Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ymwrthedd gwrthficrobaidd

Sut y gall yr Asiantaeth Safonau Bwyd wella’r sylfaen dystiolaeth sy’n ymwneud ag Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) a bwyd? 

Mae mynd i’r afael â’r bygythiad y mae ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn ei beri i iechyd y cyhoedd yn fater o flaenoriaeth strategol genedlaethol i’r DU. Yn wir, mae hyn wedi arwain at gyhoeddi ail Gynllun Gweithredu Cenedlaethol 5 mlynedd gan Lywodraeth y DU ar fynd i’r afael ag AMR ar gyfer 2024 i 2029. Mae’r cynllun yn cynnwys canlyniadau ac ymrwymiadau a fydd yn galluogi cynnydd tuag at weledigaeth 20 mlynedd y DU ar gyfer cyfyngu ar AMR, ei reoli a’i liniaru. Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn mabwysiadu dull ‘Un Iechyd’ sy’n cynnwys pobl, anifeiliaid, amaethyddiaeth, diogelwch bwyd a’r amgylchedd. Gall gwella diogelwch bwyd a’r ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu helpu i gyfyngu ar halogiad bwydydd a lledaeniad ymwrthedd. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen prosesau rheoli risg sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â dealltwriaeth gadarn o’r ffordd y mae AMR yn teithio trwy’r gadwyn fwyd.

Nod y Maes o Ddiddordeb Ymchwil hwn yw galluogi’r ASB i barhau i gyfrannu at gyflawni nodau’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol o ran AMR, a hynny drwy fynd i’r afael â bylchau allweddol yn y dystiolaeth drwy gomisiynu ymchwil sy’n ymwneud ag AMR a chadw gwyliadwraeth ar y gadwyn fwyd. Mae hyn yn gwella ein dealltwriaeth o AMR trwy roi’r gallu i ni fesur, rhagweld a deall sut mae micro-organebau ymwrthol yn lledaenu o anifeiliaid ac amaethyddiaeth i bobl drwy’r gadwyn fwyd (Thema 1, Canlyniad 3 yn y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol) a thrwy sicrhau y gall penderfyniadau fod yn seiliedig ar wyliadwriaeth gadarn, ymchwil wyddonol a setiau data (Thema 3, Canlyniad 7 yn y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol).

Mae’r portffolio o waith yn cynnwys:

  • gwyliadwriaeth o facteria AMR mewn bwyd a bwyd anifeiliaid
  • ymchwil i ddeall sut ac i ba raddau y mae AMR yn cael ei drosglwyddo trwy’r gadwyn fwyd, a sut y gellir lliniaru hyn
  • ymchwil gwyddor gymdeithasol i olrhain dealltwriaeth a chanfyddiadau defnyddwyr a sefydliadau sy’n trin bwyd am facteria, a’r hyn y gellir ei wneud i ddiogelu pobl trwy arferion hylendid bwyd yn y cartref

Research projects related to the programme

No content tagged with Ymwrthedd gwrthficrobaidd