Pennod 2: Pryderon am fwyd
Gofynnwyd i'r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt unrhyw bryderon am y bwyd maent yn ei fwyta.
Cyflwyniad
Gwaith yr ASB, a nodir mewn cyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol. Mae'r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon ymatebwyr am fwyd.
Pryderon cyffredin
Gofynnwyd i'r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt unrhyw bryderon am y bwyd maent yn ei fwyta. Nid oedd gan y mwyafrif o’r ymatebwyr (86%) unrhyw bryderon am y bwyd maent yn ei fwyta, a dim ond 14% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt bryder (footnote 1).
Ffigur 3: Y deg pryder mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd yn ddigymell
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i'r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt bryder esbonio'n gryno eu pryderon am y bwyd maent yn ei fwyta. Roedd y pryder mwyaf cyffredin yn ymwneud â dulliau cynhyrchu bwyd (31%), a oedd yn cynnwys defnyddio ychwanegion (fel cyffeithyddion a lliwiau bwyd) mewn cynhyrchion bwyd (14%), defnyddio plaladdwyr a neu/wrtaith i dyfu bwyd (12%), a sut mae bwyd wedi cael ei gynhyrchu neu ei brosesu (6%) (Ffigur 3).
Roedd yr ail bryder mwyaf cyffredin yn ymwneud â phryderon amgylcheddol a moesegol (23%), a oedd yn cynnwys lles anifeiliaid / sut caiff anifeiliaid eu trin (gan gynnwys eu cludo) (12%), taith bwyd (hynny yw, y pellter y bydd bwyd yn ei deithio) (5%), ac effaith cynhyrchu / bwyta cig ar yr amgylchedd (5%) (Ffigur 3) (footnote 2).
Ffigur 4: Y deg pryder mwyaf cyffredin mewn perthynas â bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i'r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt bryderon am ystod o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â gwastraff bwyd (63%), faint o siwgr sydd mewn bwyd (59%) a lles anifeiliaid (56%). Roedd tua hanner yr ymatebwyr yn pryderu am brisiau bwyd (53%), faint o fraster sydd mewn bwyd (52%) faint o halen sydd mewn bwyd (52%), a hormonau, steroidau a/neu wrthfiotigau mewn bwyd (50%) (Ffigur 4) (footnote 3).
Ffigur 5: Lefel y pryder am bynciau sy'n ymwneud â bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i ymatebwyr nodi i ba raddau roeddent yn pryderu am nifer o faterion penodol sy’n ymwneud â bwyd. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o nodi lefel uchel o bryder am les anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd (35%). Nododd tua 3 o bob 10 o’r ymatebwyr lefel uchel o bryder am fforddiadwyedd bwyd (32%) a diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r DU (31%) (Ffigur 5) (footnote 4).
-
Cwestiwn: Oes gennych chi unrhyw bryderon am y bwyd rydych chi'n ei fwyta? Ymatebion: Oes, Nac oes. Sylfaen = 4786, pob un a wnaeth ymateb ar-lein a’r rheiny a wnaeth gwblhau’r arolwg papur ‘Bwyta Gartref’.
-
Cwestiwn: Beth yw eich pryderon am y bwyd rydych chi'n ei fwyta? Ymatebion: [Testun agored]. Sylfaen = 666, pob ymatebydd a oedd â phryderon am y bwyd maent yn ei fwyta. Pwysig: mae ymatebion ychwanegol ar gael yn y tablau data a’r set ddata lawn. Cafodd yr ymatebion eu codio gan Ipsos – gweler yr Adroddiad Technegol i gael rhagor o fanylion
-
Cwestiwn: A oes gennych chi bryderon am unrhyw un o'r canlynol? Ymatebion: Faint o siwgr sydd mewn bwyd, Gwastraff bwyd, Lles anifeiliaid, Hormonau, steroidau a gwrthfiotigau mewn bwyd, Faint o halen sydd mewn bwyd, Faint o fraster sydd mewn bwyd, Gwenwyn bwyd, Hylendid bwyd wrth fwyta allan, Hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê, Y defnydd o blaladdwyr, Twyll neu droseddau bwyd, Y defnydd o ychwanegion (er enghraifft, cyffeithyddion a lliwiau bwyd), Prisiau bwyd, Bwydydd a addaswyd yn enetig (GM), Halogi cemegol o du’r amgylchedd, Taith bwyd, Nifer y calorïau mewn bwyd, Gwybodaeth am alergenau mewn bwyd, Coginio’n ddiogel gartref, Dim un o’r rhain, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3745, pob un a wnaeth ymateb ar-lein.
-
Cwestiwn: Gan feddwl am fwyd yn y Deyrnas Unedig [amrywiad ar eiriad y cwestiwn yng Ngogledd Iwerddon: yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon] heddiw, pa mor bryderus ydych chi, os o gwbl, am bob un o’r pynciau canlynol? A) Fforddiadwyedd bwyd B) Diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir [yng Nghymru a Lloegr: yn y DU; yng Ngogledd Iwerddon: yn y DU ac Iwerddon] C) Diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i [yng Nghymru a Lloegr: y DU; yng Ngogledd Iwerddon: y DU ac Iwerddon] D) Bwyd a gynhyrchir [yng Nghymru a Lloegr: yn y DU; yng Ngogledd Iwerddon: yn y DU ac Iwerddon] yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label E) Bwyd o’r tu allan i [yng Nghymru a Lloegr: y DU; yng Ngogledd Iwerddon: y DU ac Iwerddon] yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label F) Bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn modd cynaliadwy G) Argaeledd amrywiaeth eang o fwyd H) Lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd I) Cynhwysion ac ychwanegion mewn bwyd J) Bwyd a addaswyd yn enetig (GM). Sylfaen = 3745, pob un a wnaeth ymateb ar-lein. Pwysig: addaswyd geiriad y cwestiwn ar gyfer ymatebwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.