Cylch 5: Pennod 1 Bwyd y gallwch ymddiried ynddo
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.
Cyflwyniad
Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB yw system fwyd sy’n bodloni’r gosodiadau canlynol:
- Mae bwyd yn ddiogel
- Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
- Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.
Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd (er enghraifft, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus). Dywedodd 91% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maent ei brynu yn ddiogel i’w fwyta; a dywedodd 86% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir (footnote 1).
Roedd hyder o ran diogelwch bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- NS-SEC (footnote 2): roedd yr ymatebwyr mewn rhai grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 95% o gyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd maent yn ei brynu yn ddiogel i’w fwyta na’r ymatebwyr a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (77%).
Roedd hyder yng nghywirdeb yr wybodaeth ar labeli bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm dros £96,000 (93%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny ag incwm llai na £19,000 (83%).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (90%) yn fwy tebygol o nodi hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd isel (80%) neu isel iawn (77%). Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr â diogeledd bwyd ymylol (86%) yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd.
- Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (89%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (78%).
Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd
Dywedodd tua thri chwarter o’r ymatebwyr (74%) fod ganddynt hyder (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd (footnote 3).
Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 55 a 79 oed (er enghraifft 80% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd nag oedolion iau (er enghraifft, 69% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed).
- NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is (82%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddu a phroffesiynol (72%), myfyrwyr amser llawn (72%) a’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (68%).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (77%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (67%).
- Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (77%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (67%).
Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi
Roedd y rhan fwyaf (91%) o’r ymatebwyr wedi clywed am yr ASB (footnote 4).
Roedd ymwybyddiaeth o’r ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r ymatebwyr iau. Er enghraifft, dywedodd 97% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu â 77% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed.
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm dros £32,000 (er enghraifft, 97% o’r rheiny ag incwm rhwng £32,000 a £63,999) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu â’r rheiny ag incwm llai nag £19,000 (82%).
- NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 96% o gyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â myfyrwyr amser llawn (73%).
- Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (94%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (77%).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am goginio (92%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydynt yn coginio (81%).
- Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa am fwyd (92%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa am fwyd (77%).
-
Ffigur 1. Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell Bwyd a Chi 2: Cylch 5
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB; dywedodd 7% eu bod yn gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith; a dywedodd 48% eu bod yn gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith. Dywedodd tua thraean (34%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am yr ASB ond nad oeddent yn gwybod unrhyw beth amdani; dywedodd 6% nad oeddent wedi clywed am yr ASB cyn iddynt gael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2; a dywedodd 6% nad oeddent erioed wedi clywed am yr ASB (Ffigur 1) (footnote 5).
Roedd gwybodaeth am yr ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 35 a 79 oed (er enghraifft, 65% o’r rheiny rhwng 45 a 54 oed) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu â’r ymatebwyr iau (39% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed) neu’r ymatebwyr hynaf (44% o’r rheiny 80 oed a hŷn).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r rheiny ag incwm is. Er enghraifft, dywedodd 67% o’r ymatebwyr ag incwm o fwy na £96,000 eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â 50% o’r rheiny ag incwm llai na £19,000.
- NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (63%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd (48%) neu alwedigaethau gwaith lled-ailadroddus ac ailadroddus (47%). Y rheiny a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oeddent erioed wedi gweithio (36%) neu fyfyrwyr amser llawn (34%) oedd lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB.
- Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (41%).
- Gorsensitifrwydd i fwyd: roedd yr ymatebwyr ag anoddefiad bwyd (65%) neu alergedd bwyd (64%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr nad oedd ganddynt orsensitifrwydd i fwyd (54%).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am goginio (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r rheiny nad ydynt yn coginio (37%).
- Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa (37%).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB i ba raddau maent ymddiried ynddi i gyflawni ei gwaith, sef sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dywedodd 75% o’r ymatebwyr hyn eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud hyn (footnote 6).
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r adran lywodraethol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd) (80%); eu bod yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd ynghylch risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (76%); a’u bod yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol pan gaiff risg sy’n gysylltiedig â bwyd ei nodi (80%) (footnote 7).
-
Cwestiwn: Pa mor hyderus ydych chi… a) bod y bwyd rydych yn ei brynu yn ddiogel i’w fwyta. b) bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir (er enghraifft, cynhwysion, gwybodaeth am faeth, gwlad tarddiad). Ymatebion: yn hyderus iawn, yn eithaf hyderus, ddim yn hyderus iawn, ddim yn hyderus o gwbl, mae’n amrywio, ddim yn gwybod. Sylfaen= 6770, pawb a ymatebodd.
-
System ddosbarthu yw Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC), sy’n awgrymu sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolion ar sail galwedigaeth a statws cyflogaeth.
[1] Cwestiwn: Pa mor hyderus ydych chi yn y gadwyn cyflenwi bwyd? Hynny yw, yr holl brosesau sy’n gysylltiedig â dod â bwyd i’ch bwrdd. Ymatebion: yn hyderus iawn, yn eithaf hyderus, ddim yn hyderus iawn, ddim yn hyderus o gwbl, mae’n amrywio, ddim yn gwybod. Sylfaen= 6770, pawb a ymatebodd.
-
Cwestiwn: Pa mor hyderus ydych chi yn y gadwyn cyflenwi bwyd? Hynny yw, yr holl brosesau sy’n gysylltiedig â dod â bwyd i’ch bwrdd. Ymatebion: yn hyderus iawn, yn eithaf hyderus, ddim yn hyderus iawn, ddim yn hyderus o gwbl, mae’n amrywio, ddim yn gwybod. Sylfaen= 6770, pawb a ymatebodd.
-
Cwestiwn: Pa rai o’r cyrff canlynol, os o gwbl, ydych chi wedi clywed amdanynt? Dewiswch bob un sy’n berthnasol. Ymateb: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), (Lloegr) Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE), (Lloegr) Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), (Lloegr) Y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau, (Lloegr) Asiantaeth yr Amgylchedd, (Cymru a Lloegr) Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), (Cymru) Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW), (Cymru) Cyfoeth Naturiol Cymru, (Gogledd Iwerddon) Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd (PHA), (Gogledd Iwerddon) Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA), (Gogledd Iwerddon) Gweithrediaeth Iechyd a Diogelwch Gogledd Iwerddon (HSENI), (Gogledd Iwerddon) Safefood. Dim un o’r rhain. Sylfaen = 4041, pawb a ymatebodd ar-lein. Pwysig: Roedd yr holl ddefnyddwyr a gymerodd ran yn yr arolwg wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg gan Ipsos, a wnaeth grybwyll yr ASB. Mae diffyg ymateb yn dangos nad oedd yr ymatebydd wedi clywed am y sefydliad neu nad oedd wedi ateb y cwestiwn.
-
Cwestiwn: Faint, os o gwbl, ydych chi’n ei wybod am yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a adwaenir hefyd fel yr ASB? Ymateb: Rwy’n gwybod llawer am yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’i gwaith, Rwy’n gwybod ychydig am yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’i gwaith, Rwyf wedi clywed am yr ASB ond dydw i ddim yn gwybod dim amdani, Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ASB nes i mi gael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, Dydw i erioed wedi clywed am yr ASB. Sylfaen= 6770, pawb a ymatebodd. Pwysig: Roedd yr holl ddefnyddwyr a gymerodd ran yn yr arolwg wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg, a wnaeth grybwyll yr ASB.
-
Cwestiwn: I ba raddau ydych chi’n ymddiried yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ai peidio, i gyflawni ei gwaith? Hynny yw, sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Ymatebion: Rydw i’n ymddiried yn fawr ynddi, Rydw i’n ymddiried ynddi, Dydw i ddim yn ymddiried ynddi y naill ffordd neu’r llall, Dydw i ddim yn ymddiried ynddi, Dydw i ddim yn ymddiried ynddi o gwbl, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3930, pawb a ymatebodd a oedd yn gwybod llawer neu ychydig am yr ASB a’i gwaith. Pwysig: Cyfeirir at ‘Rydw i’n ymddiried yn fawr ynddi’ ac ‘Rydw i’n ymddiried ynddi’ fel ‘ymddiried’.
-
Cwestiwn: Wrth feddwl am yr Asiantaeth Safonau Bwyd / asiantaeth y llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, pa mor hyderus ydych chi...a) y gellir dibynnu arni i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n ymwneud â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd). b) ei bod wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd. c) ei bod yn cymryd camau priodol os nodir risg sy’n gysylltiedig â bwyd? Ymatebion: yn hyderus iawn, yn eithaf hyderus, ddim yn hyderus iawn, ddim yn hyderus o gwbl, ddim yn gwybod. Sylfaen= 6770, pawb a ymatebodd. Pwysig: Cyfeirir at ymatebwyr ‘hyderus iawn’ ac ‘eithaf hyderus’ fel rhai ‘hyderus’. Holwyd ymatebwyr a oedd yn gwybod ychydig, neu ddim o gwbl, am yr ASB ynghylch ‘yr adran lywodraethol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd’; holwyd y rheiny a oedd yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB ynghylch yr ASB.