Pennod 4: Agweddau tuag at arddangos sgoriau’r CSHB
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o agweddau tuag at y CSHB, gan gynnwys barn am y gofyniad i arddangos sgoriau ar sail orfodol a ble y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd.
Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr hylendid bwyd. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith ond, yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgôr (footnote 1).
Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau ar sail orfodol
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw’n meddwl y dylai fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd, neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydyn nhw am wneud hynny ai peidio. O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 93% yn meddwl y dylai fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd, ac roedd 4% yn meddwl y dylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydyn nhw am wneud hynny ai peidio. Nid oedd 3% o'r ymatebwyr yn gwybod a ddylai hyn fod yn ofyniad cyfreithiol neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg ar draws y tair gwlad; roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yng Nghymru (94%), Lloegr (93%) a Gogledd Iwerddon (94%) yn meddwl y dylai fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd** (footnote 2).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hefyd a oedden nhw’n meddwl y dylai busnesau sy’n cynnig gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd. O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 94% yn meddwl y dylai busnesau sy’n cynnig gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd, roedd 1% yn meddwl na ddylai hynny fod yn orfodol, a dywedodd 5% nad oedden nhw’n gwybod. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg ar draws Cymru (95%), Lloegr (94%) a Gogledd Iwerddon (94%)** (footnote 3).
Barn am y man lle y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd
Ffigur 19. Lleoliadau lle mae’r ymatebwyr yn meddwl y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd, gan ddewis o blith rhestr o leoliadau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn meddwl y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar wefannau bwytai neu gaffis (94%), ar wefannau gwestai neu letai gwely a brecwast (94%), ar wefannau siopau tecawê (93%), ac ar wefannau neu apiau cwmnïau archebu a dosbarthu bwyd (91%). Roedd tua 8 o bob 10 o ymatebwyr o’r farn y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar wefannau archfarchnadoedd (84%) ac ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnesau bwyd (81%) (Ffigur 19) (footnote 4).
-
Cyflwynwyd deddfwriaeth i’w gwneud yn orfodol arddangos sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn safleoedd yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013 ac yng Ngogledd Iwerddon ym mis Hydref 2016.
-
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl y dylai fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu safleoedd, neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydyn nhw am wneud hynny ai peidio? Ymatebion: Dylai fod yn rhaid iddyn nhw ei harddangos; Dylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4414, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, ac eithrio’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
-
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl y dylai busnesau sy’n cynnig gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd? Ymatebion: Ydw; Nac ydw; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4415, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, ac eithrio’r rheiny a oedd ‘heb nodi’
-
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl y dylid arddangos y sgoriau hylendid… Ar apiau a gwefannau cwmnïau archebu a dosbarthu bwyd sy’n caniatáu i chi archebu bwyd o fwytai a siopau tecawê lleol amrywiol? / Ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnes bwyd? / Ar wefan bwyty neu gaffi? / Ar wefan siop tecawê? / Ar wefan gwesty neu lety gwely a brecwast? / Ar wefan archfarchnad? Sylfaen = 4918, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post.