Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol ar gyfer bwyd anifeiliaid a hylendid bwyd

Ni sy'n dablygu'r Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol (NEPs) ar gyfer bwyd anifeiliaid a hylendid bwyd. Mae'r rhain yn cynorthwyo awdurdodau lleol a busnesau wrth gynnal safonau a diogelu iechyd y cyhoedd.

Caiff y Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol eu datblygu'n flynyddol trwy ymgynghori â’r canlynol:

  • Cynrychiolwyr awdurdodau lleol
  • Safonau Masnach Cenedlaethol (NTS)
  • Penaethiaid Bwyd Anifeiliaid Rhanbarthol
  • Aelodau'r Panel Amaeth Cenedlaethol (NAP)
  • Aelodau Panel Cenedlaethol Bwyd Anifeiliaid mewn Porthladdoedd (NAFPP)

Amcanion

Mae ymgorffori'r Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol mewn rhaglen o reolaethau swyddogol yn annog gweithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid i gydymffurfio trwy gamau gorfodi.

Amcanion y blaenoriaethau yw:

  • ysgogi dull cynnal rheolaethau swyddogol sydd wedi’i seilio ar gudd-wybodaeth (intelligence), gan ganolbwyntio adnoddau ar fusnesau risg uwch a’r rheiny nad ydynt yn cydymffurfio, a chynyddu’r ffocws ar ganlyniadau
  • sicrhau chwarae teg ar gyfer busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n onest a dyfal, sef rhywbeth sydd er budd y diwydiant yn ei gyfanrwydd
  • lleihau beichiau diangen ar fusnesau trwy ganolbwyntio gweithgarwch awdurdodau lleol ar feysydd y cytunir eu bod yn peri’r risg fwyaf i iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid
  • llunio dull ymyrryd hyblyg sydd wedi’i seilio ar gudd-wybodaeth, gan gynyddu’r ffocws ar ganlyniadau
  • gwireddu ein nod strategol, sef ‘Bwyd y Gallwn Ymddiried Ynddo’ a gwella ansawdd a chysondeb rheolaethau swyddogol

Mae deddfwriaeth a chanllawiau i gefnogi awdurdodau lleol wrth ymgorffori'r blaenoriaethau hyn yn eu cynlluniau blynyddol ar gyfer rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid ar gael yn y dogfennau Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol.

Northern Ireland