Emily Miles, Prif Weithredwr X
Gwybodaeth am Brif Weithredwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
Emily Miles yw Prif Swyddog Gweithredol yr ASB. Dechreuodd ar ei rôl ar 23 Medi 2019 ar ôl symud o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).
Bu’n gweithio yn Defra ers mis Tachwedd 2015, gan ymuno fel Cyfarwyddwr Strategaeth y Grŵp, a chydlynu gwaith ar ganlyniadau domestig Brexit i Defra ers y refferendwm yn 2016.
Dros y 15 mlynedd diwethaf bu’n gweithio’n bennaf ar faterion cartref, yn y Swyddfa Gartref, yn Downing Street ac yn Swyddfa’r Cabinet. Roedd ei rolau'n cynnwys:
- Cyfarwyddwr Plismona yn y Swyddfa Gartref
- Cyfarwyddwr Rhaglen i glirio ôl-groniad o lwyth achosion lloches hanesyddol y Deyrnas Unedig (DU) yn Asiantaeth Ffiniau'r DU
- Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer cau'r Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona a sefydlu'r Coleg Plismona
Roedd hi'n gynghorydd polisi ar faterion cartref i'r Prif Weinidog Tony Blair rhwng 2002 a 2005.
Cymerodd seibiant o’i gyrfa rhwng 2010 a 2011, yn rhannol i dreulio rhagor o amser gyda'i dau blentyn ifanc. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd hi hefyd yn Gymrawd Winston Churchill, gan deithio i’r Unol Daleithiau, Canada ac India. Cyhoeddodd ei chanfyddiadau fel adroddiad InsideOut, Cydweithio (Collaborative Working), ar gyfer Sefydliad y Llywodraeth, lle bu’n Gymrawd Whitehall yn 2011.
Rhwng 1999 a 2017 roedd hi'n ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree, gan gynnwys cyfnod fel is-gadeirydd. Mae hi'n aelod o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Crynwyr) ym Mhrydain.
Mae gan Emily radd Meistr yng nghyfraith ryngwladol gwrthdaro arfog a chyfiawnder troseddol rhyngwladol o Brifysgol Nottingham, ac roedd ei gradd gyntaf o Brifysgol Caergrawnt, mewn Saesneg.
Rolau blaenorol:
- Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyflenwi Ymadael â’r UE, Defra (Ebrill – Medi 2019)
- Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Materion Domestig a Chyfansoddiadol Ymadael â’r UE, Defra (Ebrill 2018 tan Ebrill 2019)
- Cyfarwyddwr Strategaeth y Grŵp, Defra (Tachwedd 2015 tan Ebrill 2018)
- Cyfarwyddwr, Prosiectau, Ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig, Swyddfa'r Cabinet (Mawrth 2014 tan Tachwedd 2015)