agored i niwed
- y mathau o brosesau a gyflawnir cyn i’r bwyd gael ei werthu neu ei weini
- y safonau hylendid a welwyd ar ddiwrnod yr arolygiad diwethaf
Caiff busnesau sy’n peri risg uwch eu harolygu’n amlach na busnesau sy’n peri risg is. Enghraifft o fusnes risg is yw manwerthwr bach sy’n gwerthu amrywiaeth o fwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw sydd angen eu cadw yn yr oergell yn unig. Mae’r cyfnod rhwng arolygiadau’n amrywio o chwe mis ar gyfer y busnesau risg uchaf i ddwy flynedd ar gyfer y busnesau risg isaf. Efallai na fydd rhai busnesau risg isel iawn yn cael eu harolygu tan ar ôl cyfnod o ddwy flynedd.
Ennill sgôr uwch
Mae’r sgôr uchaf o 5 o fewn cyrraedd pob busnes. I ennill y sgôr uchaf, rhaid i chi lwyddo ym mhob un o’r tair elfen a ddisgrifir yn yr adran Arolygiadau hylendid bwyd.
Os na chewch y sgôr uchaf, bydd swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol yn esbonio beth gallwch chi ei wneud i wella eich sgôr hylendid.
Busnesau â sgoriau isel
Os cewch sgôr isel, mae’n rhaid i chi wneud gwelliannau ar frys, neu roi gwelliannau mawr ar waith, o ran eich safonau hylendid. Mae nifer o opsiynau gorfodi ar gael i swyddogion diogelwch bwyd awdurdodau lleol. Bydd y swyddog yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi er mwyn sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud.
Bydd y swyddog diogelwch bwyd hefyd yn dweud wrthych pa mor gyflym y mae’n rhaid gwneud y gwelliannau hyn. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o broblem y mae angen i chi fynd i’r afael â hi.
Os bydd y swyddog yn canfod bod safonau hylendid busnes yn wael iawn ac y gallai bwyd fod yn anniogel i’w fwyta, rhaid iddo weithredu i ddiogelu defnyddwyr. Gallai hyn arwain at atal rhan o’r busnes neu ei gau’n gyfan gwbl nes ei bod hi’n ddiogel i’w ailagor.
Cyhoeddi sgoriau
Yn dilyn arolygiad hylendid bwyd yn eich busnes, bydd eich sgôr yn cael ei huwchlwytho gan yr awdurdod lleol er mwyn iddi gael ei chyhoeddi ar wefan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Bydd busnesau sy’n cael sgôr o ‘5 – Da iawn’ yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth yn cael ei huwchlwytho gan eich awdurdod lleol. Bydd busnesau sy’n cael sgôr o ‘0’ i ‘4’ yn cael eu cyhoeddi rhwng tair a phump wythnos ar ôl dyddiad yr arolygiad, a hynny er mwyn caniatáu amser i’r busnes gyflwyno apêl (gweler yr adran ar fesurau diogelu).
Os na allwch ddod o hyd i’ch sgôr
Os na allwch ddod o hyd i’ch sgôr ar y wefan, rhowch gynnig ar chwilio gan ddefnyddio enw’r busnes yn unig neu ran gyntaf y cod post. Os yw’ch busnes wedi’i gofrestru mewn cyfeiriad preifat (er enghraifft, os ydych yn arlwywr cartref), dim ond rhan gyntaf y cod post sy’n cael ei chyhoeddi. Ni fydd unrhyw ganlyniadau’n cael eu cynnig os byddwch yn chwilio gan ddefnyddio rhannau o’r cyfeiriad sydd heb eu cyhoeddi. Os ydych chi’n dal i fethu â dod o hyd i’ch sgôr, dylech chi gysylltu â’ch awdurdod lleol. Yr ASB sy’n darparu’r wefan sgoriau, ond mae’r hyn a gyhoeddir arni’n cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol.
Gallwch roi caniatâd i’r cyfeiriad llawn gael ei gyhoeddi. Rhaid rhoi’r caniatâd hwn yn ysgrifenedig i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr arolygiad.
Cyhoeddi’r sgôr yn gynnar
Os yw’ch busnes yng Nghymru neu Loegr, gallwch ofyn i’r sgôr gael ei chyhoeddi cyn diwedd y cyfnod apelio. Rhaid gwneud y cais hwn yn ysgrifenedig i’ch awdurdod lleol. Rhaid i chi gynnwys:
- manylion o ran pwy ydych chi
- enw a chyfeiriad y busnes
- eich gwybodaeth gyswllt
- dyddiad yr arolygiad
- y sgôr a roddwyd
Bydd yr awdurdod lleol yn adolygu’r cais ac, fel arfer, bydd yn cyhoeddi’r sgôr yn gynnar. Nid yw’r opsiwn hwn ar gael yng Ngogledd Iwerddon.
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen berthnasol isod, anfon e-bost neu ysgrifennu at eich awdurdod lleol yn uniongyrchol i ofyn am gyhoeddi’ch sgôr yn gynnar.
Wales
England
Newid manylion y busnes bwyd
Os yw’r enw neu’r cyfeiriad a ddangosir ar ein gwefan sgoriau hylendid bwyd yn anghywir ar gyfer eich busnes, dylech chi gysylltu â’r awdurdod lleol a roddodd y sgôr i chi a gofyn i’r newidiadau angenrheidiol gael eu gwneud.
Dod o hyd i dîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.
Arddangos eich sgôr ar eich safle
Cymru
Os yw’ch busnes yng Nghymru, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi arddangos eich sgôr mewn man amlwg wrth y fynedfa i gwsmeriaid, neu’n agos ati, fel y drws blaen, y fynedfa, neu ffenest y busnes. Rhaid arddangos sticeri mewn man lle gall cwsmeriaid eu darllen yn rhwydd cyn iddynt fynd i mewn i’r safle pan fo’r busnes ar agor.
Os ydych yn cyflenwi bwyd tecawê yn uniongyrchol i ddefnyddwyr a bod gennych fwydlen neu daflen sy’n dangos y bwyd sydd ar werth, y pris ac sy’n cynnig modd o archebu’r bwyd heb ymweld â’r safle, rhaid i chi gyhoeddi datganiad dwyieithog ar y deunydd sy’n cyfeirio cwsmeriaid at y wefan sgoriau hylendid bwyd.
Mae’r datganiad hefyd yn atgoffa defnyddwyr bod ganddynt hawl gyfreithiol i holi’r busnes bwyd ynghylch ei sgôr hylendid bwyd wrth archebu.
Lloegr
Gogledd Iwerddon
Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am eich sgôr ar lafar os daw cais o’r fath gan berson ar y safle neu dros y ffôn.
Arddangos eich sgôr ar-lein
Rydym yn eich annog i hyrwyddo eich sgôr hylendid trwy ei harddangos ar eich gwefan neu ar dudalennau eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag yn eich ffenestr. Er mwyn eich helpu i ddechrau arni, rydym yn darparu canllawiau cynhwysfawr a bathodynnau sgorio digidol. Ein nod yw eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich sgôr trwy ei harddangos ar-lein.
Manteisio i’r eithaf ar eich sgôr
Rydym yn darparu pecyn cymorth ar y cynllun sgorio hylendid bwyd i fusnesau sy’n rhoi syniadau ac ysbrydoliaeth i chi ar sut i dynnu sylw at eich sgôr hylendid bwyd ar-lein ac all-lein.
Mae tri mesur diogelu ar waith i sicrhau bod y cynllun yn deg i fusnesau. Fel busnes:
- gallwch wneud apêl
- mae gennych ‘hawl i ymateb’
- gallwch ofyn am arolygiad ailsgorio gan eich awdurdod lleol pan fydd gwelliannau wedi’u gwneud
Apeliadau
Cyn apelio, dylech gysylltu â swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol i ddeall pam cafodd y sgôr ei dyfarnu. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall sut y cafodd eich sgôr ei chyfrifo ac i weld a ydych chi’n dal i ddymuno apelio yn ei herbyn. Byddwch yn cael manylion cyswllt y swyddog hwn pan fyddwch yn cael gwybod am eich sgôr.
Os ydych chi’n dal i feddwl bod y sgôr yn annheg neu’n anghywir, gallwch gyflwyno apêl ysgrifenedig i’ch awdurdod lleol. Mae’r manylion o ran sut i wneud hyn wedi’u nodi yn y llythyr hysbysu a anfonwyd atoch sy’n rhoi gwybod am y sgôr.
Cymru
Lloegr a Gogledd Iwerddon
Dylech anfon eich llythyr, e-bost neu’ch ffurflen wedi’i chwblhau at swyddog bwyd arweiniol eich awdurdod lleol. Byddwch yn cael manylion cyswllt y swyddog hwn pan fyddwch yn cael gwybod am eich sgôr.
Wales
England
Northern Ireland
Pa mor hir sydd gennych i apelio
Rhaid i chi wneud eich apêl yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod ar ôl cael gwybod am eich sgôr hylendid bwyd. Mae’r cyfnod hwn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus.
Os na fyddwch yn apelio o fewn y cyfnod hwn, bydd eich awdurdod lleol yn cyhoeddi eich sgôr hylendid bwyd ar-lein ar wefan food.gov.uk/sgoriau.
Os byddwch yn apelio, bydd y wefan yn dangos bod eich sgôr hylendid bwyd yn ‘i’w chyhoeddi’n fuan’.
Adolygu’ch apêl a chanlyniad eich apêl
Bydd eich achos yn cael ei adolygu gan y naill neu’r llall o’r canlynol:
- y swyddog arweiniol ar gyfer bwyd neu ei ddirprwy dynodedig
- y swyddog arweiniol neu ei ddirprwy dynodedig mewn awdurdod arall sydd hefyd yn gweithredu’r CSHB
Ni fydd y swyddog a roddodd y sgôr yn ystyried eich apêl.
O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd angen ymweliad pellach â’ch safle.
Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad yr apêl o fewn 21 diwrnod i’r dyddiad y daeth yr apêl i law eich awdurdod lleol.
Unwaith y byddwch wedi cael gwybod am ganlyniad eich apêl, bydd eich sgôr yn cael ei chyhoeddi ar food.gov.uk/sgoriau.
Os nad ydych chi’n cytuno â chanlyniad yr apêl
Os nad ydych chi’n meddwl bod eich awdurdod lleol wedi dilyn prosesau’n gywir, gallwch ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r cyngor. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio’r mater at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr ac at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon. Dylech allu dod o hyd i fanylion am sut i gwyno ar wefan eich awdurdod lleol.
Os nad ydych chi’n cytuno â chanlyniad yr apêl, gallwch herio penderfyniad yr awdurdod lleol drwy adolygiad barnwrol.
Hyd yn oed os penderfynwch wneud hyn, bydd eich sgôr yn dal i gael ei chyhoeddi yn food.gov.uk/sgoriau.
Hawl i ymateb
Mae’r hawl i ymateb yn eich galluogi i roi gwybod i’ch cwsmeriaid sut mae’ch busnes wedi gwella ei safonau hylendid neu i egluro am unrhyw amgylchiadau anarferol adeg yr arolygiad. Bydd yr ymateb hwn yn cael ei gyhoeddi ar-lein ar food.gov.uk/sgoriau, ochr yn ochr â’r sgôr, gan yr awdurdod lleol.
Dylech anfon eich sylwadau, yn ysgrifenedig, at y swyddog diogelwch bwyd a arolygodd eich safle. Byddwch yn cael manylion cyswllt y swyddog pan fyddwch yn cael gwybod am eich sgôr.
Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen safonol, neu gallwch anfon llythyr neu e-bost.
Wales
England
Northern Ireland
Pa mor hir sydd gennych i gyflwyno eich sylwadau
Nid oes dyddiad cau ar gyfer hyn, felly gallwch gyflwyno eich ‘hawl i ymateb’ ar unrhyw adeg hyd at eich arolygiad nesaf, pan gewch sgôr hylendid bwyd newydd.
Cyhoeddi eich sylwadau
Mae’n bosibl y bydd angen i’ch awdurdod lleol olygu sylwadau, er enghraifft i ddileu unrhyw sylwadau cas, difenwol, sy’n amlwg yn anghywir neu’n amherthnasol. Ar wahân i hynny, bydd yr hyn a ddywedwch yn eich ‘hawl i ymateb’ wedyn yn cael ei gyhoeddi ar-lein ynghyd â’ch sgôr hylendid yn food.gov.uk/sgoriau. Bydd eich sylw’n aros ar y wefan nes i chi gael sgôr newydd.
Arolygiadau ailsgorio
Byddwch yn cael sgôr hylendid bwyd newydd yn awtomatig bob tro y caiff eich safle ei arolygu gan eich awdurdod lleol. Mae amlder yr arolygiadau hyn a raglennir yn dibynnu ar y risg i iechyd pobl. Po fwyaf yw’r risg, y mwyaf aml y byddwch yn cael eich arolygu.
Os na chafodd eich busnes sgôr o ‘5 – Da iawn’, gallwch ofyn am arolygiad ailsgorio i gael sgôr newydd cyn yr arolygiad nesaf sydd wedi’i raglennu.
Cost arolygiad ailsgorio
Cymru a Gogledd Iwerddon
Lloegr
Dylech chi gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael gwybodaeth am sut i dalu.
Cyn gwneud cais am arolygiad ailsgorio
Edrychwch yn ofalus ar y sylwadau a wnaeth y swyddog diogelwch bwyd am y safonau hylendid a welodd yn ystod eich arolygiad diwethaf yn yr adroddiad neu’r llythyr a roddwyd i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cymryd y camau priodol i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a godwyd. Gallwch chi drafod unrhyw beth rydych chi’n ansicr amdano â’ch swyddog diogelwch bwyd, neu gallwch chi ofyn am fwy o gymorth ar sut i wneud gwelliannau.
Nifer y ceisiadau am arolygiad ailsgorio rhwng arolygiadau a raglennir
Cymru a Gogledd Iwerddon
Does dim cyfyngiad ar nifer y ceisiadau y gellir eu gwneud am arolygiadau ailsgorio, ond rhaid bodloni amodau penodol cyn y bydd yr awdurdod lleol yn cytuno i gynnal arolygiad ailsgorio:
- os ydych chi wedi apelio yn erbyn eich sgôr, rhaid i’r apêl hon fod wedi’i datrys cyn y bydd eich awdurdod lleol yn cytuno i gynnal arolygiad ailsgorio
- rhaid i chi fod yn arddangos eich sticer sgôr hylendid bwyd cyfredol yn eich safle mewn man amlwg
- rhaid i chi gytuno y bydd yr arolygwr yn cael mynediad i gynnal arolygiad o’ch safle at ddiben ailsgorio
Lloegr
Sut i ofyn am arolygiad ailsgorio
Dylech chi gyflwyno’ch cais yn ysgrifenedig i’r swyddog diogelwch bwyd a arolygodd eich safle. Byddwch yn cael manylion cyswllt y swyddog hwn pan fyddwch yn cael gwybod am eich sgôr.
Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen safonol, neu gallwch anfon llythyr neu e-bost.
Wales
England
Northern Ireland
Os codir tâl am arolygiadau ailsgorio, dylech chi anfon y taliad gyda’ch cais.
Mae’n rhaid i chi esbonio’r camau rydych chi wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r problemau a godwyd yn ystod eich arolygiad diwethaf, a dylech chi gynnwys tystiolaeth ategol, er enghraifft derbynebau neu ffotograffau i ddangos bod y gwaith wedi’i gwblhau. Mae hyn yn bwysig gan y gallai’r awdurdod lleol wrthod eich cais os na fyddwch chi’n rhoi digon o dystiolaeth eich bod chi wedi datrys y problemau a godwyd.
Cymru a Gogledd Iwerddon
Wrth benderfynu a ddylid cynnal arolygiad ailsgorio, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn ystyried sut mae’r busnes yn cydymffurfio â’r gyfraith Sgorio Hylendid Bwyd. Byddai hyn yn cynnwys a yw’r busnes yn arddangos sticer sgôr dilys.
Os caiff y cais ei wrthod, byddwch chi’n cael gwybod pam. Byddwch chi’n cael cyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud neu’r dystiolaeth y mae angen i chi ei darparu cyn y gellir cytuno ar eich cais. Os na fyddwch chi’n cytuno â phenderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod eich cais, gallwch chi godi’r mater gyda’r swyddog perthnasol yn eich awdurdod lleol. Os byddwch chi’n anghytuno â’r penderfyniad i wrthod cais am arolygiad ailsgorio, gallwch chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r awdurdod lleol, neu yn y pen draw geisio adolygiad barnwrol.
Lloegr
Pa mor hir sydd gennych chi i wneud eich cais
Does dim dyddiad cau ar gyfer gwneud y cais. Gallwch chi ei wneud ar unrhyw adeg ar ôl i chi wneud y gwelliannau angenrheidiol a nodwyd yn eich arolygiad. Fodd bynnag, ni allwch chi bennu pryd y cynhelir yr arolygiad ailsgorio.
Pa mor fuan y bydd yr awdurdod lleol yn ymweld
Cymru a Gogledd Iwerddon
Ni fyddwch chi’n cael gwybod y dyddiad na’r amser penodol y bydd yr arolygiad ailsgorio’n cael ei gynnal.
Lloegr
Os nad yw’r awdurdod lleol yn codi tâl am yr arolygiad ailsgorio, ni fydd yn cael ei gynnal fel arfer yn ystod y tri mis cyntaf ar ôl yr arolygiad pan roddwyd eich sgôr hylendid bwyd i chi. Fodd bynnag, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn dewis cynnal yr arolygiad ailsgorio y gofynnwyd amdano’n gynt na hyn os oedd ond gofyn i chi wneud y canlynol:
- gwneud gwelliannau neu atgyweiriadau strwythurol
- uwchraddio offer
Os byddwch chi’n gwneud eich cais yn ystod y tri mis cyntaf hynny, gallwch chi ddisgwyl arolygiad ailsgorio o fewn chwe mis i’r arolygiad gwreiddiol, ond ni fyddwch chi’n cael gwybod dyddiad ac amser penodol.
Os byddwch chi’n gwneud eich cais yn hwyrach na thri mis ar ôl eich arolygiad, neu os yw’ch awdurdod lleol yn codi tâl am arolygiadau ailsgorio, gallwch chi ddisgwyl arolygiad ailsgorio o fewn tri mis ond eto ni fyddwch chi’n cael gwybod dyddiad ac amser penodol.
Os ydych chi’n dal i aros am arolygiad ailsgorio ar ôl yr cyfnodau hyn, gallwch chi ofyn i’r swyddog arweiniol ar gyfer bwyd ymchwilio i’r peth. Os na allwch chi ddatrys pethau fel hyn, gallwch chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno eich awdurdod lleol a fydd ar gael ar ei wefan.
Yr arolygiad ailsgorio a’i ganlyniad
Yn ystod yr arolygiad ailsgorio, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn asesu’r safonau hylendid ar eich safle. Byddwch chi’n cael gwybod yn ysgrifenedig beth yw eich sgôr hylendid bwyd newydd. Bydd hyn naill ai ar adeg yr arolygiad neu cyn pen 14 diwrnod ar ei ôl (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus). Gallai eich sgôr aros yr un fath ag o’r blaen, gallai fynd i fyny, neu gallai ostwng.
Yn yr un modd â’r sgôr hylendid wreiddiol, gallwch chi apelio yn ei herbyn os byddwch chi’n meddwl ei bod yn anghywir neu’n annheg, neu gallwch chi gyflwyno datganiad ‘hawl i ymateb’ i’w gyhoeddi ar-lein yn food.gov.uk/sgoriau.