Yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'n cenhadaeth
Sefydlwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn 2000, yn dilyn achosion uchel eu proffil o salwch a gludir gan fwyd, fel adran annibynnol o'r llywodraeth sy'n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon. Ein cenhadaeth yw bwyd y gallwn ymddiried ynddo.
Mae ein gwaith nid yn unig yn diogelu pobl, ond hefyd yn lleihau baich economaidd salwch a gludir gan fwyd ac yn cefnogi economi a masnach y Deyrnas Unedig (DU) trwy sicrhau bod gan ein bwyd enw da o ran diogelwch a dilysrwydd yn y DU a thramor.
Rydym ni’n gyfrifol am y systemau sy'n rheoleiddio busnesau bwyd, ac rydym ni ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â throseddau bwyd.
Mae rôl yr ASB yn ymwneud â mwy na diogelwch bwyd yn unig, mae hefyd yn ymwneud â buddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, sy'n cynnwys pris, argaeledd, a rhai agweddau ar safonau cynhyrchu bwyd fel pryderon amgylcheddol a lles anifeiliaid.
Yn sail i'n gwaith mae'r wyddoniaeth a'r dystiolaeth ddiweddaraf y cytunir arnynt yn ein cyfarfodydd Bwrdd agored. Mae tryloywder yn egwyddor sy’n llywio’r ASB ac sy’n allweddol i gynnal hyder y cyhoedd.
I wylio'r fideo isod gydag is-deitlau Cymraeg, cliciwch ar y botwm gosodiadau (settings) a dewis Cymraeg/Welsh.
Cenhadaeth a gweledigaeth
Ein cenhadaeth gyffredinol yw sicrhau bwyd y gallwn ymddiried ynddo, ac mae ein gweledigaeth yn cynnwys y nodau canlynol:
- Mae bwyd yn ddiogel
- Mae bwyd yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label
- Gall defnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus am beth i'w fwyta
- Mae gan ddefnyddwyr fynediad at ddeiet fforddiadwy, nawr ac yn y dyfodol*
*dim ond yng Ngogledd Iwerddon y mae’r ASB yn gyfrifol am bolisi maeth, nid yng Nghymru nac yn Lloegr.