Rydym ni'n cyflogi arbenigwyr diogelwch bwyd ar draws y wlad gan gynnwys gwyddonwyr, arolygwyr rheng flaen, arbenigwyr gorfodi, timau cyflawni polisi, economegwyr, cyfreithwyr a gweinyddwyr. Maent i gyd yn cydweithio i sicrhau bod y bwyd rydym ni’n ei brynu a’i fwyta yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Mae nifer o fanteision ynghlwm â gweithio i ni, fel lwfansau gwyliau hael ac ymrwymiad i gydbwysedd bywyd a gwaith.
Rydym ni o'r farn y dylai amrywiaeth fod yn sail i bopeth a wnawn fel sefydliad, ac rydym ni'n awyddus i'n gweithlu adlewyrchu'r ystod eang o gymunedau rydym ni'n eu gwasanaethu. Rydym ni hefyd yn gweithredu cynllun cyfweld gwarantedig ar gyfer pobl anabl sy'n bodloni'r meini prawf isafswm o ran eu penodi.
Mae gennym ni swyddfeydd yng Nghaerdydd, yn Llundain, ym Melffast ac yng Nghaerefrog.
Swyddi gwag ar hyn o bryd
Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu Gwyddoniaeth
Dyddiad cau: Dydd Sul 10 Ionawr 2021
Aseswyr Risg (6 x Parhaol)
Dyddiad cau: Dydd Mercher 13 Ionawr 2021
Pennaeth Polisi Milfeddygol a Hylendid Cig
Dyddiad cau: Dydd Sul 17 Ionawr 2021
Pennaeth y Tîm Rheoli Perfformiad
Dyddiad cau: Dydd Sul 17 Ionawr 2021
Pennaeth Systemau Ariannol
Dyddiad cau: Dydd Sul 17 Ionawr 2021
Rheolwr Cyfathrebu
Dyddiad cau: Dydd Mercher 20 Ionawr 2021
Swyddi gwag Aelodau'r Bwrdd
Cadeirydd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Dyddiad cau: Dydd Llun 25 Ionawr 2021 am hanner dydd
Aelod Anweithredol o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Dyddiad cau: Dydd Gwener 22 Ionawr 2021 am hanner dydd
Mae'r rolau hyn yn Benodiadau Cyhoeddus a wneir gan Weinidogion yn yr Adran Iechyd a Gweinidogion yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw'r rolau hyn yn destun unrhyw delerau ac amodau'r Gwasanaeth Sifil.
Strwythur cyflog a graddau
Mae gennym ni chwe gradd y tu allan i'r Uwch Wasanaeth Sifil:
- Swyddog Gweinyddol (AO)
- Swyddog Gweithredol a theitlau cyfwerth (EO)
- Swyddog Gweithredol Uwch a theitlau cyfwerth (HEO)
- Uwch Swyddog Gweithredol a theitlau cyfwerth (SEO)
- Gradd 7
- Gradd 6
Mae gennym ni ddwy raddfa gyflog, un ar gyfer staff yn Llundain ac un ar raddfa genedlaethol ar gyfer yr holl staff eraill. Hefyd, mae gennym gynllun gwobrwyo yn ystod y flwyddyn ar gyfer cyflawniadau personol neu gyflawniadau tîm unigryw ac eithriadol.
Oriau gwaith, cyfnod prawf a gwyliau blynyddol
Ein horiau gwaith arferol yw 37 awr yr wythnos. Rydym ni'n gweithredu oriau gwaith hyblyg sy'n caniatáu i weithwyr addasu eu diwrnod gwaith i ddiwallu anghenion unigol. Rydym ni hefyd yn darparu ar gyfer staff sy'n dymuno gweithio gartref, rhan-amser neu rannu swyddi, yn amodol ar anghenion busnes. Gellir ystyried trefniadau gweithio hyblyg eraill.
Cyfnod prawf
Mae'n ofynnol i'r holl staff sy'n ymuno â ni weithio cyfnod prawf o wyth mis, oni bai eu bod wedi ymuno o Adran Llywodraeth arall.
Gwyliau blynyddol
Mae lwfans gwyliau blynyddol ar gyfer dechreuwyr newydd yn dechrau ar 25 diwrnod, yn ogystal â naw diwrnod o wyliau braint a chyhoeddus, ac yn codi i 30 diwrnod gyda hyd y gwasanaeth.
Buddion
Absenoldeb rhiant
Absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir hyd at 26 wythnos â thâl llawn wedi’i ddilyn gan 13 wythnos â thâl statudol ac 13 wythnos arall yn ddi-dâl, ac absenoldeb tadolaeth o hyd at 3 wythnos â thâl llawn.
Dysgu a datblygu
Rydym ni fel sefydliad yn gwbl ymrwymedig i ddysgu a datblygu ein staff ac fel rhan o'n tîm, gallwch chi edrych ymlaen at gyfleoedd hyfforddi a datblygu o safon. Rydym ni'n credu mewn helpu pawb sy'n gweithio i ni i fanteisio i'r eithaf ar eu doniau ac i wireddu eu potensial llawn - dyna pam rydym ni'n rhoi cyfle i bawb ddatblygu ymhellach, gan gynnig cyfleoedd datblygu ffurfiol yn ogystal â hyfforddiant mewn swydd. Bydd cyfle i ymgymryd â datblygiad i fodloni anghenion y swydd ac ar gyfer rhywfaint o ddatblygiad personol.
Pensiwn
Mae'r Gwasanaeth Sifil yn cynnig dewis pensiwn galwedigaethol neu bensiwn cyfranddeiliaid deniadol, gan roi hyblygrwydd a dewis. Mae manylion y pensiynau sydd ar gael i'w gweld ar wefan y Gwasanaeth Sifil.
Buddion ychwanegol
Wrth weithio gyda'r ASB gallwch chi gael mynediad at ystod eang o fuddion ariannol. Er enghraifft:
- cynllun disgownt i weithwyr yr ASB
- cynllun gofal llygaid
- derbyn cyflog ymalen llaw er mwyn talu am docynnau tymor
- cynllun aberthu cyflog Beicio i'r Gwaith
- rhaglen defnyddiwr Microsoft yn y cartref
- cynllun teithio First Bus
- talu tanysgrifiadau proffesiynol
Rydym ni hefyd yn cynnig nifer o fudd-daliadau di-dâl, er enghraifft:
- pum diwrnod o ddysgu a datblygiad y flwyddyn - gan gynnwys mynediad at yr adnoddau dysgu amrywiol
- rhaglenni a chefnogaeth a gynigir gan Civil Service Learning
- amser o'r gwaith i ddelio ag argyfyngau, sefyllfaoedd annisgwyl a rhai amgylchiadau arbennig eraill heb eu cynllunio
- absenoldeb arbennig â thâl i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli anstatudol a dyletswyddau gwasanaeth cyhoeddus megis milwr wrth gefn y lluoedd arfog
- cyfleoedd i weithio'n hyblyg
- cynllun gwobrwyo yn ystod y flwyddyn ar gyfer cyflawniadau personol neu gyflawniadau tîm unigryw ac eithriadol
- Raglen Cymorth Gweithwyr benodol lle gallwch chi gael mynediad at gymorth cwnsela, cyngor a gwybodaeth gyffredinol a chyngor ariannol a dyled
- dewis i ymuno ag undeb llafur
Yn ogystal, fel gwas sifil gallwch chi hefyd ymuno â, neu fwynhau, buddion nifer o sefydliadau eraill fel Cymdeithas Yswiriant y Gwasanaeth Sifil, Elusennau dros Weision Sifil, gofal iechyd y Gwasanaeth Sifil a HASSRA.
Buddiannau sy'n gwrthdaro
Mae'n ofynnol i'r holl staff sy'n gweithio i ni wneud cais am gymeradwyaeth cyn iddynt ddod yn gysylltiedig ag unrhyw fath o fuddiant busnes preifat sy'n gysylltiedig â'r diwydiant bwyd. Os ydych chi'n gysylltiedig ag unrhyw fusnes preifat o'r math hwn, gofynnir i chi roi gwybod am eich buddiant ynddo, a faint o amser y disgwyliwch ei roi iddo. Gallwn ni wedyn ystyried a fyddai unrhyw wrthdaro â dyletswyddau swyddogol os cewch gynnig a derbyn y penodiad.
Mae hyn yn berthnasol i fuddiannau ariannol yn unig yn ogystal ag os ydych chi'n ymwneud â rheoli'r busnes. Dylech chi hefyd ddweud wrthym ni a oes gennych chi gysylltiad anuniongyrchol o'r math hwn, er enghraifft, trwy bartner neu aelod o'r teulu y mae gennych chi gysylltiad agos ag ef/hi.
Mae yna reolau hefyd ynglŷn â chymryd gwaith i staff sy'n gadael yr ASB a'r Gwasanaeth Sifil. Mae'r rhain yn berthnasol yn gyffredinol i Uwch Weision Sifil, ond maen nhw hefyd yn berthnasol i staff eraill mewn amgylchiadau arbennig.
Cod y Gwasanaeth Sifil
Rhaid i bob un o'n gweithwyr gydymffurfio â chod y Gwasanaeth Sifil, sy'n gosod y gwerthoedd craidd a'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.