Mae’r defnydd o wybodaeth a gwasanaethau perchenogol y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ddarostyngedig i delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored.
Mae’r sgoriau’n agored i’w newid gan eu bod yn cael eu diweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu’r safonau a ganfyddir pan fydd busnes yn cael ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd awdurdod lleol. Caiff defnyddwyr eu hatgoffa y gallai dangos neu ddefnyddio sgôr annilys neu anghywir fod yn drosedd a/neu gallai beri i’r defnyddiwr ddod yn agored i atebolrwydd sifil posib. Mae defnyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod y sgôr gyfredol yn cael ei defnyddio, neu am nodi’r dyddiad pan ddiweddarwyd yr wybodaeth.
Mae delweddau’r CSHB a logo’r ASB (y “Delweddau”) wedi’u diogelu gan nodau masnach cofrestredig y DU a hawliau eiddo deallusol eraill, ac mae’r ASB yn berchen arnynt ac yn eu rheoli.
Er mwyn sicrhau nad yw’r cyhoedd yn cael eu drysu na’u camarwain, rhaid dilyn y rheolau isod bob amser pryd bynnag y defnyddir y Delweddau mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys ar: sticeri a phosteri mewn safleoedd, bwydlenni argraffedig, taflenni, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, gwefannau ac unrhyw lwyfannau electronig neu unrhyw weithgarwch a deunydd hyrwyddo arall.
- Ni ddylid newid na diwygio’r Delweddau heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Gellir gofyn am ganiatâd ar gyfer unrhyw newid gan yr ASB trwy gysylltu â HygieneRatings@food.gov.uk.
- Mae enw’r CSHB a logo’r ASB yn rhan annatod o ddyluniad y Delweddau. Gellir eu defnyddio yn y cyd-destun hwn, ond ni ddylid eu defnyddio mewn unrhyw ffordd arall heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Gellir gofyn am ganiatâd ar gyfer defnydd arall o’r fath gan y Tîm Sgoriau Hylendid Bwyd trwy gysylltu â HygieneRatings@food.gov.uk.
- Ni ddylid cyflwyno’r Delweddau mewn unrhyw weithgarwch na deunyddiau hyrwyddo mewn unrhyw fodd a allai awgrymu bod yr ASB yn cymeradwyo unrhyw fusnes bwyd unigol, cadwyn o fusnesau bwyd, gwefan, adnodd ar-lein neu weithgarwch arall. Dim ond y sgôr go iawn a ddyfarnwyd o dan y CSHB y gellir ei defnyddio. Pe bai sgôr unrhyw fusnes bwyd yn newid mewn arolygiad dilynol, dim ond delweddau o’r sgôr newydd y gellir eu defnyddio a rhaid diweddaru neu dynnu unrhyw ddelweddau o sgoriau blaenorol ar unwaith o’r holl weithgarwch hyrwyddo a’r deunyddiau y maent yn ymddangos ynddynt.
- Gall yr ASB roi neu dynnu caniatâd, neu roi amodau ar gyfer unrhyw un o’r uchod, yn ôl ei disgresiwn llwyr. Cedwir pob hawl arall yn llawn.
Trwy lawrlwytho a/neu ddefnyddio’r Delweddau, mae pob busnes bwyd yn derbyn ac yn cytuno i gydymffurfio’n llwyr â’r rheolau hyn.
Mae sticeri’r CSHB sy’n ymgorffori’r Delweddau yn destun yr holl reolau uchod, ond dim ond awdurdodau lleol sy’n gweithredu’r cynllun sy’n eu dyroddi. Rhaid peidio â chael gafael ar sticeri o unrhyw ffynhonnell arall, ac ni ddylai unrhyw ffynhonnell heb awdurdod atgynhyrchu’r sticeri.
Mae arddangos neu ddefnyddio sgôr annilys mewn unrhyw weithgarwch neu ddeunydd hyrwyddo yn torri’r rheolau uchod a hawliau’r ASB. Os torrir y rheolau uchod a/neu hawliau eiddo deallusol yr ASB, gall yr ASB fynnu bod unrhyw ddefnydd o’r Delweddau’n dod i ben ar unwaith heb gyfyngu ar rwymedïau cyfreithiol eraill yr ASB.
Gall hefyd fod yn drosedd o dan ddeddfwriaeth safonau masnachu, er enghraifft o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n drosedd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2016. Yng Nghymru mae’n drosedd o dan Ddeddf Sgoriau Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.
Ymwadiad
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfoes, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw wallau, hepgoriadau neu ddatganiadau camarweiniol.
Polisi’r ASB yw cael caniatâd i gysylltu â gwefannau eraill, a chaiff dolenni cyd-destunol eu darparu i safleoedd o’r fath lle bo’n briodol i fusnes yr ASB. Nid yw’r ASB yn gyfrifol am wybodaeth ar safleoedd nad yw’n eu rheoli, ac ni all warantu cywirdeb yr wybodaeth hon. Yn ogystal, ni ddylid cymryd bod cynnwys hyperddolen yn golygu bod yr ASB yn cymeradwyo’r safle y mae’r hyperddolen yn arwain ato.
Defnyddio ac ailddefnyddio canllawiau ar gyfer cynllun Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell yr ASB
Cefndir
Datblygwyd Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB) gan yr ASB i gynorthwyo busnesau bwyd bach i gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer gweithdrefnau dogfenedig sy’n seiliedig ar ddadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol (HACCP). Mae manteision i fusnesau, eu staff a swyddogion gorfodi wrth ddefnyddio SFBB.
Cynlluniwyd SFBB ar gyfer arlwywyr ac SFBB ar gyfer manwerthwyr i weithio yn y rhan fwyaf o fusnesau bach ym meysydd arlwyo a manwerthu bwyd (ac eithrio manwerthwyr arbenigol fel cigyddion, gwerthwyr pysgod a phobyddion). Mae gweithredwr y busnes bwyd yn cwblhau’r ‘dulliau diogel’ yn y pecyn ac yn eu teilwra i ddod yn benodol i’w fusnes penodol.
Nod y canllawiau hyn yw rhoi cymorth i’r awdurdodau lleol hynny, neu gwmnïau preifat, sy’n ystyried datblygu addasiadau. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi cynhyrchu addasiadau o SFBB neu ddulliau diogel ychwanegol.
Hawlfraint
Mae’r holl ddeunydd yn y pecynnau SFBB yn destun amddiffyniad hawlfraint y Goron.
Celwch ailddefnyddio’r wybodaeth yn y pecyn SFBB (heb gynnwys logos yr ASB a ffotograffau sy’n destun hawlfraint trydydd parti) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored.
Mae hyn ar yr amod bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cydnabod bod y deunydd yn destun hawlfraint y Goron a nodi’r ASB fel ffynhonnell y deunydd.
Wrth ailddefnyddio’r wybodaeth am SFBB, ni ddylid defnyddio logo’r ASB. Dylai fod yn glir nad yr ASB a gynhyrchodd y deunydd. Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd yn y cyhoeddiad hwn sy’n destun hawlfraint trydydd parti. Sylwch fod rhai o’r delweddau yn yr adnodd hwn yn destun hawlfraint trydydd parti, felly nid oes gennych ganiatâd i’w hailddefnyddio.
Dylai unrhyw newidiadau a wneir ychwanegu dulliau diogel cyflawn. Nid yw’n briodol ailysgrifennu dull diogel yn rhannol, gan fod pob un o’r dulliau diogel presennol wedi’u dilysu gan yr ASB.
Gan fod SFBB yn frand sydd wedi’i hen sefydlu, ni ddylech newid yr arddull, gan gynnwys yr eiconau, cynllun y tudalennau a’r lliwiau a ddefnyddir, i sicrhau ansawdd unrhyw gynnyrch a gynhyrchir.
Rhaid cydnabod bod y deunydd a ddefnyddir yn destun hawlfraint y Goron a’i fod wedi’i ddefnyddio gyda chaniatâd o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. Dylai’r datganiad canlynol ymddangos ar flaen y ddogfen neu’n glir o fewn y ddogfen mewn maint ffont sy’n hawdd ei ddarllen.
Y datganiad:
© Deunydd hawlfraint y Goron o gynllun “Bwyd mwy diogel, busnes gwell” yr Asiantaeth Safonau Bwyd, (dyddiad y fersiwn SFBB), a ddefnyddir o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored, fersiwn 3. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch defnyddio ac ailddefnyddio’r adnodd gwybodaeth hwn, ewch i wefan yr Archifau Cenedlaethol.
Meddwl cynhyrchu addasiad o SFBB
Cyn newid neu ychwanegu gwybodaeth at y pecyn SFBB, ystyriwch a yw’r newid yn angenrheidiol neu a fyddai modd i’r busnes ei gyflawni drwy deilwra’r dulliau diogel presennol (trwy lenwi’r golofn ‘Sut rydych chi’n gwneud hyn?’) neu drwy ychwanegu dulliau diogel o becyn arall. Er enghraifft, mae gan SFBB ar gyfer manwerthwyr adran ar goginio a pharatoi, a ddatblygwyd gyda’r diwydiant i adlewyrchu’r bwydydd mwyaf cyffredin sy’n cael eu coginio neu eu paratoi yn y sector manwerthu bach. Nid oedd yn fwriad i’r adran honno gwmpasu’r amrediad cyfan o fwydydd posib a oedd yn cael eu paratoi. Os yw manwerthwyr bach yn coginio neu’n paratoi bwydydd nad ydynt wedi’u cynnwys, yna gallent ddefnyddio dulliau diogel dethol o’r pecyn SFBB ar gyfer arlwywyr, lle y bo’n briodol.
I rai busnesau, efallai na fydd yr iaith a ddefnyddir yn y pecyn yn gyfarwydd, er enghraifft arlwywyr cartref, ond gyda chymorth, efallai y bydd y busnesau hyn yn gallu defnyddio’r pecynnau presennol yn llwyddiannus.
Mae SFBB wedi’i gynllunio i fod yn system syml nad yw’n gosod beichiau gormodol ar fusnesau. Mae’n bwysig iawn bod unrhyw ddulliau newydd yn cadw’r symlrwydd hwn. Yn benodol, dylai newidiadau arfaethedig:
- cadw opsiynau ar gyfer defnyddio gwybodaeth synhwyraidd (er enghraifft, newid lliw neu stemio bwyd) fel dangosydd o reolaethau critigol, a pheidio â mynnu monitro tymheredd trwy ddefnyddio thermomedrau prôb
- cadw dull ‘adrodd drwy eithriad’ y dyddiadur
Mae SFBB wedi’i gynllunio i ystyried saith egwyddor HACCP, ond mewn ffordd sy’n cuddio cymhlethdod HACCP rhag y defnyddiwr terfynol. Rhaid i unrhyw addasiadau gadw’r dull hwn.
Ni ddylid cynnwys unrhyw ddadansoddiad systemau na siartiau llif. Dylid datblygu unrhyw ddeunydd newydd o fewn fframwaith pedwar hanfod hylendid bwyd/fframwaith rheoli’r pecyn.
Dylai unrhyw ddeunydd ychwanegol a ddatblygir gadw’r dull SFBB, gan nodi:
- pwrpas cyffredinol y dull – wedi’i gynnwys o dan enw’r dull diogel
- pwyntiau diogelwch byr, syml
- disgrifiad o pam mae pob pwynt diogelwch yn bwysig
- y cam/camau allweddol sy’n gwneud y bwyd yn ddiogel – er enghraifft, coginio am amser penodol neu tan fod y bwyd wedi’i goginio’n drylwyr
- lle i ganiatáu i’r busnes gadarnhau a yw’n dilyn y cyngor yn y dull diogel neu ddisgrifio ei weithdrefnau ei hun i reoli’r perygl
- beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith – y camau unioni
- sut i reoli’r peryglon yn y busnes
- proc i’r cof i wneud nodyn o unrhyw broblemau yn eu dyddiadur
Bydd angen i chi ddilysu unrhyw ddulliau diogel newydd a gynhyrchwch.
All busnesau bwyd addasu SFBB?
Mae gweithredwyr busnesau bwyd yn gyfrifol am ddangos eu bod yn cynhyrchu bwyd diogel ac yn cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd dogfenedig. Gellir cyflawni hyn mewn sawl ffordd – dim ond un enghraifft o system sy’n seiliedig ar HACCP yw SFBB.
Gall busnesau ddefnyddio’r pecynnau SFBB fel sail ar gyfer eu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd, gan ychwanegu deunydd neu gyfuno canllawiau sydd ohoni i weddu i’w hamgylchiadau eu hunain. Os gwneir hyn, argymhellir defnyddio’r pecyn SFBB i wirio bod unrhyw newidiadau a wneir, neu ddeunydd a ychwanegir, o leiaf yn trafod yr un pynciau â’r deunyddiau SFBB.
Bydd angen dilysu unrhyw ddulliau diogel newydd a ddatblygir gan fusnes, a hynny drwy ddilyn y dull diogel ‘Profi’ yn yr adran Rheoli o’r pecyn a’u nodi yn y daflen ‘Profi: cofnodion’ yn y dyddiadur, lle bo’n berthnasol.
Dylai busnesau fod yn ymwybodol mai’r lefel ofynnol ar gyfer cadw cofnodion o dan SFBB yw’r isafbwynt ar gyfer cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Gall busnesau ychwanegu cofnodion pellach pe bai’n ddefnyddiol iddynt, neu er mwyn darparu tystiolaeth bellach o ddiwydrwydd dyladwy. Fodd bynnag, eu cyfrifoldeb nhw yw’r baich ychwanegol y mae hyn yn ei roi arnynt.
Fel ymgynghorydd preifat, alla’ i addasu SFBB?
Fel ymgynghorydd preifat, sy’n gweithio i fusnes penodol ac yn addasu’r pecyn ar gyfer y busnes hwnnw, dylech chi ddilyn y canllawiau ar gyfer busnesau bwyd yn yr adran uchod. Os ydych yn addasu’r pecyn at unrhyw ddiben arall, dylech chi ddilyn y canllawiau ar fformatio, cynnwys a chyfieithiadau, a rhoi sylw arbennig i’r wybodaeth ar hawlfraint.
Defnyddio ein blogiau a’n rhwydweithiau cymdeithasol
Rheolau safonol yw’r rhain ynghylch postio sylwadau ar ein blog a’n rhwydweithiau cymdeithasol. Nod y rheolau yw sicrhau bod pawb sy’n cyfrannu yn teimlo’n ddiogel, yn awyddus i gymryd rhan eto ac yn cadw at y pwnc dan sylw.
- Dylai’r trafodaethau fod yn fywiog ond hefyd yn adeiladol ac yn barchus.
- Peidiwch ag annog casineb ar sail hil, crefydd, rhywedd, cenedligrwydd, rhywioldeb nac unrhyw nodwedd bersonol arall.
- Peidiwch â rhegi, defnyddio iaith ymosodol na gwneud sylwadau anweddus neu ddi-chwaeth.
- Peidiwch â thorri'r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys enllib, cymeradwyo gweithgarwch anghyfreithlon a dirmygu’r llys (sylwadau a allai effeithio ar ganlyniad achos llys sydd ar y gweill).
- Peidiwch â ‘sbamio’. Peidiwch â hysbysebu cynhyrchion na gwasanaethau.
- Os ydych chi o dan 16 oed, cofiwch geisio caniatâd rhiant neu warcheidwad cyn gadael sylwadau ar y blog hwn.
- Peidiwch â dynwared person neu sefydliad na honni’n gelwyddog eich bod chi’n eu cynrychioli.
- Peidiwch â phostio mewn iaith ar wahân i’r Gymraeg neu’r Saesneg.
- Diogelwch eich preifatrwydd chi a phobl eraill. Peidiwch â phostio cyfeiriadau preifat, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost na manylion cyswllt eraill ar-lein.
- Cofiwch lynu wrth y pwnc. Peidiwch â phostio negeseuon nad ydynt yn gysylltiedig â’r pwnc.
Caiff sylwadau ar ein blog eu cymedroli cyn mynd yn fyw. Bydd sylwadau’n mynd yn fyw cyn gynted ag y bo modd o fewn cyfnod o 48 awr. Os bydd sylw’n mynd yn groes i’r rheolau trafod, ni fydd yn cael ei gyhoeddi neu bydd yn cael ei dynnu oddi ar y blog.
Ymwadiad cynnwys
Mae’r safbwyntiau a fynegir gan awduron (neu ‘flogwyr’) yn perthyn iddyn nhw yn unig, ac nid ydynt yn cynrychioli barn yr ASB.
Hawlfraint a hawliau cyfagos
Chi sy’n berchen ar yr hawlfraint wrth bostio negeseuon, erthyglau a lluniau. Fodd bynnag, rydych chi hefyd yn cytuno i roi hawl a thrwydded isdrwyddedadwy parhaol, di-freindal, anghyfyngedig i’r ASB i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu, creu gwaith deilliadol, dosbarthu, perfformio, chwarae ac arfer pob hawl hawlfraint a chyhoeddusrwydd mewn perthynas â gwaith o’r fath ledled y byd a/neu ei ymgorffori mewn gwaith arall mewn unrhyw gyfryngau sy’n bodoli nawr neu a ddatblygir yn hwyrach ar gyfer tymor llawn unrhyw hawliau a all fodoli mewn cynnwys o’r fath. Os nad ydych am roi hawliau o’r fath i’r ASB, rydym yn awgrymu nad ydych yn cyflwyno’ch sylw i’r wefan hon.
Dylech chi gofio eich bod yn gyfreithiol gyfrifol am yr hyn rydych chi’n ei ysgrifennu. Trwy gyflwyno sylwadau, rydych chi’n ymgymryd i indemnio’r ASB yn erbyn unrhyw atebolrwydd sy’n deillio o dorri cyfrinachedd neu hawlfraint, neu unrhyw ddatganiad anweddus, difenwol, twyllodrus, cableddus neu ddatganiad arall sy’n agored i gyfraith y gallech ei wneud.
Diogelu rhag feirysau
Mae gweithredwyr y safle yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i ddefnyddwyr redeg rhaglen wrthfeirysau ar yr holl ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd.
Ni all yr ASB dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o wefan yr ASB.
Eich preifatrwydd a chwcis
Sut rydym yn trin eich data personol
Darllenwch ein polisi preifatrwydd.