Ein pobl
Mae mwy na 1,500 o bobl yn gweithio i ni i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Mae mwy na 1,500 o bobl yn gweithio i ni i sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Gyda’n gilydd, rydym hefyd yn chwarae ein rhan i helpu i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy i bawb.
Mae ein staff yn cynnwys ystadegwyr, dadansoddwyr, ymchwilwyr, arolygwyr, arbenigwyr gorfodi, gweithwyr polisi proffesiynol, economegwyr, milfeddygon ac arolygwyr rheng flaen, sy’n gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid cyflenwi gweithredol i arolygu lladd-dai a safleoedd cynhyrchu cynradd eraill.
Fel adran anweinidogol y llywodraeth, rydym yn cael ein llywodraethu gan Fwrdd yn hytrach na gweinidogion. Ein hadran noddi yw’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ein Bwrdd sy’n pennu cyfeiriad strategol cyffredinol ein sefydliad.
Ein Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod gweithgareddau’r ASB yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac effeithiol. Mae’r Prif Weithredwr yn atebol i’r Bwrdd am arfer pwerau. Mae’r Prif Weithredwr yn brif swyddog cyfrifyddu, ac felly’n uniongyrchol atebol i’r Senedd a San Steffan am werth am arian ar gyfer gweithgareddau’r ASB.
Mae Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd Cymru a Gogledd Iwerddon yn darparu cyngor a mewnwelediad i’r Bwrdd ynghylch diogelwch a safonau bwyd yn eu gwledydd nhw.
Mae’r Bwrdd hefyd yn cael ei arwain gan Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol, sy’n dibynnu ar safbwyntiau mwy na 100 o arbenigwyr, gan sicrhau bod ein canllawiau bob amser yn seiliedig ar y wyddoniaeth a’r dystiolaeth orau a mwyaf diweddar.
Hanes diwygio
Published: 20 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Gorffennaf 2024