Bwyd a Chi 2, Cylch 8: Pennod 3 – Diogeledd bwyd
Mae’r bennod hon yn adrodd am lefelau diogeledd bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a sut roedd diogeledd bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl.
Cyflwyniad
Mae’r bennod hon yn adrodd am lefelau diogeledd bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a sut roedd diogeledd bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl.
“Mae diogeledd bwyd yn bodoli pan fydd gan bawb, ar bob adeg, fynediad ffisegol ac economaidd at fwyd digonol, diogel a maethlon sy’n bodloni eu hanghenion deietegol a’u dewisiadau bwyd ar gyfer byw bywyd bywiog ac iach.” Uwchgynhadledd Bwyd y Byd, 1996.
Mae Bwyd a Chi 2 yn defnyddio Modiwl Arolwg Diogeledd Bwyd Oedolion yr Unol Daleithiau a ddatblygwyd gan Adran Amaeth yr Unol Daleithiau (USDA) i fesur statws diogeledd bwyd defnyddwyr.
Mae’r ymatebwyr yn cael eu neilltuo i un o’r categorïau statws diogeledd bwyd canlynol:
- Uchel: dim arwyddion o broblemau na chyfyngiadau o ran mynediad at fwyd.
- Diogeledd bwyd ymylol: un neu ddau o arwyddion wedi’u nodi – fel arfer, pryder o ran a oes digon o fwyd neu brinder bwyd yn y tŷ. Ychydig neu ddim arwydd o newidiadau mewn deietau neu gymeriant bwyd.
- Isel: adroddiadau bod ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb deiet wedi gostwng. Ychydig neu ddim arwydd o gymeriant bwyd is.
- Isel iawn: adroddiadau o arwyddion lluosog o darfu ar batrymau bwyta a chymeriant bwyd is.
Cyfeirir at y rhai sydd â lefelau uchel neu ymylol o ddiogeledd bwyd fel rhai sydd â diogeledd bwyd. Cyfeirir at bobl â lefelau isel neu isel iawn o ddiogeledd bwyd fel rhai â diffyg diogeledd bwyd.
Ceir rhagor o wybodaeth am sut y caiff diogeledd bwyd ei fesur, a sut y caiff dosbarthiadau eu neilltuo a’u diffinio, yn Atodiad A, ac ar wefan Diogeledd Bwyd yr USDA.
Diogeledd bwyd
Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd 76% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diogeledd bwyd (60% â diogeledd bwyd uchel, 16% â diogeledd bwyd ymylol), a chafodd 24% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diffyg diogeledd bwyd (11% â diogeledd bwyd isel, 13% â diogeledd bwyd isel iawn). (footnote 1)
Ffigur 5. Diogeledd bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd tua thri chwarter yr ymatebwyr â diogeledd bwyd (hynny yw, roedd ganddyn nhw lefel uchel neu ymylol o ddiogeledd bwyd) yng Nghymru (73%), Lloegr (77%) a Gogledd Iwerddon (73%). Roedd gan oddeutu chwarter yr ymatebwyr ddiffyg diogeledd bwyd (hynny yw, roedd ganddyn nhw lefel isel neu isel iawn o ddiogeledd bwyd) yng Nghymru (27%), Lloegr (23%) a Gogledd Iwerddon (27%) (Ffigur 5).
Profiadau o ddiffyg diogeledd bwyd
Gofynnwyd hyd at ddeg cwestiwn i’r ymatebwyr o Fodiwl Arolwg Diogeledd Bwyd Oedolion UDA (footnote 2), a hynny er mwyn pennu eu dosbarthiad diogeledd bwyd.
Gofynnwyd y tri chwestiwn cyntaf o’r modiwl arolwg diogeledd bwyd i’r holl ymatebwyr. Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, roedden nhw wedi profi unrhyw un o’r canlynol yn ystod y 12 mis blaenorol:
- Roeddwn i/roedden ni’n poeni y byddai ein bwyd yn dod i ben cyn i ni gael arian i brynu rhagor
- Ni wnaeth y bwyd a brynais i/brynom ni bara, ac nid oedd gen i/gennym ni arian i gael mwy
- Nid oeddwn i/oedden ni’n gallu fforddio bwyta prydau cytbwys
Ffigur 6. Profiadau o ddiogeledd bwyd yn ôl dosbarthiad diogeledd bwyd.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Yn seiliedig ar y 12 mis blaenorol:
- Dywedodd 98% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn, a 93% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel eu bod yn poeni a fyddai bwyd yn dod i ben cyn iddyn nhw gael arian i brynu mwy, wrth i 61% o’r rheiny â diogeledd bwyd ymylol ddweud eu bod yn poeni am hyn.
- Roedd 97% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn, ac 82% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel yn poeni nad oedd y bwyd a brynwyd ganddyn nhw’n para, ac nad oedd ganddyn nhw arian i gael mwy. Roedd llai na chwarter (22%) y rheiny â diogeledd bwyd ymylol yn poeni am hyn.
- Dywedodd 97% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn, ac 88% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel na allen nhw fforddio bwyta prydau cytbwys.
- Dywedodd hanner (50%) y rheiny â diogeledd bwyd ymylol fod hyn yn wir amdanyn nhw.
- Dywedodd yr ymatebwyr â lefelau uchel o ddiogeledd bwyd nad oedden nhw wedi cael unrhyw un o’r profiadau hyn yn ystod y 12 mis diwethaf (Ffigur 6).
Sut mae diogeledd bwyd yn amrywio rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a demograffig
Ffigur 7. Diogeledd bwyd yn ôl grŵp oedran
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd diogeledd bwyd yn amrywio yn ôl grŵp oedran gydag oedolion hŷn yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw ddiogeledd bwyd ac yn llai tebygol o ddweud bod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd nag oedolion iau. Er enghraifft, roedd 40% o’r ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed â diffyg diogeledd bwyd (18% isel, 22% isel iawn) o gymharu â 6% o’r rheiny 75 oed a hŷn (4% isel, 2% isel iawn) (Ffigur 7).
Ffigur 8. Diogeledd bwyd yn ôl incwm y cartref
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd diogeledd bwyd yn gysylltiedig ag incwm y cartref. Roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd na’r rheiny ag incwm uwch. Er enghraifft, nododd 54% o’r rheiny ag incwm cartref blynyddol o lai nag £19,000 ddiffyg diogeledd bwyd (19% isel, 35% isel iawn) o gymharu â 7% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 (6% isel, llai na 0.5% isel iawn) (Ffigur 8).
Ffigur 9. Diogeledd bwyd yn ôl dosbarthiad economaidd-gymdeithasol (NS-SEC)
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd yr ymatebwyr a oedd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (50%), myfyrwyr amser llawn (52%), a’r rheiny mewn galwedigaethau gwaith ailadroddus a lled-ailadroddus (36%) yn fwy tebygol o nodi nad oedd ganddyn nhw ddiogeledd bwyd o gymharu â’r rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol eraill (er enghraifft 17% o’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol) (Ffigur 9). (footnote 3)
Roedd lefel y diffyg diogeledd bwyd a nodwyd hefyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Maint y cartref: roedd cartrefi â 5 neu fwy o bobl (34%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â’r rheiny mewn cartrefi â 2 neu lai o bobl (19% mewn cartrefi â dau berson, 23% mewn cartrefi ag un person).
- Plant dan 16 oed yn y cartref: Dywedodd 31% o’r cartrefi â phlant dan 16 oed fod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â 21% o’r cartrefi heb blant o dan 16 oed.
- Plant dan 6 oed yn y cartref: Dywedodd 37% o’r cartrefi â phlant dan 6 oed fod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â 22% o’r cartrefi heb blant dan 6 oed.
- Grŵp ethnig: Dywedodd 33% o’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig fod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â 21% o’r ymatebwyr gwyn. (footnote 4)
- Cyflwr iechyd hirdymor: Roedd yr ymatebwyr a oedd â chyflwr iechyd hirdymor (33%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â’r rheiny heb gyflwr iechyd hirdymor (19%).
- Rhanbarth (Lloegr) (footnote 5): Roedd yr ymatebwyr sy’n byw yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (31%), Swydd Efrog a’r Humber (27%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (33%) yn fwy tebygol o ddweud nad oes ganddyn nhw ddiogeledd bwyd na’r rheiny yn Llundain (17%) a De-ddwyrain Lloegr (18%).
Defnyddio banciau bwyd
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw, neu unrhyw un arall yn eu cartref, wedi cael parsel bwyd am ddim gan fanc bwyd neu ddarparwr bwyd brys arall yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (94%) nad oedden nhw wedi defnyddio banc bwyd neu ddarparwr bwyd brys arall yn ystod y 12 mis diwethaf; nododd 4% o’r ymatebwyr eu bod wedi defnyddio un o’r rhain. (footnote 6)
-
Cwestiwn/Ymatebion: Newidyn deilliedig, gweler canllawiau’r USDA ar Ddiogeledd Bwyd a’r Adroddiad Technegol. Sylfaen = 5808, pawb a ymatebodd. Sylwer: Gweler Atodiad A am wybodaeth am ddosbarthiadau a diffiniadau o lefelau diogeledd bwyd.
-
Gweler canllawiau Diogeledd Bwyd USDA i gael mwy o wybodaeth am yr arolwg a’r dosbarthiadau.
-
System ddosbarthu yw Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sy’n awgrymu sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolion ar sail statws cyflogaeth a galwedigaeth.
-
Sylwer: nid adroddir am ffigurau grwpiau ethnig eraill oherwydd maint sylfaen / sampl isel.
-
Dim ond yn Lloegr yr ystyriwyd gwahaniaethau rhanbarthol oherwydd bod maint sampl/sylfaen isel yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
-
Cwestiwn: Yn ystod y 12 mis diwethaf, ydych chi, neu unrhyw un arall yn eich cartref, wedi cael parsel bwyd am ddim gan fanc bwyd neu ddarparwr bwyd brys arall? Ymatebion: Ydw/Ydyn, Nac ydw/Nac ydyn, Mae’n well gennyf/gennym beidio â dweud. Sylfaen = 5808, pawb a ymatebodd.