Arddangos sgoriau hylendid bwyd yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon (cylch ymchwil 2019)
Rydym ni wedi comisiynu ymchwil annibynnol i asesu cyfran y busnesau bwyd sy'n arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ers 2011. Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau cylch ymchwil 2019 gan gymharu â blynyddoedd blaenorol lle bo modd.
Asesodd yr ymchwil gyfran y busnesau bwyd sy'n arddangos sgoriau hylendid bwyd trwy ddefnyddio archwiliadau siopa cudd. Cynhaliwyd arolwg ffôn hefyd gyda sampl o fusnesau bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i archwilio agweddau busnesau tuag at y cynllun ac yn benodol, yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon, i bennu effaith arddangos gorfodol.
Cefndir
Lansiwyd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn 2010 a chaiff ei gynnal mewn partneriaeth rhyngom ni ac awdurdodau lleol. Mae'r cynllun yn helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus o ran ble i fwyta neu siopa am fwyd trwy ddarparu gwybodaeth am safonau hylendid busnesau adeg arolygiadau rheolaidd gan awdurdodau lleol. Mae'r cynllun yn cwmpasu busnesau sy'n cyflenwi neu'n gweini bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, megis bwytai, tafarndai, caffis, tecawês a gwestai, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i fusnesau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon arddangos eu sgoriau mewn man amlwg, fel prif ddrws, mynedfa neu ffenest y safle bwyd. Daeth arddangos yn orfodol yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013 ac yng Ngogledd Iwerddon ym mis Hydref 2016. Yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgoriau, ond nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Dull Ymchwil
Nod yr archwiliad arddangos oedd pennu faint o fusnesau bwyd gyda sgôr hylendid bwyd a oedd yn ei harddangos ar eu safle, a ble'r oedd y sgôr yn cael ei harddangos. Ymwelodd archwilwyr â chymysgedd cynrychioliadol o 500 o sefydliadau ym mhob un o'r tair gwlad.
Roedd yr ymchwil hefyd yn ceisio asesu sut mae cyfraddau arddangos wedi newid dros amser o'i gymharu ag archwiliadau blaenorol ac effaith arddangos gorfodol o ran sgoriau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
Roedd yr arolwg ffôn gyda busnesau yn ceisio darganfod:
- Lefel yr ymwybyddiaeth o'r CSHB a'r gofynion cyfreithiol yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon
- Ffactorau sy'n effeithio ar b'un a yw busnesau yn arddangos a'i peidio yn Lloegr ac effeithiau canfyddedig arddangos
- Ymwybyddiaeth a defnydd o ddulliau diogelu
- Agweddau tuag at arddangos gorfodol.
Cyfanswm nifer y sefydliadau a arolygwyd ym mhob gwlad oedd:
- Cymru: 507 (204 wedi'u harchwilio trwy'r ymarfer siopa cudd)
- Lloegr: 500 (191 wedi'u harchwilio trwy'r ymarfer siopa cudd)
- Gogledd Iwerddon: 505 (185 wedi'u harchwilio trwy'r ymarfer siopa cudd)
Canlyniadau
Cyfraddau Arddangos
Mae cyfraddau arddangos Cymru a Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn well na Lloegr. Byddai arddangos gorfodol yn debygol o gael effaith fawr ar gyfraddau arddangos yn Lloegr, fel y gwelir yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon.
Dyma'r cyfraddau o ran arddangos sticeri mewn man gweladwy o du allan i'r safle:
- 89% o sefydliadau yng Nghymru
- 55% o sefydliadau yn Lloegr
- 87% o sefydliadau yng Ngogledd Iwerddon
Yn Lloegr, mae busnesau sydd â sgôr uwch yn parhau i fod yn fwy tebygol o arddangos na'r rhai sydd â sgôr is. Mae 73% o'r rhai sydd â sgôr o 5 yn arddangos eu sgôr o'i gymharu â 31% o'r rheiny sydd â sgôr o 3 a 26% o’r rheiny sydd â sgôr rhwng 0 a 2. Mae'r cyfrannau hyn yn unol â'r rhai a welwyd yn yn y blynyddoedd a fu.
Cymhellion i arddangos sgoriau
Mae mwy na thraean y sefydliadau ym mhob gwlad yn dweud bod arddangos eu sgôr wedi cael effaith gadarnhaol ar eu busnes (38% yng Nghymru, 37% yn Lloegr a 41% yng Ngogledd Iwerddon).
Mae sicrwydd cwsmeriaid (71%) yn parhau i fod yn brif gymhelliant i arddangos yn Lloegr, wedi'i ddilyn gan y ffaith eu bod yn falch o'u sgôr (32%).
Mae mwyafrif y sefydliadau sy'n cael sgôr o 4 neu is yn parhau i gymryd camau i wella eu sgôr (81% yng Nghymru, 90% yn Lloegr ac 83% yng Ngogledd Iwerddon).
Arddangos gorfodol
Mae mwyafrif helaeth y busnesau (96% yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon) yn ymwybodol bod arddangos sgoriau mewn safleoedd yn orfodol. Mae'r mwyafrif yn gadarnhaol am y cynllun, gyda 88% yng Nghymru a 91% yng Ngogledd Iwerddon yn dweud ei fod yn syniad da neu eu bod nhw'n deall pam ei bod yn angenrheidiol.
Yn Lloegr, mae agweddau busnesau tuag at arddangos gorfodol hefyd yn gadarnhaol, gyda dros chwarter (79%) yn dweud y byddai gwneud arddangos yn orfodol yn beth da.
Mae busnesau ym mhob gwlad hefyd yn cefnogi ymestyn y cynllun fel ei fod yn cynnwys arddangos ar-lein: mae 93% yng Nghymru, 90% yn Lloegr ac 94% yng Ngogledd Iwerddon yn cytuno y dylai arddangos sgoriau ar-lein fod yn orfodol.