Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme (FHRS) Food and You 2: Wave 6

Pennod 1: Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth yr ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 November 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 November 2023

Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (86%) eu bod wedi clywed am y CSHB. Dywedodd dros hanner (55%) eu bod wedi clywed am y CSHB a’u bod yn gwybod llawer neu ychydig amdano, roedd 31% wedi clywed am y CSHB ond ddim yn gwybod llawer neu ddim byd amdano ac roedd 14% erioed wedi clywed am y CSHB (footnote 1).

Ffigur 1. Ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Gwlad Wedi clywed am y CSHB Erioed wedi clywed am y CSHB
Lloegr 86 14
Cymru 92 8
Gogledd Iwerddon 91 9

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

oedd y rhan fwyaf o ymatebwyr a oedd yn byw yn Lloegr (86%), Cymru (92%), a Gogledd Iwerddon (91%) wedi clywed am yr Cynllun Sgorio (Ffigur 1)**. 

Roedd ymwybyddiaeth o’r CSHB a gwybodaeth amdano’n amrywio fesul gwlad. Roedd ymatebwyr yng Nghymru (69%) a Gogledd Iwerddon (65%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny yn Lloegr (54%). 

Roedd ymwybyddiaeth o’r CSHB a gwybodaeth amdano’n amrywio hefyd fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, dywedodd 62% o’r ymatebwyr yn Swydd Efrog a Humber a 61% o’r rheiny yn Nwyrain Canolbarth Lloegr fod ganddynt rywfaint o wybodaeth am y CSHB o gymharu â 44% yn Llundain.

Ffigur 2. Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gwybodaeth amdano fesul grŵp oedran

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Oedran (blynyddoedd) Wedi clywed am y CSHB ac yn meddu ar ychydig/tipyn o wybodaeth amdano Wedi clywed am y CSHB ond ddim yn gwybod llawer/dim byd amdano Erioed wedi clywed am y CSHB
16-24 45 37 18
25-34 58 31 11
35-44 60 30 10
45-54 60 31 9
55-64 65 23 12
65-79 51 32 17
80+ 33 36 31

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Roedd ymatebwyr rhwng 25 a 64 oed yn fwy tebygol o fod ag o leiaf ychydig yn fwy o wybodaeth am y CSHB na’r rheiny rhwng 16 a 24 oed neu’r rheiny sy’n 80 oed a throsodd. Er enghraifft, dywedodd 65% o’r ymatebwyr rhwng 55 a 64 oed eu bod yn gwybod am y CSHB, o gymharu â 33% o’r rheiny sy’n 80 oed a throsodd (Ffigur 2).

Roedd ymwybyddiaeth o’r CSHB, a gwybodaeth amdano, hefyd yn amrywio rhwng y grwpiau canlynol o bobl: 

  • Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC): roedd ymatebwyr o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 60% o’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na myfyrwyr amser llawn (42%) a’r rheiny a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (31%).
  • Maint cartrefi: roedd y rheiny mewn cartrefi o 3 pherson neu fwy (er enghraifft, 59% o’r ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi â 5 neu fwy o bobl) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn gwybod am y CSHB o gymharu â’r rheiny mewn cartrefi 1 person (47%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (33%). 
  • Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (57%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa am fwyd (34%).  
  • Grŵp ethnig: roedd ymatebwyr gwyn (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB nag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (43%). 

Ffigur 3. Lleoliadau lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Lleoliad Canran yr ymatebwyr (%)
Rhywle arall 6
Ar wefan arall 3
Ar ap arall 5
Hysbyseb neu erthygl mewn cylchgrawn 7
Ar y cyfryngau cymdeithasol 9
Yn y papur newyddion lleol 9
Ar wefan yr ASB 14
Wedi clywed gan rywun 17
Ar wefan neu ap archebu/dosbarthu bwyd 23
Ar wefan busnes bwyd 38
Sticer mewn busnes bwyd 83

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB ymhle roedden nhw wedi dod ar ei draws. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd trwy weld sticer a oedd wedi’i arddangos mewn safle busnes bwyd (83%). Roedd bron i 4 o bob 10 (38%) o’r ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB ar wefan busnes bwyd, roedd 23% wedi dod ar ei draws ar wefan a/neu ap archebu/dosbarthu bwyd (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats), roedd 17% o’r ymatebwyr wedi clywed am y CSHB gan rywun, ac roedd 14% wedi dod ar ei draws ar wefan yr ASB (Ffigur 3) (footnote 2).

Ffigur 4. Y 5 lle mwyaf amlwg lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Lleoliad Lloegr Cymru Gogledd Iwerddon
Ar wefan yr ASB 14 19 15
Wedi clywed gan rywun 17 20 20
Ar wefan neu ap archebu/dosbarthu bwyd 23 24 16
Ar wefan busnes bwyd 38 36 32
Sticer mewn busnes bwyd 82 87 88

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6 

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yng Nghymru (87%), Lloegr (82%) a Gogledd Iwerddon (88%) wedi dod ar draws y CSHB trwy weld sticer ar safle busnes bwyd (Ffigur 4)**. Yr ail leoliad mwyaf cyffredin yr oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB oedd ar wefan busnes bwyd; yng Nghymru (36%), yn Lloegr (38%), ac yng Ngogledd Iwerddon (32%).

Adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i’r ymatebwyr, dywedodd 87% ohonyn nhw eu bod nhw wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn debyg yng Nghymru (91%), Lloegr (87%), a Gogledd Iwerddon (93%)** (footnote 3)

Ffigur 5. Adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd fesul grŵp oedran.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Grŵp oedran Wedi gweld y sticer o’r blaen Erioed wedi gweld y sticer o’r blaen
16-24 90 4
25-34 94 1
35-44 94 3
45-54 93 3
55-64 87 9
65-79 79 15
80+ 57 36

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6 

Roedd yr ymatebwyr hynny o dan 55 oed yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny 80 oed a throsodd. Er enghraifft, dywedodd 94% o’r ymatebwyr rhwng 25 a 34 oed eu bod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd o’u cymharu â 57% o’r ymatebwyr 80 oed a throsodd (Ffigur 5).

Roedd adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd hefyd yn amrywio rhwng y mathau canlynol o bobl: 

  • Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr mewn cartrefi â 2 neu fwy o bobl (er enghraifft, 94% o’r rheiny mewn cartrefi â phedwar person) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi ag un person (76%). 
  • Plant o dan 16 oed yn y cartref: roedd yr ymatebwyr â phlant (o dan 16 oed) yn y cartref (95%) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny heb blant yn y cartref (84%).
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn rhai grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 93% o’r rheiny mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (75%).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm dros £64,000 (er enghraifft, 94% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny ag incwm llai nag £19,000 (84%).

Ffigur 6. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o fusnes bwyd Canran yr ymatebwyr (%)
Ar stondinau marchnad/bwyd stryd 9
Mewn siopau bwyd eraill 13
Mewn ysgolion neu sefydliadau eraill 15
Mewn archfarchnadoedd 18
Mewn gwestai/lletai gwely a brecwast 29
Mewn tafarndai 53
Mewn siopau coffi neu frechdanau 55
Mewn siopau tecawê 69
Mewn caffis 75
Mewn bwytai 83

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle roedden nhw wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gweld y sticer mewn bwytai (83%), mewn caffis (75%) neu mewn siopau tecawê (69%) (Ffigur 6) (footnote 4)

Ffigur 7. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o fusnes Lloegr Cymru Gogledd Iwerddon
Ar stondinau marchnad/bwyd stryd 9 13 8
Mewn siopau bwyd eraill 12 20 13
Mewn ysgolion a sefydliadau eraill 14 24 21
Mewn archfarchnadoedd 17 25 18
Mewn gwestai/lletai gwely a brecwast 27 42 40
Mewn tafarndai 53 72 43
Mewn siopau coffi neu frechdanau 54 70 62
Mewn siopau tecawê 68 77 76
Mewn caffis 74 86 78
Mewn bwytai 83 88 82

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn bwytai yng Nghymru (88%), Lloegr (83%) a Gogledd Iwerddon (82%)**. Roedd ymatebwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn caffis (86%) a siopau coffi neu frechdanau (70%) o gymharu ag ymatebwyr yn Lloegr (caffis 74%, siopau coffi neu frechdanau 54%). Roedd ymatebwyr yng Nghymru (72%) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn tafarndai na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (43%) a Lloegr (53%) (Ffigur 7).