Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Busnesau bwyd a diod – cyflenwi i'r gadwyn fwyd anifeiliaid

Gofynion y mae’n rhaid i fusnesau bwyd a diod sy'n cyflenwi cynhyrchion bwyd i'w defnyddio fel bwyd anifeiliaid gydymffurfio â nhw.

Mae'n rhaid i fusnesau bwyd a diod sy'n cyflenwi cynhyrchion bwyd i'w defnyddio fel bwyd anifeiliaid, gydymffurfio â gofynion y Rheoliad Hylendid Bwyd (183/2005). Mae hyn yn gymwys p'un a yw cynhyrchion yn cael eu cyflwyno drwy brosesydd bwyd neu eu hanfon yn uniongyrchol at ffermydd.

Mae busnesau sy'n darparu cynhyrchion bwyd ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes hefyd wedi'u cynnwys yn y gofynion hyn. Mae hefyd rhaid i fusnesau weithredu system Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) sy'n briodol i'r gweithgarwch a gyflawnir.

Mae’r gofynion hyn wedi'u dylunio i ddiogelu'r cadwyni bwyd a bwyd anifeiliaid ac i sicrhau'r gallu i olrhain cynhyrchion. Maent yn cynnwys rhwymedigaeth i fusnesau gofrestru â'r awdurdod gorfodi perthnasol. Maent fel a ganlyn:

  • Safonau Masnach Awdurdodau Lleol yng Nghymru ac yn Lloegr
  • yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon 

Canllawiau Rheoliad Hylendid Bwyd Anifeiliaid

Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol yng Nghymru, yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, ac i safleoedd sy'n cyflenwi deunyddiau i'w defnyddio ar gyfer bwyd anifeiliaid gan gynnwys:
  • mewnforwyr
  • gweithgynhyrchwyr a phroseswyr
  • manwerthwyr
  • arlwywyr 
Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).