Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Llyfryn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Ein gwaith

O lunio polisïau, i gynhyrchu tystiolaeth a rheoleiddio, dyma beth rydym yn ei wneud i gadw bwyd yn ddiogel.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 May 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 May 2024

Rydym yn gynhyrchydd tystiolaeth

Mae gennym enw da yn fyd-eang am wyddoniaeth ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau cyflym o risgiau i ddiogelwch defnyddwyr, datblygu technegau gwyliadwriaeth newydd i nodi risgiau’n gyflymach, a deall gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad defnyddwyr.

Rydym yn cyhoeddi ein tystiolaeth yn unol â’n hymrwymiad i fod yn dryloyw. Mae hyn yn golygu ei bod ar gael am ddim i eraill sy’n gwneud polisïau a phenderfyniadau, i lywio canllawiau i fusnesau, ac fel y gall y cyhoedd ymddiried yn ein penderfyniadau. Rydym hefyd yn gyfrifol am ddynodi’r labordai swyddogol sy’n cynnal dadansoddiadau cemegol a chyfansoddol pwysig ar samplau bwyd a bwyd anifeiliaid a gymerir gan awdurdodau lleol neu awdurdodau iechyd porthladdoedd.

Rydym yn wneuthurwr polisi

Rydym yn cynghori gweinidogion ar ddiogelwch bwyd, dilysrwydd bwyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Mae’r meysydd polisi rydym yn cynghori arnynt yn wahanol ym mhob gwlad. Gweler ein tudalen we ar y system rheoleiddio bwyd am fwy o wybodaeth. Ategir hyn gan asesiadau risg o ddatblygiadau newydd a’r defnydd o wyddoniaeth a thystiolaeth.

Gan fod y DU wedi ymadael â’r UE, rydym bellach yn gwneud argymhellion i weinidogion ynghylch pa gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid y dylid eu hawdurdodi i’w gwerthu ar y farchnad ym Mhrydain Fawr ac yn cynghori ar oblygiadau newidiadau rheoleiddiol yng Ngogledd Iwerddon.
 
Rydym ni, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cynnal dadansoddiadau risg ar y cynhyrchion rheoleiddiedig hyn ac yn darparu cyngor i weinidogion, a fydd yn penderfynu a ellir rhoi’r cynnyrch ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Rydym hefyd yn cefnogi gwaith y llywodraeth ar gyfleoedd masnach i’r DU, gan ddarparu asesiadau risg o wledydd sydd am ddechrau mewnforio i’r DU a dangos ein trefniadau diogelwch bwyd ein hunain i wledydd rydym yn allforio iddynt. Rydym yn darparu cyngor polisi i gefnogi’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol effeithiol sy’n seiliedig ar risg – fel arolygiadau, archwiliadau, gwyliadwriaeth a gwaith samplu mewn busnesau bwyd.

Yn dilyn Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, rydym yn adolygu darnau o Gyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) sy’n dod o dan ein cylch gwaith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda’r bwriad o ddiwygio rheoliadau. Bydd hyn yn creu dull rheoleiddio cymesur, effeithiol, effeithlon sy’n canolbwyntio ar y dyfodol drwy’r broses dadansoddi risg a’r gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig, sy’n diogelu defnyddwyr ac yn dileu rhwystrau i arloesi. Rydym yn datblygu trefn reoleiddio newydd ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u bridio’n fanwl.

 

Ein gwaith - Llyfryn yr ASB

Rydym yn rheoleiddiwr

Rydym yn rheoleiddio’r system fwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Rydym yn cynnal rheolaethau’n uniongyrchol yn y meysydd cynhyrchu cig, cynnyrch llaeth cynradd a gwin.

Mae staff yr ASB a chontractwyr milfeddygol yn arolygu, archwilio a rhoi sicrwydd i fusnesau, gan gynnwys llofnodi tystysgrifau iechyd allforio. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol sy’n arolygu busnesau bwyd lleol – gan osod y fframwaith arolygu, a darparu cyngor a chanllawiau. Rydym yn gwneud yr un peth ar gyfer awdurdodau iechyd porthladdoedd, sy’n arolygu mewnforion bwyd. Rydym yn diwygio’r fframwaith rheoleiddio diogelwch bwyd i roi sicrwydd mwy cymesur sy’n seiliedig ar risg.

Rydym yn darparu canllawiau i fusnesau bwyd. Rydym yn defnyddio gwyliadwriaeth i nodi risgiau i ddefnyddwyr a sylwi ar ddigwyddiadau diogelwch bwyd posib, ac rydym yn ymateb i’r rhain pan fyddant yn codi. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr ac awdurdodau lleol i olrhain ffynonellau brigiadau o achosion o glefydau a gludir gan fwyd a chydgysylltu camau gweithredu, fel galw cynnyrch yn ôl i ddiogelu defnyddwyr a busnesau.

Mae ein Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn gweithio i fynd i’r afael â thwyll difrifol a throseddoldeb cysylltiedig mewn cadwyni cyflenwi bwyd – ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn sicrhau pwerau uwch iddi er mwyn cefnogi ymchwiliadau.

Rydym yn gorff gwarchod

Rydym yn adolygu ac yn adrodd ar safonau bwyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, gan ddefnyddio gwyliadwriaeth, sganio’r gorwel a chudd-wybodaeth. Rydym ni, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cyhoeddi adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU.

Rydym yn siarad yn gyhoeddus am feysydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr, pan fydd gennym dystiolaeth neu arbenigedd a allai wneud gwahaniaeth. Mae hyn yn cynnwys cynghori gweinidogion er mwyn sicrhau bod Cytundebau Masnach Rydd yn cynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer iechyd pobl, a hynny gan gefnogi adroddiadau a gaiff eu llunio ar gyfer Senedd y DU o dan Adran 42 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020. Rydym hefyd yn rhoi cyngor i weinidogion ar  geisiadau i gael mynediad i’n marchnadoedd ar gyfer nwyddau penodol.

Rydym yn gynullydd ac yn gydweithredwr

Mae bwyd yn fater datganoledig. Rydym yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Safonau Bwyd yr Alban i gyflawni blaenoriaethau a rennir a sicrhau bod buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn cael eu cynrychioli. Mae hyn yn cynnwys ein gwaith ar Fodel Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau’r Llywodraeth ar gyfer rheolaethau mewnforio, a Fframwaith Windsor ar gyfer masnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Rydym wedi ymrwymo i weithio ar draws y llywodraeth i geisio consensws o ran y cyngor y byddwn yn ei roi i weinidogion ym mhob gwlad. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn Fframweithiau Cyffredin, sef prosesau trawslywodraethol sy’n sicrhau bod dull cyffredin yn cael ei fabwysiadu mewn meysydd polisi datganoledig

Rydym hefyd yn dod â phartïon eraill ynghyd i fynd i’r afael â phroblemau yn y system fwyd, gan weithio gyda’r byd academaidd, y gymdeithas sifil a busnesau i gefnogi nodau ac amcanion a rennir. Rydym yn rhannu mewnwelediadau a thystiolaeth ar fuddiannau dinasyddion i helpu i lywio ffyrdd o feddwl ar draws y llywodraeth.

Gweler Ein Partneriaethau am fwy o wybodaeth am sut rydym yn gweithio gydag eraill, gan gynnwys ynghylch Safonau Bwyd mewn Ysgolion.