Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Y system rheoleiddio bwyd

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithredu yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon ac mae ganddi wahanol gyfrifoldebau polisi o fewn y gwledydd hyn.

Mae'r system fwyd yn gymhleth ac mae’r broses o’i rheoleiddio yn cynnwys sawl corff.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithredu yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon ac mae ganddi wahanol gyfrifoldebau polisi o fewn y gwledydd hyn.

Safonau Bwyd yr Alban yw adran anweinidogol Llywodraeth yr Alban sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd, safonau bwyd, maeth, labelu bwyd, rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid ac arolygu cig yn yr Alban. 

Mae ein hadran ar weithio ar draws y pedair gwlad yn esbonio sut mae'r meysydd polisi bwyd wedi'u rhannu ledled y DU.

A dairy inspector with milking equipment. Older man wearing a hairnet and green FSA hard hat, looking to his left off camera.

Pwy sy'n gorfodi rheolaethau bwyd?

Ar ran yr ASB

Mae Arolygwyr Hylendid Cig a Milfeddygon Swyddogol yn cynnal gwiriadau hylendid, dogfennau a chorfforol ac yn cymryd samplau gan gynhyrchwyr cig cymeradwy (gan gynnwys lladd-dai a ffatrïoedd torri). Mae milfeddygon cymwys yn cynnal gwiriadau ar gynhyrchion anifeiliaid ac yn cynnal gwiriadau lles anifeiliaid*. 

*DAERA sy'n gyfrifol am gyflawni gweithrediadau cig ar ran yr ASB yng Ngogledd Iwerddon.

Ar ran awdurdodau lleol

Mae Swyddogion Diogelwch Bwyd yn cynnal rheolaethau swyddogol ar ddiogelwch a hylendid bwyd. Maent yn arolygu safleoedd i wirio bod bwyd yn cael ei storio a'i baratoi'n ddiogel.  

Mae Swyddogion Safonau Bwyd yn gwirio bod bwyd yn bodloni safonau diogelwch, cyfansoddiad a safonau labelu maeth (er enghraifft, labelu alergenau, dyddiadau defnyddio erbyn, gwybodaeth am faeth a chyfansoddiad). 

Ar gyfer bwyd sy’n cael ei fewnforio

Mae Swyddogion Iechyd Porthladdoedd yn cynnal gwiriadau dogfennau ar sail risg, gwiriadau adnabod, 
gwiriadau corfforol, ac yn cymryd samplau o fewnforion bwyd.  


Mae Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Pysgod Swyddogol yn cynnal gwiriadau ar gynhyrchion anifeiliaid. 

Three people looking at a clipboard on a farm

Three people looking at a clipboard on a farm, one of which is in FSA hardhat

Busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid

O dan reoliadau bwyd a bwyd anifeiliaid y DU, cyfrifoldeb busnesau bwyd yw sicrhau bod yr holl fwyd sy’n cael ei roi ar y farchnad yn ddiogel, ei fod o’r ansawdd y byddai defnyddwyr yn ei ddisgwyl ac nad yw'n cael ei labelu mewn ffordd ffug neu gamarweiniol.

Rydym ni’n uniongyrchol gyfrifol am reolaethau mewn cynhyrchwyr cig ffres cymeradwy (gan gynnwys lladd-dai a ffatrïoedd torri), cynhyrchwyr gwin a sefydliadau llaeth ar y fferm cymeradwy. Mae'r ASB ac awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol ar bysgod cregyn ar y cyd. 

Ymhlith y busnesau bwyd y mae awdurdodau lleol yn ymwneud â nhw mae cynhyrchwyr bwyd, proseswyr bwyd, sefydliadau arlwyo, busnesau tecawê a dosbarthu bwyd, manwerthwyr a sefydliadau llaeth, cig a physgod cymeradwy. Mae'r ASB ac awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol ar bysgod cregyn ar y cyd. 
Mae awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd phorthladdoedd yn Lloegr, awdurdodau lleol ac APHA yng Nghymru, ac awdurdodau lleol a DAERA yng Ngogledd Iwerddon yn gyfrifol am reolaethau ar fwyd a fewnforir. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw rheolaethau bwyd anifeiliaid yng Nghymru ac yn Lloegr, a DAERA yng Ngogledd Iwerddon.

Defnyddwyr

Mae defnyddwyr yn gyfrifol am baratoi a storio bwyd yn ddiogel yn eu cartref ac am wirio labelu i sicrhau bod bwyd yn addas iddynt ei fwyta.

Ewch ati i lawrlwytho ein llyfryn gwybodaeth. Dysgwch rhagor am sut rydym ni wedi gweithio i ddiogelu eich plât dros yr 20 mlynedd diwethaf, a'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.