Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 8 Key Findings

Bwyd a Chi 2, Cylch 8: Pennod 1 – Bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r Asiantaeth Safonau Bwyd a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 October 2024

Cyflwyniad

Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB yw system fwyd sy’n bodloni’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth yr ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.

Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd 

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus). Dywedodd 90% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta; a dywedodd 82% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir. (footnote 1)

Roedd hyder o ran diogelwch bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta o gymharu â’r rhai a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 94% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu ag 82% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).
  • Rhanbarthau (Lloegr): roedd yr ymatebwyr yng Ngogledd-orllewin Lloegr (95%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta o gymharu â’r rheiny yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (85%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (85%).

Roedd hyder yng nghywirdeb yr wybodaeth ar labeli bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm is, (er enghraifft, 90% o’r rheiny ag incwm o £96,000 o gymharu â 78% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000). 
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 87% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu â 71% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn). 
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (84%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (72%). (footnote 2)

Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd

Dywedodd bron i dri chwarter o’r ymatebwyr (72%) fod ganddyn nhw hyder (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n weddol hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd. (footnote 3)

Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Rhywedd: roedd dynion (76%) yn fwy hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â menywod (68%)**.
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 76% o’r rheiny mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is ac 81% o’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â myfyrwyr amser llawn (57%).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 76% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu â 66% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (75%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (60%). (footnote 4)

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

Ymwybyddiaeth o’r ASB

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (90%) wedi clywed am yr ASB. (footnote 5)

Roedd ymwybyddiaeth o’r ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol na’r ymatebwyr iau o fod wedi clywed am yr ASB (er enghraifft, roedd 97% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed wedi clywed am yr ASB o gymharu â 78% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed).
  • Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr mewn cartrefi â rhwng 1 a 4 preswylydd (er enghraifft, 92% o’r rheiny mewn cartref o 1) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r ymatebwyr mewn cartrefi â 5 neu fwy o breswylwyr (79%).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 (96%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000 (84%).
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 93% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na myfyrwyr amser llawn (69%).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r ymatebwyr a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 95% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu ag 84% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (93%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (77%). (footnote 6)
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (91%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (72%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (91%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw byth yn siopa am fwyd (80%).

Ffigur 1. Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)

Ffigur 1. Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
 Canran yr ymatebwyr (%)
Dydw i erioed wedi clywed am yr ASB 6
Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ASB nes i mi gael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg hwn 6
Rwy wedi clywed am yr ASB ond dydw i ddim yn gwybod dim amdani 32
Rwy’n gwybod ychydig am yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’i gwaith 49
Rwy’n gwybod llawer am yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’i gwaith 7

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB; dywedodd 7% eu bod yn gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith; a dywedodd 49% eu bod yn gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith. Dywedodd bron i draean (32%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am yr ASB ond nad oedden nhw’n gwybod dim byd amdani, dywedodd 6% nad oedden nhw wedi clywed am yr ASB cyn iddyn nhw gael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2, a dywedodd 6% nad oedden nhw erioed wedi clywed am yr ASB (Ffigur 1). (footnote 7)

Ymddiriedaeth a hyder yn yr ASB

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd ag o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB i ba raddau roedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, hynny yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dywedodd y rhan fwyaf (72%) o’r ymatebwyr eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, nid oedd 23% o’r ymatebwyr yn ymddiried ynddi y naill ffordd na’r llall i wneud ei gwaith, a dywedodd 2% o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith. (footnote 8)

Dywedodd y rhan fwyaf (79%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r asiantaeth o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd). Roedd dros dri chwarter (78%) o’r ymatebwyr yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol os nodir risg sy’n gysylltiedig â bwyd, ac roedd 72% yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd. (footnote 9)