Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 5 Key Findings

Cylch 5: Pennod 1 Bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023

Cyflwyniad

Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB yw system fwyd sy’n bodloni’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd. 

Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd 

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd (er enghraifft, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus). Dywedodd 91% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maent ei brynu yn ddiogel i’w fwyta; a dywedodd 86% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir (footnote 1).

Roedd hyder o ran diogelwch bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • NS-SEC (footnote 2): roedd yr ymatebwyr mewn rhai grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 95% o gyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd maent yn ei brynu yn ddiogel i’w fwyta na’r ymatebwyr a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (77%). 

Roedd hyder yng nghywirdeb yr wybodaeth ar labeli bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm dros £96,000 (93%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny ag incwm llai na £19,000 (83%). 
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (90%) yn fwy tebygol o nodi hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd isel (80%) neu isel iawn (77%). Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr â diogeledd bwyd ymylol (86%) yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd.
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (89%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (78%).

Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd 

Dywedodd tua thri chwarter o’r ymatebwyr (74%) fod ganddynt hyder (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd (footnote 3)

Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 55 a 79 oed (er enghraifft 80% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd nag oedolion iau (er enghraifft, 69% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed). 
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is (82%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddu a phroffesiynol (72%), myfyrwyr amser llawn (72%) a’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (68%). 
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (77%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (67%).
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (77%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (67%). 

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

Roedd y rhan fwyaf (91%) o’r ymatebwyr wedi clywed am yr ASB (footnote 4)

Roedd ymwybyddiaeth o’r ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r ymatebwyr iau. Er enghraifft, dywedodd 97% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu â 77% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed.
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm dros £32,000 (er enghraifft, 97% o’r rheiny ag incwm rhwng £32,000 a £63,999) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu â’r rheiny ag incwm llai nag £19,000 (82%). 
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 96% o gyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â myfyrwyr amser llawn (73%).
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (94%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (77%). 
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am goginio (92%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydynt yn coginio (81%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa am fwyd (92%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa am fwyd (77%).
  • Ffigur 1. Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd

    Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
    Datganiad Canran yr ymatebwyr (%)
    Dydw i erioed wedi
    clywed am yr ASB " 6
    Doeddwn i ddim wedi clywed
    am yr ASB nes i mi gael
    gwahoddiad i gymryd
    rhan yn yr arolwg hwn" 6
    Rwyf wedi clywed am yr
    ASB ond dydw i ddim yn
    gwybod dim amdani " 34
    Rwy�n gwybod ychydig
    am yr ASB a�i gwaith
    ,48
    Rwy�n gwybod llawer
    am yr ASB a�i gwaith " 7

    Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell Bwyd a Chi 2: Cylch 5

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB; dywedodd 7% eu bod yn gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith; a dywedodd 48% eu bod yn gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith. Dywedodd tua thraean (34%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am yr ASB ond nad oeddent yn gwybod unrhyw beth amdani; dywedodd 6% nad oeddent wedi clywed am yr ASB cyn iddynt gael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2; a dywedodd 6% nad oeddent erioed wedi clywed am yr ASB (Ffigur 1) (footnote 5).  

Roedd gwybodaeth am yr ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 35 a 79 oed (er enghraifft, 65% o’r rheiny rhwng 45 a 54 oed) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu â’r ymatebwyr iau (39% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed) neu’r ymatebwyr hynaf (44% o’r rheiny 80 oed a hŷn). 
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r rheiny ag incwm is. Er enghraifft, dywedodd 67% o’r ymatebwyr ag incwm o fwy na £96,000 eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â 50% o’r rheiny ag incwm llai na £19,000. 
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (63%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd (48%) neu alwedigaethau gwaith lled-ailadroddus ac ailadroddus (47%). Y rheiny a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oeddent erioed wedi gweithio (36%) neu fyfyrwyr amser llawn (34%) oedd lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB.
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (41%). 
  • Gorsensitifrwydd i fwyd: roedd yr ymatebwyr ag anoddefiad bwyd (65%) neu alergedd bwyd (64%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr nad oedd ganddynt orsensitifrwydd i fwyd (54%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am goginio (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r rheiny nad ydynt yn coginio (37%). 
  • Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa (37%). 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB i ba raddau maent ymddiried ynddi i gyflawni ei gwaith, sef sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dywedodd 75% o’r ymatebwyr hyn eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud hyn (footnote 6)

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r adran lywodraethol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd) (80%); eu bod yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd ynghylch risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (76%); a’u bod yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol pan gaiff risg sy’n gysylltiedig â bwyd ei nodi (80%) (footnote 7)