Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 5 Key Findings

Cylch 5: Pennod 2 Pryderon am fwyd

Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023

Cyflwyniad

Gwaith yr ASB, a nodir mewn cyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol. Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon ymatebwyr am fwyd.    

Pryderon cyffredin

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Nid oedd gan y mwyafrif o’r ymatebwyr (80%) unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta, a dim ond 20% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder (footnote 1)

Ffigur 2. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd yn ddigymell

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Math o bryder Canran yr ymatebwyr
Gofynion deietegol (nad ydynt yn ymwneud � gorsensitifrwydd i fwyd) 6
Labelu bwyd 8
Halogi bwyd 11
Tarddiad bwyd 14
Amgylcheddol a moesegol 17
Ansawdd bwyd 20
Maeth ac iechyd 21
Diogelwch bwyd a hylendid bwyd 24
Dulliau cynhyrchu bwyd 25

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2 Cylch 5

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt bryder esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd maent yn ei fwyta. Roedd y pryder mwyaf cyffredin yn ymwneud â dulliau cynhyrchu bwyd (25%), a oedd yn cynnwys defnyddio ychwanegion (fel cyffeithyddion a lliwiau bwyd) mewn cynhyrchion bwyd (11%), defnyddio plaladdwyr a neu/wrtaith i dyfu bwyd (10%), a sut mae bwyd wedi cael ei gynhyrchu neu ei brosesu (5%). Roedd yr ail bryder mwyaf cyffredin yn ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd (24%), a oedd yn cynnwys bwyd yn cael ei goginio / paratoi’n iawn (10%) a diogelwch bwyd (5%) (Ffigur 2) (footnote 2)

Ffigur 3. Y deg pryder mwyaf cyffredin mewn perthynas â bwyd

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Math o bryder Canran yr ymatebwyr
Gwenwyn bwyd 43
Hormonau, steroidau,
gwrthfiotigau mewn bwyd " 46
Faint o halen sydd mewn bwyd 49
Faint o fraster sydd mewn bwyd 50
Hylendid bwyd wrth fwyta allan 50
Hyendid bwyd wrth archebu bwyd tecaw� 51
Lles anifeiliaid 54
Faint o siwgr sydd mewn bwyd 59
Gwastraff bwyd 60
Prisiau bwyd 66

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2 Cylch 5

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt bryderon am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â phrisiau bwyd (66%), gwastraff bwyd (60%), faint o siwgr sydd mewn bwyd (59%) a lles anifeiliaid (54%). Roedd tua hanner yr ymatebwyr yn pryderu am hylendid bwyd wrth archebu o siopau tecawê (51%), hylendid bwyd wrth fwyta allan (50%), faint o fraster sydd mewn bwyd (50%) a faint o halen sydd mewn bwyd (49%) (Ffigur 3)

Ffigur 4. Lefel y pryder am bynciau sy’n ymwneud â bwyd

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Pwnc Ddim yn bryderus o gwbl Ddim yn bryderus iawn Eithaf pryderus Pryderus iawn
Bod amrywiaeth eang o fwyd ar gael 9 36 39 12
Bod bwyd sy'n cael ei werthu yn y DU yn cyd-fynd �'r hyn sydd ar y label 10 37 34 15
Bod bwyd a gynhyrchir yn y DU yn ddiogel ac yn hylan 8 34 34 20
Bwyd a addaswyd yn enetig (GM) 11 24 34 24
Cynrrychion ac ychwanegion mewn bwyd 4 19 49 24
Bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn modd cynaliadwy 4 15 49 27
Bod bwyd o'r tu allan i'r DU yn cyd-fynd �'r hyn sydd ar y label 4 22 43 27
Bod bwyd o'r tu allan i'r DU yn ddiogel ac yn hylan 3 19 44 31
Lles anifeilaid yn y broses cynhyrchu bwyd 4 15 43 33
Fforddiadwyedd bwyd 2 9 39 48

Lawrlwytho’r siart hon

FFynhonnell: Bwyd a Chi 2 Cylch 5

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi i ba raddau roeddent yn pryderu am nifer o faterion penodol sy’n ymwneud â bwyd. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o nodi lefel uchel o bryder am fforddiadwyedd bwyd (48%), lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd (33%) a diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r DU (31%), (Ffigur 4) (footnote 3)

Roedd lefel y pryder am fforddiadwyedd bwyd a nodwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Maint cartrefi: roedd cartrefi â 5 neu fwy o bobl (57%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â chartrefi llai (er enghraifft, 43% o gartrefi 1 person).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â chartrefi ag incwm uwch. Er enghraifft, nododd 54% o’r rheiny ag incwm o dan £19,000 eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â 37% o’r rheiny ag incwm o fwy na £96,000.
  • Rhanbarth (Lloegr) (footnote 4): roedd lefelau pryder ynghylch fforddiadwyedd bwyd yn amrywio fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, roedd ymatebwyr a oedd yn byw yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (59%) a Dwyrain Canolbarth Lloegr (54%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd yn byw yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (43%) a Dwyrain Lloegr (43%).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (77%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd isel (66%) neu ymylol (64%). Y rheiny â diogeledd bwyd uchel oedd lleiaf tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd (39%). 
  • Grŵp ethnig: Roedd yr ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (57%) yn fwy tebygol o nodi lefelau uchel iawn o bryder am fforddiadwyedd bwyd na’r ymatebwyr gwyn (47%).