Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rhestr wirio alergenau ar gyfer busnesau bwyd

Canllawiau ar alergenau ar gyfer busnesau bwyd yn y diwydiant manwerthu ac arlwyo. Yn cynnwys cyngor ar ddarparu gwybodaeth am alergenau ac osgoi croeshalogi yn y gegin.

Mae gennych chi a'ch staff rôl bwysig i'w chwarae wrth ddiogelu pobl ag alergeddau bwyd. Mae eich ymateb chi yn bwysig. Codi llais dros alergeddau.

Mae gofynion labelu alergenau a gwybodaeth benodol y mae'n rhaid i fusnesau bwyd eu bodloni os ydyn nhw'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae'r rhestr wirio hon yn rhoi gair o gyngor ar sut y gall eich busnes fodloni'r gofynion hynny.  

Bydd dilyn y rhestr wirio hon yn helpu'ch busnes i ddarparu prydau diogel i gwsmeriaid ag alergeddau neu anoddefiadau bwyd. Argymhellir rhannu'r rhestr wirio hon â staff a rheolwyr. Gellir defnyddio'r rhestr wirio ar y cyd â'n hyfforddiant alergedd bwyd am ddim. 

Rhestr wirio alergenau ar gyfer rheolwyr

  • A ydych chi wedi egluro i'r tîm, pwy sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am reoli alergenau?
  • A oes aelod cyfrifol o staff ar gael ar bob shifft i reoli ceisiadau gan gwsmeriaid ag alergeddau? 
  • Os ydych chi'n defnyddio arwydd yn gofyn i gwsmeriaid holi am alergenau, a yw hwn yn cael ei arddangos yn amlwg mewn man lle mae cwsmeriaid yn gwneud eu dewisiadau bwyd? 
  • A yw staff yn deall yn glir sut i osgoi croeshalogi alergenau?
  • A yw staff y gegin yn gwybod sut i gofnodi alergenau pan fydd ryseitiau’n newid? 
  • A oes gweithdrefnau ar waith wrth gael dosbarthiadau cynhwysion, i wirio eich bod wedi cael yr eitemau rydych wedi'u harchebu?
  • Os oes unrhyw newidiadau i'r cynhwysion yn eich archeb reolaidd (er enghraifft amnewidiadau), a oes gennych weithdrefn ar waith i gymeradwyo a chofnodi hyn? 
  • A oes cyfarwyddiadau clir ar waith ar gyfer glanhau’r safle, yr offer a’r offer gwaith? 

Fe allech chi hefyd

 

  • Awgrymu bod staff yn gofyn i gwsmeriaid a oes ganddyn nhw alergeddau neu anoddefiadau wrth gymryd archebion.
  • Sicrhau bod gennych chi ddatganiad ar fwydlenni a thaflenni wedi’u hargraffu i roi gwybod i gwsmeriaid sut i gael gwybodaeth am alergenau ar gyfer eich prydau. 
  • Rhoi cyfarwyddiadau yn ardal y gegin i egluro sut i atal croeshalogi.
  • Gofyn i'r staff ddefnyddio matrics alergedd wrth gynllunio ryseitiau.
  • Darparu hyfforddiant addas ar alergenau i staff bob blwyddyn. 
  • Gwneud yn siŵr bod staff yn ymwybodol o beth i'w wneud os bydd cwsmer yn cael adwaith alergaidd yn ystod pryd bwyd.

Rhestr wirio alergenau ar gyfer staff cegin

Storio bwyd

  • A yw cynhwysion yn cael eu storio mewn cynwysyddion wedi'u selio a'u labelu? 
  • Os ydych chi'n trosglwyddo cynhwysion o'u deunydd pecynnu gwreiddiol, a oes gennych chi ffordd o adnabod yr alergenau sy'n bresennol yn y cynnyrch? 
  • A yw deunydd pecynnu cynhwysion agored yn cael eu storio mewn cynwysyddion wedi'u selio lle bo hynny'n briodol?
  • A oes gennych chi bolisi gollwng i ddelio ag achosion pan fydd un cynhwysyn yn cael ei ollwng ar gynhwysyn arall?

Ardaloedd paratoi bwyd

  • A oes gennych chi restrau ryseitiau cywir, fel bod rhestr glir o'r alergenau sy'n bresennol yn y bwyd rydych chi'n ei weini?
  • A oes gennych chi negeseuon atgoffa ar waith i ddiweddaru cofnodion pan fyddwch yn gwneud newidiadau i rysáit? 
  • Ydych chi'n golchi'ch dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr poeth wrth baratoi prydau heb alergenau? 
  • Pan ddaw archeb i mewn gan gwsmer sydd ag alergedd, a oes gennych broses glir ar waith i sicrhau y gellir paratoi'r bwyd yn ddiogel a'i weini i'r cwsmer cywir? 
  • Ydych chi'n ymwybodol o'r alergenau mewn garneisiau, topins neu sawsiau fel y gallwch chi osgoi eu defnyddio?
  • Ydych chi'n glanhau arwynebau cegin yn rheolaidd fel nad oes gweddillion bwyd na briwsion gweladwy o brydau bwyd eraill?

Rhestr wirio alergenau ar gyfer staff sy’n gweini 

  • Oes gennych chi ffordd effeithiol o roi gwybod yn gywir i gwsmeriaid am yr alergenau yn y prydau ar eich bwydlen? 
  • Ydych chi'n cyfleu risgiau croeshalogi i gwsmeriaid ag alergeddau neu anoddefiadau bwyd?
  • A oes gennych chi wybodaeth ysgrifenedig gywir y gallwch chi gyfeirio ati pan ofynnir i chi am alergenau neu a ydych chi'n gwybod at bwy i gyfeirio ceisiadau gwybodaeth am alergenau?
  • Sut ydych chi'n cofnodi archeb cwsmer sy’n gofyn am bryd heb alergenau ac yn cyfleu hyn yn glir i staff y gegin?
  • Ydych chi'n ymwybodol o'r hyn y dylech ei wneud os yw cwsmer yn profi adwaith alergaidd yn ystod pryd bwyd? I gael rhagor o wybodaeth darllenwch canllawiau'r GIG ar anaffylacsis

Rhestr wirio alergenau ar gyfer archebion dosbarthu a bwyd tecawê

Archebion 

  • A yw staff yn ymwybodol o sut i gymryd archebion â gofynion alergeddau penodol dros y ffôn neu ar-lein?
  • A oes gennych chi ddatganiad ar eich gwefan i gynghori cwsmeriaid lle gallant gael gwybodaeth am alergenau cyn iddynt fynd ati i archebu?
  • A yw eich gwybodaeth am alergenau ar-lein yn glir, yn gywir ac yn hygyrch ar yr adeg pan fydd cwsmeriaid yn archebu bwyd? 
  • Os ydych chi'n darparu bwyd trwy safle archebu ar-lein, a ydych chi'n dilyn eu gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth am alergenau?

Dosbarthu bwyd

  • A ydych wedi cael gwared ar risgiau croeshalogi posibl wrth ddosbarthu'r archeb o'ch busnes i'r cwsmer?
  • Pan fydd y cwsmer yn cael yr archeb, a yw'n glir pa un yw'r pryd heb alergenau? (Gallwch chi ddefnyddio sticeri neu nodyn ar y cynhwysydd mewn marciwr parhaol i labelu pob pryd).

Arwyddion Alergeddau ac Anoddefiadau Bwyd