Cylch 5: Pennod 2 Pryderon am fwyd
Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol.
Cyflwyniad
Gwaith yr ASB, a nodir mewn cyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol. Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon ymatebwyr am fwyd.
Pryderon cyffredin
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Nid oedd gan y mwyafrif o’r ymatebwyr (80%) unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta, a dim ond 20% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder (footnote 1).
Ffigur 2. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd yn ddigymell
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2 Cylch 5
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt bryder esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd maent yn ei fwyta. Roedd y pryder mwyaf cyffredin yn ymwneud â dulliau cynhyrchu bwyd (25%), a oedd yn cynnwys defnyddio ychwanegion (fel cyffeithyddion a lliwiau bwyd) mewn cynhyrchion bwyd (11%), defnyddio plaladdwyr a neu/wrtaith i dyfu bwyd (10%), a sut mae bwyd wedi cael ei gynhyrchu neu ei brosesu (5%). Roedd yr ail bryder mwyaf cyffredin yn ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd (24%), a oedd yn cynnwys bwyd yn cael ei goginio / paratoi’n iawn (10%) a diogelwch bwyd (5%) (Ffigur 2) (footnote 2).
Ffigur 3. Y deg pryder mwyaf cyffredin mewn perthynas â bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2 Cylch 5
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt bryderon am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â phrisiau bwyd (66%), gwastraff bwyd (60%), faint o siwgr sydd mewn bwyd (59%) a lles anifeiliaid (54%). Roedd tua hanner yr ymatebwyr yn pryderu am hylendid bwyd wrth archebu o siopau tecawê (51%), hylendid bwyd wrth fwyta allan (50%), faint o fraster sydd mewn bwyd (50%) a faint o halen sydd mewn bwyd (49%) (Ffigur 3)
Ffigur 4. Lefel y pryder am bynciau sy’n ymwneud â bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
FFynhonnell: Bwyd a Chi 2 Cylch 5
Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi i ba raddau roeddent yn pryderu am nifer o faterion penodol sy’n ymwneud â bwyd. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o nodi lefel uchel o bryder am fforddiadwyedd bwyd (48%), lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd (33%) a diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r DU (31%), (Ffigur 4) (footnote 3).
Roedd lefel y pryder am fforddiadwyedd bwyd a nodwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Maint cartrefi: roedd cartrefi â 5 neu fwy o bobl (57%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â chartrefi llai (er enghraifft, 43% o gartrefi 1 person).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â chartrefi ag incwm uwch. Er enghraifft, nododd 54% o’r rheiny ag incwm o dan £19,000 eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â 37% o’r rheiny ag incwm o fwy na £96,000.
- Rhanbarth (Lloegr) (footnote 4): roedd lefelau pryder ynghylch fforddiadwyedd bwyd yn amrywio fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, roedd ymatebwyr a oedd yn byw yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (59%) a Dwyrain Canolbarth Lloegr (54%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd yn byw yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (43%) a Dwyrain Lloegr (43%).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (77%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd isel (66%) neu ymylol (64%). Y rheiny â diogeledd bwyd uchel oedd lleiaf tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd (39%).
- Grŵp ethnig: Roedd yr ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (57%) yn fwy tebygol o nodi lefelau uchel iawn o bryder am fforddiadwyedd bwyd na’r ymatebwyr gwyn (47%).
-
Cwestiwn: Oes gennych chi unrhyw bryderon am y bwyd rydych chi’n ei fwyta? Ymatebion: Oes, Nac oes. Sylfaen = 6770, pawb a ymatebodd.
-
Cwestiwn: Beth yw eich pryderon am y bwyd rydych chi’n ei fwyta? Ymatebion: [Testun agored]. Sylfaen = 1346, pawb a ymatebodd a oedd â phryderon am y bwyd maent yn ei fwyta. Pwysig: mae ymatebion ychwanegol ar gael yn y tablau data a’r set ddata lawn. Cafodd yr ymatebion eu codio gan Ipsos, gweler yr Adroddiad Technegol i gael rhagor o fanylion.
-
Cwestiwn: Gan feddwl am fwyd yn y DU [geiriad y cwestiwn i amrywio yng Ngogledd Iwerddon: y DU ac Iwerddon] heddiw, pa mor bryderus ydych chi, os o gwbl am y pynciau canlynol? a) fforddiadwyedd bwyd b) diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir [yng Nghymru a Lloegr: yn y DU; yng Ngogledd Iwerddon: yn y DU ac Iwerddon] c) diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r [yng Nghymru a Lloegr: DU; yng Ngogledd Iwerddon: DU ac Iwerddon] d) bwyd a gynhyrchir [yng Nghymru a Lloegr: yn y DU; yng Ngogledd Iwerddon: yn y DU ac Iwerddon] yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label e) bwyd o’r tu allan i’r [yng Nghymru a Lloegr: DU; yng Ngogledd Iwerddon: DU ac Iwerddon] yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label f) bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn modd cynaliadwy g) argaeledd amrywiaeth eang o fwyd h) lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd i) cynhwysion ac ychwanegion mewn bwyd j) bwyd a addaswyd yn enetig (GM). Sylfaen = 4041, pawb a ymatebodd ar-lein. Pwysig: addaswyd geiriad y cwestiwn ar gyfer ymatebwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
-
Dim ond yn Lloegr yr ystyriwyd gwahaniaethau rhanbarthol oherwydd y maint sylfaen isel yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.