Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Llyfryn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Pwy ydym, ein gwaith, a sut rydym yn cyflawni ein gwaith yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 May 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 May 2024
Pwy ydyn ni, ein rôl, a sut rydym yn cyflawni ein gwaith yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol annibynnol, a sefydlwyd yn 2000 yn dilyn nifer o achosion proffil uchel o salwch a gludir gan fwyd, fel BSE (clefyd gwartheg gwallgof).

Mae ein hamcanion, ein pwerau a’n dyletswyddau wedi’u nodi’n bennaf yn Neddf Safonau Bwyd 1999. Rydym yn gweithio ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ein prif amcanion yn ôl y gyfraith yw diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau sy’n deillio o fwyta bwyd, ac i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor i’r cyhoedd ar ddiogelwch bwyd, comisiynu neu gydlynu ymchwil ym maes gwyddoniaeth ar faterion o’r fath, a goruchwylio diogelwch bwyd anifeiliaid a buddiannau eraill y rheiny sy’n defnyddio bwyd anifeiliaid.

Mae ein pwerau statudol yn cynnwys y pŵer i gynnal arsylwadau o’r gweithgarwch hwn, monitro perfformiad yr awdurdod gorfodi perthnasol o ran gorfodi’r ddeddfwriaeth berthnasol, cyhoeddi canllawiau ar reoli clefydau a gludir gan fwyd acunrhyw beth sy’n ein helpu i arfer ein swyddogaeth statudol. Ceir mwy o wybodaeth am bwy sy’n gorfodi rheolaethau bwyd ar y dudalen we ar y system rheoleiddio bwyd.

Cawn ein llywodraethu gan Fwrdd, a chaiff y Cadeirydd ac aelodau’r Bwrdd eu penodi
gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
a Llywodraeth Gogledd Iwerddon.

Cytunir ar ein gwaith yng nghyfarfodydd agored y Bwrdd, ac mae’r gwaith hwn bob amser wedi’i ategu gan y wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Mae tryloywder yn allweddol i gynnal hyder y cyhoedd, a’r egwyddor hon sy’n llywio gwaith yr ASB. 

Cyfanswm ein cyllideb ar gyfer 2022/23 oedd £143.3 miliwn.

 

Bwyd y gallwch ymddiried ynddo
Ein cenhadaeth yw ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’, a’n gweledigaeth ar gyfer y system fwyd
yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel, yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Mae bwyd yn ddiogel

Mae bwyd yn hanfodol i bawb, bob dydd. Mae gan bob un ohonom yr hawl i ddisgwyl na fydd y bwyd rydym yn ei fwyta yn ein gwneud yn sâl. Dyna pam y byddwn yn blaenoriaethu cadw lefel clefydau a gludir gan fwyd yn isel. Rydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd.

Maent yn cynnwys gosod y rheoliadau diogelwch bwyd, monitro’r system arolygu diogelwch bwyd, ein gwaith arolygu uniongyrchol yn y diwydiannau cig, llaeth a gwin, a’n rhaglenni gwyliadwriaeth a’n rhaglenni ataliol. 

Rydym hefyd yn ymateb i ddigwyddiadau bwyd, gan weithredu i ddiogelu defnyddwyr pan fydd pryder am ddiogelwch neu ansawdd bwyd a bwyd anifeiliaid. Er mwyn cyflawni’r rhan hon o’n gweledigaeth, bydd angen i ni barhau i arloesi, esblygu ac ymateb i newidiadau ar draws y system fwyd.

Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label

Dylai defnyddwyr fod yn hyderus bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dyna pam y byddwn yn sicrhau bod bwyd yn ddilys ac wedi’i ddisgrifio’n gywir. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod y cyhoedd, a’n partneriaid masnachu rhyngwladol, yn hyderus am fwyd y DU. Mae cysylltiad agos hefyd rhwng dilysrwydd bwyd a diogelwch bwyd.

Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Os ydym am ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, rhaid i ni hefyd gyfrannu at ymdrechion i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy. Ni yw’r unig adran sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fwyd, ac felly byddwn yn defnyddio ein sgiliau a’n harbenigedd i annog a chyfrannu at newid cadarnhaol. 

Mae angen i ni chwarae ein rhan wrth gefnogi partneriaid y llywodraeth ac eraill yn y system fwyd ehangach i’w gwneud yn haws i ddefnyddwyr gael mynediad at ddeiet iachach a mwy cynaliadwy.

Ein strategaeth

Mae’r sector bwyd yn datblygu’n gyflym, a hynny oherwydd technolegau newydd a modelau busnes newidiol, fel pobl yn prynu bwyd trwy lwyfannau ar-lein, sef maes sy’n tyfu’n gyflym iawn. Mae’r sector bellach yn delio ag effaith prisiau bwyd ac ynni uwch, prinder llafur, ac effeithiau costau byw wrth i ddefnyddwyr a busnesau geisio torri costau a’u defnydd o ynni.

I adlewyrchu’r amgylchedd newydd hwn sy’n newid yn gyflym, mae ein strategaeth yn nodi egwyddorion ar gyfer sut y byddwn yn gweithredu. Mae hyn yn cynnwys cefnogi arloesedd, sicrhau ein bod yn seiliedig ar risg ac yn gymesur, a’i gwneud yn haws i fusnesau wneud y peth iawn i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Rydym yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio data a thechnoleg newydd i wneud rheoleiddio yn fwy cymesur, a gweithio gyda busnesau dylanwadol i ysgogi newid.

Darllenwch ein strategaeth.

 

O lunio polisïau, i gynhyrchu tystiolaeth a rheoleiddio, dyma beth rydym yn ei wneud i gadw bwyd yn ddiogel.

Rydym yn gynhyrchydd tystiolaeth

Mae gennym enw da yn fyd-eang am wyddoniaeth ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau cyflym o risgiau i ddiogelwch defnyddwyr, datblygu technegau gwyliadwriaeth newydd i nodi risgiau’n gyflymach, a deall gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad defnyddwyr.

Rydym yn cyhoeddi ein tystiolaeth yn unol â’n hymrwymiad i fod yn dryloyw. Mae hyn yn golygu ei bod ar gael am ddim i eraill sy’n gwneud polisïau a phenderfyniadau, i lywio canllawiau i fusnesau, ac fel y gall y cyhoedd ymddiried yn ein penderfyniadau. Rydym hefyd yn gyfrifol am ddynodi’r labordai swyddogol sy’n cynnal dadansoddiadau cemegol a chyfansoddol pwysig ar samplau bwyd a bwyd anifeiliaid a gymerir gan awdurdodau lleol neu awdurdodau iechyd porthladdoedd.

Rydym yn wneuthurwr polisi

Rydym yn cynghori gweinidogion ar ddiogelwch bwyd, dilysrwydd bwyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Mae’r meysydd polisi rydym yn cynghori arnynt yn wahanol ym mhob gwlad. Gweler ein tudalen we ar y system rheoleiddio bwyd am fwy o wybodaeth. Ategir hyn gan asesiadau risg o ddatblygiadau newydd a’r defnydd o wyddoniaeth a thystiolaeth.

Gan fod y DU wedi ymadael â’r UE, rydym bellach yn gwneud argymhellion i weinidogion ynghylch pa gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid y dylid eu hawdurdodi i’w gwerthu ar y farchnad ym Mhrydain Fawr ac yn cynghori ar oblygiadau newidiadau rheoleiddiol yng Ngogledd Iwerddon.
 
Rydym ni, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cynnal dadansoddiadau risg ar y cynhyrchion rheoleiddiedig hyn ac yn darparu cyngor i weinidogion, a fydd yn penderfynu a ellir rhoi’r cynnyrch ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Rydym hefyd yn cefnogi gwaith y llywodraeth ar gyfleoedd masnach i’r DU, gan ddarparu asesiadau risg o wledydd sydd am ddechrau mewnforio i’r DU a dangos ein trefniadau diogelwch bwyd ein hunain i wledydd rydym yn allforio iddynt. Rydym yn darparu cyngor polisi i gefnogi’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol effeithiol sy’n seiliedig ar risg – fel arolygiadau, archwiliadau, gwyliadwriaeth a gwaith samplu mewn busnesau bwyd.

Yn dilyn Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, rydym yn adolygu darnau o Gyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) sy’n dod o dan ein cylch gwaith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda’r bwriad o ddiwygio rheoliadau. Bydd hyn yn creu dull rheoleiddio cymesur, effeithiol, effeithlon sy’n canolbwyntio ar y dyfodol drwy’r broses dadansoddi risg a’r gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig, sy’n diogelu defnyddwyr ac yn dileu rhwystrau i arloesi. Rydym yn datblygu trefn reoleiddio newydd ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u bridio’n fanwl.

 

Ein gwaith - Llyfryn yr ASB

Rydym yn rheoleiddiwr

Rydym yn rheoleiddio’r system fwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Rydym yn cynnal rheolaethau’n uniongyrchol yn y meysydd cynhyrchu cig, cynnyrch llaeth cynradd a gwin.

Mae staff yr ASB a chontractwyr milfeddygol yn arolygu, archwilio a rhoi sicrwydd i fusnesau, gan gynnwys llofnodi tystysgrifau iechyd allforio. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol sy’n arolygu busnesau bwyd lleol – gan osod y fframwaith arolygu, a darparu cyngor a chanllawiau. Rydym yn gwneud yr un peth ar gyfer awdurdodau iechyd porthladdoedd, sy’n arolygu mewnforion bwyd. Rydym yn diwygio’r fframwaith rheoleiddio diogelwch bwyd i roi sicrwydd mwy cymesur sy’n seiliedig ar risg.

Rydym yn darparu canllawiau i fusnesau bwyd. Rydym yn defnyddio gwyliadwriaeth i nodi risgiau i ddefnyddwyr a sylwi ar ddigwyddiadau diogelwch bwyd posib, ac rydym yn ymateb i’r rhain pan fyddant yn codi. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr ac awdurdodau lleol i olrhain ffynonellau brigiadau o achosion o glefydau a gludir gan fwyd a chydgysylltu camau gweithredu, fel galw cynnyrch yn ôl i ddiogelu defnyddwyr a busnesau.

Mae ein Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn gweithio i fynd i’r afael â thwyll difrifol a throseddoldeb cysylltiedig mewn cadwyni cyflenwi bwyd – ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn sicrhau pwerau uwch iddi er mwyn cefnogi ymchwiliadau.

Rydym yn gorff gwarchod

Rydym yn adolygu ac yn adrodd ar safonau bwyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, gan ddefnyddio gwyliadwriaeth, sganio’r gorwel a chudd-wybodaeth. Rydym ni, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cyhoeddi adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU.

Rydym yn siarad yn gyhoeddus am feysydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr, pan fydd gennym dystiolaeth neu arbenigedd a allai wneud gwahaniaeth. Mae hyn yn cynnwys cynghori gweinidogion er mwyn sicrhau bod Cytundebau Masnach Rydd yn cynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer iechyd pobl, a hynny gan gefnogi adroddiadau a gaiff eu llunio ar gyfer Senedd y DU o dan Adran 42 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020. Rydym hefyd yn rhoi cyngor i weinidogion ar  geisiadau i gael mynediad i’n marchnadoedd ar gyfer nwyddau penodol.

Rydym yn gynullydd ac yn gydweithredwr

Mae bwyd yn fater datganoledig. Rydym yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Safonau Bwyd yr Alban i gyflawni blaenoriaethau a rennir a sicrhau bod buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn cael eu cynrychioli. Mae hyn yn cynnwys ein gwaith ar Fodel Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau’r Llywodraeth ar gyfer rheolaethau mewnforio, a Fframwaith Windsor ar gyfer masnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Rydym wedi ymrwymo i weithio ar draws y llywodraeth i geisio consensws o ran y cyngor y byddwn yn ei roi i weinidogion ym mhob gwlad. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn Fframweithiau Cyffredin, sef prosesau trawslywodraethol sy’n sicrhau bod dull cyffredin yn cael ei fabwysiadu mewn meysydd polisi datganoledig

Rydym hefyd yn dod â phartïon eraill ynghyd i fynd i’r afael â phroblemau yn y system fwyd, gan weithio gyda’r byd academaidd, y gymdeithas sifil a busnesau i gefnogi nodau ac amcanion a rennir. Rydym yn rhannu mewnwelediadau a thystiolaeth ar fuddiannau dinasyddion i helpu i lywio ffyrdd o feddwl ar draws y llywodraeth.

Gweler Ein Partneriaethau am fwy o wybodaeth am sut rydym yn gweithio gydag eraill, gan gynnwys ynghylch Safonau Bwyd mewn Ysgolion.

Mae mwy na 1,500 o bobl yn gweithio i ni i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Gyda’n gilydd, rydym hefyd yn chwarae ein rhan i helpu i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy i bawb.

Mae ein staff yn cynnwys ystadegwyr, dadansoddwyr, ymchwilwyr, arolygwyr, arbenigwyr gorfodi, gweithwyr polisi proffesiynol, economegwyr, milfeddygon a mwy na 500 o staff rheng flaen, sy’n gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid cyflenwi gweithredol i arolygu lladd-dai a safleoedd cynhyrchu cynradd eraill.

Fel adran anweinidogol y llywodraeth, rydym yn cael ein llywodraethu gan Fwrdd yn hytrach na gweinidogion. Ein Bwrdd sy’n pennu cyfeiriad strategol cyffredinol ein sefydliad. 

Mae ein Prif Weithredwr yn gyfrifol am sicrhau bod gweithgareddau’r ASB yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac effeithiol, ac mae’n atebol i’r Bwrdd am arfer ei bwerau.

Mae Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd Cymru a Gogledd Iwerddon yn darparu cyngor a mewnwelediad i’r Bwrdd ynghylch diogelwch a safonau bwyd yn eu gwledydd nhw.

Mae’r Bwrdd hefyd yn cael ei arwain gan Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol, sy’n dibynnu ar safbwyntiau mwy na 100 o arbenigwyr, gan sicrhau bod ein canllawiau bob amser yn seiliedig ar y wyddoniaeth a’r dystiolaeth orau a mwyaf diweddar.

Gweithio yn yr ASB

Rydym yn cynnig trefniadau gweithio cwbl hyblyg, gan gynnwys o ran lleoliad, ar gyfer staff nad ydynt ar y rheng flaen. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan ein bod yn credu bod hyn yn galluogi ein pobl i weithio yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae ffyrdd hyblyg o weithio (gan gynnwys y dewis i weithio’n gyfan gwbl o gartref) ac offer digidol sy’n hwyluso gweithio o bell yn sicrhau lefelau uchel o ymgysylltiad staff ac yn ein helpu i ddenu a chadw’r dalent orau o bob rhan o’r DU.

Dechreuodd ein rhaglen gweithio hyblyg yn 2017. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gwnaethom ennill Gwobr ‘Arloesi mewn Gweithio Hyblyg’ yng Ngwobrau Cyflogwyr Gorau workingmums.co.uk. Dyma gydnabyddiaeth bod ein polisïau a’n harferion hyblyg yn wirioneddol arloesol ac yn torri tir newydd.

Yn 2022, cawsom ein hachredu fel adran Gweithio’n Gallach ‘aeddfed’ gan Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth. Mae hyn yn golygu ein bod wedi darparu tystiolaeth amlwg o sut mae ein pobl a’n diwylliant, ein harweinyddiaeth, ein technoleg a’n mannau gwaith yn cefnogi, yn hyrwyddo ac yn modelu ffyrdd callach o weithio.

Mae polisi Ein Ffyrdd o Weithio wedi bod ar waith ers cyn y pandemig ac mae’n arbed bron i £2 miliwn i’r trethdalwr ar gostau swyddfa bob blwyddyn.

Gweler ein tudalen 'Gweithio i ni' am y swyddi gwag presennol yn yr ASB.

Rydym yn defnyddio dull gwyddonol, seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Ein dull o weithio

Rydym wedi datblygu saith prif egwyddor sy’n nodi sut y byddwn yn cyflawni ein strategaeth.

Ein prif egwyddorion:

  1. Ni yw’r llais dibynadwy ar safonau bwyd, gan ddiogelu buddiannau defnyddwyr
  2. Rydym yn cael ein harwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth
  3. Rydym yn agored ac yn dryloyw
  4. Rydym yn gweithio gydag eraill, a thrwy eraill
  5. Rydym yn ei gwneud yn haws i fusnesau gyflawni eu rhwymedigaethau a gwneud
  6. y peth iawn i ddefnyddwyr
  7. Rydym yn seiliedig ar risg ac yn gymesur
  8. Rydym yn arloesol

Mwy o wybodaeth am ein prif egwyddorion.

Oeddech chi'n gwybod bod 90% o bobl wedi clywed am yr ASB. Ac o’r bobl
hynny, mae 82% yn ymddiried ynom i wneud ein gwaith

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2 (cyhoeddwyd Gorffennaf 2023)

Y cyd-destun rydym yn gweithio ynddo

Yn y sector bwyd yn y DU:

  • £128.3 biliwn = Cyfraniad y sector bwyd-amaeth i’r Gwerth Ychwanegol Gros cenedlaethol yn 2021 (DU)
  • 4.2 miliwn o bobl = Wedi’u cyflogi yn y sector bwyd-amaeth yn 2022 (Prydain Fawr)
  • £254 biliwn = Gwariant defnyddwyr ar fwyd, diod ac arlwyo yn 2022 (DU)
  • £20.2 biliwn = Allforion bwyd, bwyd anifeiliaid a diodydd yn 2021 (DU)

Ffynhonnell: “Food Statistics National Statistics in your pocket

O'r 600,000+ o fusnesau bwyd cofrestredig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon:

  • 4,000+ o gynhyrchwyr cynradd
  • 17,000 o weithgynhyrchwyr a phacwyr
  • 1,000+ o fewnforwyr/allforwyr
  • 9,000+ o ddosbarthwyr a chludwyr
  • 121,000+ o fanwerthwyr
  • 407,000+ o fwytai ac arlwywyr

Ffynhonnell: Ffigurau blynyddol ar gyfer gwaith gorfodi cyfraith bwyd mewn awdurdodau lleol (2021/22 a 2019/20)

Mae’r system fwyd yn gymhleth ac mae’r broses o’i rheoleiddio yn cynnwys sawl corff.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithredu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac mae ganddi wahanol gyfrifoldebau polisi o fewn y gwledydd hyn.

Safonau Bwyd yr Alban yw adran anweinidogol Llywodraeth yr Alban sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd, safonau bwyd, maeth, labelu bwyd, rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid ac arolygu cig yn yr Alban.

Ein meysydd cyfrifoldeb polisi

Ein meysydd cyfrifoldeb polisi

Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon:

  • Diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid
  • Labelu diogelwch bwyd gan gynnwys labelu alergenau

Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon:

  • Safonau cyfansoddiad a labelu bwyd

Yng Ngogledd Iwerddon yn unig:

  • Safonau maeth a labelu
  • Iechyd a gwyliadwriath deietegol

Meysydd cyfrifoldeb polisi eraill

Llywodraeth Cymru: Safonau maeth, labelu bwyd maeth yng Nghymru

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Labelu bwyd arall (yn cynnwys safonau cyfansoddiad, gwlad tarddiad) yn Lloegr

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Safonau maeth, labelu bwyd maeth yn Lloegr

Pwy sy’n gorfodi rheolaethau bwyd?

Ar ran yr ASB

Mae Arolygwyr Hylendid Cig a Milfeddygon Swyddogol yn cynnal gwiriadau hylendid, gwiriadau dogfennol, a gwiriadau ffisegol ac yn cymryd samplau o gynhyrchwyr cig cymeradwy (gan gynnwys lladd-dai a ffatrïoedd torri).

Mae Milfeddygon Cymwys yn cynnal gwiriadau ar gynhyrchion anifeiliaid ac yn cynnal gwiriadau lles anifeiliaid. Yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
(DAERA) sy’n gyfrifol am gyflawni gweithrediadau cig ar ran yr
ASB yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Arolygwyr Safonau Gwin yn cynnal gwiriadau ar ddilysrwydd, ansawdd, dulliau labelu ac olrheiniadwyedd gwinoedd, ac yn rhoi arweiniad a chymorth i’r rheiny sy’n tyfu, cynhyrchu ac yn masnachu gwin.

Mae Arolygwyr Hylendid Llaeth yn arolygu safleoedd cynhyrchu cynradd, yn gwirio dulliau cynhyrchu llaeth amrwd hylifol, llaeth buwch i’w yfed yn amrwd a llaeth yfed amrwd, ac yn hyrwyddo’r arferion hylendid gorau ar yr un pryd.

Cynnal rheolaethau ar fwyd a fewnforir

O ran cynnal rheolaethau ar fwyd a fewnforir, awdurdodau lleol a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy’n gyfrifol yng Nghymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd phorthladdoedd sy’n gyfrifol yn Lloegr, ac awdurdodau lleol a DAERA sy’n gyfrifol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Swyddogion Iechyd Porthladdoedd yn cynnal gwiriadau dogfennol ar sail risg, gwiriadau adnabod, gwiriadau corfforol, ac yn cymryd samplau o fewnforion bwyd.

Mae Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Pysgod Swyddogol yn cynnal gwiriadau ar gynhyrchion anifeiliaid.

Gwaith gweithredu awdurdodau lleol

Mae Swyddogion Diogelwch Bwyd yn cynnal rheolaethau swyddogol ar ddiogelwch a hylendid bwyd. Maent yn arolygu safleoedd i sicrhau bod bwyd yn cael ei storio a’i baratoi’n ddiogel.

Mae Swyddogion Safonau Bwyd yn sicrhau bod bwyd yn bodloni safonau diogelwch, safonau cyfansoddiad a safonau labelu maeth (er enghraifft, labelu alergenau, dyddiadau defnyddio erbyn, gwybodaeth am faeth a chyfansoddiad).

Ymhlith y busnesau bwyd y mae awdurdodau lleol yn ymwneud â nhw mae cynhyrchwyr bwyd, proseswyr bwyd, sefydliadau arlwyo, busnesau tecawê a dosbarthu bwyd, manwerthwyr a sefydliadau llaeth, cig a physgod cymeradwy.

Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw cynnal rheolaethau ar fwyd anifeiliaid yng Nghymru ac yn Lloegr, a DAERA sy’n gyfrifol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r ASB ac awdurdodau lleol yn gweithio ar y cyd i gynnal rheolaethau swyddogol ar bysgod cregyn.

Cyfrifoldeb busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid

O dan reoliadau bwyd a bwyd anifeiliaid y DU, cyfrifoldeb busnesau bwyd yw sicrhau bod yr holl fwyd a bwyd anifeiliaid sy’n cael eu rhoi ar y farchnad yn ddiogel, eu bod o’r ansawdd y byddai defnyddwyr yn ei ddisgwyl ac nad ydynt yn cael eu labelu mewn ffordd ffug neu gamarweiniol.

Rydym yn ymdrechu i feithrin partneriaethau strategol a chydweithredol yn y DU a thramor.

Caiff ein Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ei gynnal mewn partneriaeth â thua 320 o awdurdodau lleol ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Maent yn cynnal arolygiadau hylendid mewn tua 610,000 o safleoedd – gan hybu dewis defnyddwyr a gwella safonau hylendid mewn perthynas â bwyd.

Mae partneriaethau gwyddonol ar draws y llywodraeth a chyda’r byd academaidd yn hanfodol er mwyn bodloni ein hanghenion gwyddoniaeth a thystiolaeth. Rydym yn arwain ar PATH-SAFE, sef rhaglen drawslywodraethol gwerth £19.2 miliwn, a ariennir gan Drysorlys EF. Ei nod yw archwilio dulliau newydd o ganfod ac olrhain pathogenau a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd yn well drwy’r system bwyd-amaeth gyfan.

Mae partneriaethau gweithio cryf hefyd yn ein helpu i ddeall a chyrraedd y defnyddwyr yr ydym yn ceisio eu diogelu. Er enghraifft, mae ein partneriaeth â Just Eat wedi ein helpu i wella tryloywder gwybodaeth am hylendid mewn busnesau bwyd, gan alluogi defnyddwyr i ystyried diogelwch bwyd wrth archebu bwyd ar-lein.

Mae cydweithio gydag elusennau fel Allergy UK ac Anaffylacsis UK yn ein helpu i ddeall a chefnogi pobl sy’n byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd yn well.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adran dros Addysg, Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau, ac awdurdodau lleol i asesu a gwella lefelau cydymffurfio â Safonau Bwyd mewn Ysgolion i sicrhau bwyd iachach.

Rydym yn rhan o fforymau rhyngwladol i ddiogelu bwyd sy’n dod i mewn i’r DU ac i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau rhyngwladol ym maesdiogelwch bwyd. Darllenwch am ein gwaith gyda phartneriaid i ddylanwadu ar safonau diogelwch bwyd rhyngwladol.
 

Dyma dim ond ambell uchafbwynt o 25 mlynedd gyntaf yr Asiantaeth Safonau Bwyd

2000: Sefydlu’r ASB ac ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw

Sefydlwyd yr ASB fel adran annibynnol o’r llywodraeth a oedd yn gweithio ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Fe’i sefydlwyd ar ôl sawl brigiad o achosion proffil uchel a marwolaethau yn sgil salwch a gludir gan fwyd.

Wrth ei sefydlu, ymrwymodd yr ASB i weithredu’n agored ac yn dryloyw. Pennwyd bod cyfarfodydd y Bwrdd yn cael eu cynnal yn gyhoeddus a chyhoeddwyd Cod Ymarfer ar Fod yn Agored, sy’n dal i fodoli heddiw. Roedd y Cod Ymarfer hefyd yn ymrwymo i gyhoeddi’r holl gyngor y mae’r ASB yn ei roi i rannau eraill o’r llywodraeth – gan dorri tir newydd ar y pryd, a hyd at heddiw.

2005: Lansio ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’ i hwyluso hylendid bwyd i fusnesau bach

Yn 2005 lansiwyd ‘Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell’ i helpu busnesau bach a meicro i fabwysiadu gweithdrefnau diogelwch bwyd da. 

Cafodd y pecynnau eu datblygu i ddiwallu anghenion gwahanol fathau o fusnesau – gan gynnwys cwmnïau arlwyo bach, cwmnïau manwerthu bach, bwytai a siopau tecawê – ac maent yn parhau i fod yn rhan greiddiol o’r hyn rydym yn ei gynnig, ac mae copi yng nghegin y rhan fwyaf o fwytai erbyn hyn. Yn 2023, roedd mwy na 600,000 o bobl wedi clicio ar dudalennau ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’ ar wefan yr ASB a bron i 550,000 wedi lawrlwytho’r canllawiau.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae busnesau arlwyo yn defnyddio’r canllawiau Safe Catering i’w helpu i gydymffurfio â deddfwriaeth bwyd. Mae’r adnodd rheoli diogelwch bwyd hwn yn cynnig cyngor ymarferol a chynhwysfawr i arlwywyr i’w helpu i greu cynllun rheoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion HACCP.

2007: Cyflwyno labelu maeth ar flaen y pecyn

Arweiniodd yr ASB ar y gwaith cynnar i ddatblygu labeli maeth ar flaen pecynnau bwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw. Mae’r label yn dangos, ar gip, a yw bwyd yn cynnwys lefelau uchel (coch), canolig (oren) neu isel (gwyrdd) o fraster, braster dirlawn, siwgrau a halen, yn ogystal â chyfanswm yr egni (calorïau a kilojoules).

 

Dyluniwyd y system labelu, sydd bellach yn cael ei defnyddio’n helaeth, i annog defnyddwyr i chwilio am fwyd iachach ac i gymell busnesau i gynhyrchu bwyd o’r fath.

Rydym yn parhau i ddylanwadu ar y cynllun ac roedd ymgyrch ddiweddar i ddefnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon o’r enw ‘Check the Label’ yn annog defnyddwyr i ddefnyddio labeli ar flaen y pecyn trwy dynnu sylw at werth maeth bwydydd a brynir yn aml.

2010: Gwella safonau hylendid bwyd mewn busnesau bwyd 

Yn 2010, gwnaethom lansio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd gwirfoddol i roi gwybodaeth i’r cyhoedd am y safonau hylendid mewn busnesau bwyd.

Rydym yn gweithredu’r cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Maent yn rhoi sgôr hylendid i fusnesau, o 0 ar y gwaelod i 5 ar y brig. Daeth y cynllun yn statudol
yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013 ac ym mis Hydref 2016 yng Ngogledd Iwerddon gan ei gwneud yn orfodol i fusnesau arddangos eu sgôr.

Mae safonau hylendid wedi gwella – cododd nifer y busnesau a gafodd y sgôr uchaf o 5 o 54% yn 2013 i 79% yn 2022. Mae ymchwil yn dangos bod busnesau sydd â sgôr uwch yn llai tebygol o fod yn gyfrifol am achosion o salwch a gludir gan fwyd.

2014: Lleihau gwenwyn campylobacter

Yn 2014, campylobacter oedd achos mwyaf cyffredin gwenwyn bwyd bacteriol yn y DU, gan effeithio ar fwy na chwarter miliwn o bobl bob blwyddyn.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, lansiodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ymgyrch ‘Awn
i’r Afael â Campylobacter trwy gydweithio’ (ACT). Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr, lladd-dai a manwerthwyr i leihau presenoldeb campylobacter a’r posibilrwydd o groeshalogi, ac addysgu defnyddwyr ac arlwywyr ar arferion hylendid da.

2018: Treialu’r defnydd o dechnoleg blockchain fel adnodd rheoleiddiol i sicrhau a gwirio cydymffurfiaeth yn y gadwyn fwyd

Yn 2018, llwyddon ni i gwblhau cynllun peilot gan ddefnyddio technoleg blockchain mewn lladd-dy gwartheg. Hwn oedd y tro cyntaf erioed i blockchain gael ei ddefnyddio fel adnodd rheoleiddiol i sicrhau a dilysu cydymffurfiaeth yn y gadwyn fwyd. 

Mae blockchain yn cymryd cofnodion o bob cam ar hyd y gadwyn gyflenwi – o’r anifail yn cyrraedd y lladd-dy, i’r cig wedi’i becynnu – ac yn eu rhoi mewn bloc. Bydd pob bloc yn ‘gadwyn’ i’r bloc nesaf, gan ddefnyddio llofnod wedi’i amgryptio. Mae hyn yn caniatáu i’r cofnod gael ei rannu a’i wirio gan unrhyw un sydd â chaniatâd (o ffermwyr i ladd-dai), yn hytrach na chael un system ganolog wedi’i rheoli gan un sefydliad.

Gallai blockchain gynyddu tryloywder y gadwyn gyflenwi, gan fod modd rhannu gwybodaeth am anifail penodol yn hawdd ar draws y gadwyn. Nid oes modd amharu ar y system, gan ei bod yn cynnwys sawl copi o ddata. Mae’n gwella’r gallu i olrhain, gan fod nodi taith cynnyrch yn helpu i sicrhau ansawdd. Mae’n arbed amser, gan fod blockchain yn gwella gweithrediadau trwy leihau unrhyw weithgareddau diangen, fel dyblygu data.

2019: Gwella ansawdd bywyd y rheiny sy'n byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd

Yn 2019, cynhaliodd y llywodraeth Adolygiad o Labelu Alergenau yn dilyn marwolaeth Natasha Ednan-Laperouse. Bu farw Natasha o adwaith alergaidd i sesame mewn baguette, nad oedd wedi’i labelu â gwybodaeth am alergenau.

Argymhellodd Bwrdd yr ASB y dylid labelu cynhwysion ac alergenau yn llawn ar fwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) – sef bwyd wedi’i becynnu ar y safle cyn i gwsmer ei archebu, fel rhai mathau o salad neu frechdanau. Cytunodd y llywodraeth â’r argymhelliad hwn. 

Cyflwynwyd gofyniad cyfreithiol newydd a ddaeth i rym o fis Hydref 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ddarparu rhestr gynhwysion lawn ar fwyd PPDS gan bwysleisio’r alergenau, a rhoi’r gallu i bobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd wneud dewisiadau diogel wrth brynu bwyd.

2020/2021: Effeithiau ar y system fwyd: Sicrhau bod bwyd yn parhau i fod yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label

Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd: Cyn i’r DU ymadael â’r UE, gwnaethom gyflawni ein hamcanion yn y maes hwn. Gwnaethom roi trefn reoleiddio gadarn ac effeithiol ar waith i ymgymryd â’r swyddogaethau a gyflawnwyd gan yr UE yn y gorffennol. Gwnaethom fabwysiadu cyfrifoldebau newydd a ffyrdd newydd o weithio. Rydym yn cymeradwyo mathau newydd o fwyd sy’n cael eu gwerthu yn y DU, yn gosod rheolau ar gyfer gwirio bwyd wedi’i fewnforio, a mwy. Rydym yn defnyddio systemau modelu rhagfynegol newydd, gan ddefnyddio ffynonellau data agored byd-eang i bennu’r risgiau i’r DU.

Pandemig COVID-19: Roedd ein hasesiadau risg ar COVID-19 mewn bwyd yn allweddol wrth lywio canllawiau ar gyfer busnesau bwyd a defnyddwyr. Gwnaethom gefnogi gweithredwyr busnesau bwyd wrth adfer ar ôl y cyfnod clo a helpu i’w gwneud yn syml iddynt weithredu’n ddiogel (parhad drosodd).

Yn 2021, rhoddwyd ein cynllun adfer ar waith i helpu i roi awdurdodau lleol yn ôl ar y trywydd iawn a chlirio’r ôl-groniad o arolygiadau bwyd a gododd wrth i dimau lleol dargedu eu hadnoddau’n llwyddiannus at y busnesau hynny a oedd yn peri’r risg uchaf wrth frwydro yn erbyn COVID-19.

Yn ôl ein gwasanaeth cofrestru digidol, mae 37% o fentrau newydd a gofrestrwyd ers dechrau’r pandemig (Mawrth 2020) yn cael eu cynnal o geginau domestig mewn cyfeiriadau preifat. Roedd ein hymgyrch yn 2022 yn annog cymaint o’r busnesau newydd hyn â phosib i gofrestru gyda’u hawdurdod lleol.

2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd y DU

Gwnaethom ni, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, gyhoeddi Ein Bwyd: Adolygiad
blynyddol o safonau bwyd ledled y DU
, sef adroddiad cynhwysfawr o safonau
bwyd yn y DU.

Mae’n darparu asesiad sylfaenol o’n safonau bwyd, yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, ac effaith pandemig COVID-19. Byddwn yn defnyddio’r gyfres hon o adroddiadau i ddarparu asesiad gwrthrychol, wedi’i lywio gan ddata, o ddiogelwch a safonau bwyd dros amser.

2023: Ymrwymiad i arloesi a dulliau rheoleiddio cymesur sy’n seiliedig ar risg

Buom yn gweithio mewn partneriaeth â Defra ar gefnogi’r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) drwy Senedd San Steffan, gan ennill Cydsyniad Brenhinol yn y gwanwyn. Buom hefyd yn gweithio i ddatblygu fframwaith cymesur ar gyfer rheoleiddio organebau wedi’u bridio’n fanwl (PBOs). Bydd y fframwaith yn sail ar gyfer awdurdodi PBOs a’u rhoi ar y farchnad fel bwyd a bwyd anifeiliaid yn Lloegr.

Mwy o wybodaeth am fridio manwl.