Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB

Rydym yn adran anweinidigol o’r llywodraeth sy’n cael ei llywodraethu gan Fwrdd, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Weinidogion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 May 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 May 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r Athro Susan Jebb yn cadeirio ein Bwrdd ac mae ganddo hyd at 12 aelod. Maen nhw’n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol ein sefydliad.

Gan fod tryloywder yn egwyddor sy’n llywio’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac sy’n allweddol i gynnal hyder y cyhoedd, gallwch chi wylio cyfarfodydd ein bwrdd.

Pwysig
Oherwydd cyfyngiadau cyn-etholiadol ar gyfathrebu, ni fydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, ac ni fydd ar gael i’w wylio’n fyw. Bydd recordiad o’r cyfarfod, ynghyd â’r papurau, ar gael ar y wefan hon o 5 Gorffennaf.

Bydd cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 19 Mehefin 2024. 

Fideo o Gyfarfodydd diweddaraf Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes

Cofrestru i wylio Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB

Oherwydd cyfyngiadau cyn-etholiadol ar gyfathrebu, ni fydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin ar gael i’w wylio’n fyw. Bydd recordiad o’r cyfarfod, ynghyd â’r papurau, ar gael ar y wefan hon o 5 Gorffennaf.

Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB

Oherwydd cyfyngiadau cyn-etholiadol ar gyfathrebu, ni fydd y papurau ar gyfer cyfarfod mis Mehefin y Bwrdd yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon tan 5 Gorffennaf. O’r herwydd, ni fyddwn yn gallu derbyn cwestiynau cyn y cyfarfod. Bydd cyfle i gyflwyno cwestiynau i’r Bwrdd pan gyhoeddir y papurau. Bydd ymateb ysgrifenedig yn cyrraedd o fewn 20 diwrnod gwaith.

Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB sydd ar y gweill

Mae Bwrdd yr ASB yn cyfarfod bob chwarter.

Dyma ddyddiadau’r cyfarfodydd nesaf sydd wedi’u trefnu:

  • 19 Mehefin 2024 – Llandudno
  • 18 Medi 2024 – Peterborough
  • 11 Rhagfyr 2024 – Llundain
  • 26 Mawrth 2025 –  Lleoliad i’w gadarnhau
  • 19 Mehefin 2025 – Lleoliad i’w gadarnhau
  • 17 Medi 2025 – Lleoliad i’w gadarnhau
  • 10 Rhagfyr 2025 –  Lleoliad i’w gadarnhau

Cyfarfodydd Blaenorol Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes

Gallwch chi wylio recordiadau o gyfarfodydd blaenorol Bwrdd yr ASB ar YouTube a dod o hyd i gofnodion, papurau bwrdd ac agendâu’r cyfarfodydd canlynol ar ein gwefan: 

Cyfarfodydd yn 2024:

Cyfarfodydd yn 2023:

Cyfarfodydd yn 2022:

Cyfarfodydd yn 2021:

Mae’r Archifau Cenedlaethol yn cadw gwybodaeth am gyfarfodydd cynharach.

Pwyllgorau Bwrdd yr ASB

Penododd Bwrdd yr ASB Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phwyllgor Busnes i ymgymryd â rhai o’i gyfrifoldebau ac i’w gynghori ar gyfrifoldebau eraill.

Sut mae Bwrdd yr ASB yn cael ei lywodraethu