Bwyd a Chi 2, Cylch 8: Pennod 1 – Bwyd y gallwch ymddiried ynddo
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r Asiantaeth Safonau Bwyd a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.
Cyflwyniad
Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB yw system fwyd sy’n bodloni’r gosodiadau canlynol:
- Mae bwyd yn ddiogel
- Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
- Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth yr ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.
Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus). Dywedodd 90% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta; a dywedodd 82% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir. (footnote 1)
Roedd hyder o ran diogelwch bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta o gymharu â’r rhai a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 94% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu ag 82% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).
- Rhanbarthau (Lloegr): roedd yr ymatebwyr yng Ngogledd-orllewin Lloegr (95%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta o gymharu â’r rheiny yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (85%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (85%).
Roedd hyder yng nghywirdeb yr wybodaeth ar labeli bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm is, (er enghraifft, 90% o’r rheiny ag incwm o £96,000 o gymharu â 78% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 87% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu â 71% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).
- Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (84%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (72%). (footnote 2)
Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd
Dywedodd bron i dri chwarter o’r ymatebwyr (72%) fod ganddyn nhw hyder (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n weddol hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd. (footnote 3)
Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Rhywedd: roedd dynion (76%) yn fwy hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â menywod (68%)**.
- NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 76% o’r rheiny mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is ac 81% o’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â myfyrwyr amser llawn (57%).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 76% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu â 66% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).
- Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (75%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (60%). (footnote 4)
Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi
Ymwybyddiaeth o’r ASB
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (90%) wedi clywed am yr ASB. (footnote 5)
Roedd ymwybyddiaeth o’r ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol na’r ymatebwyr iau o fod wedi clywed am yr ASB (er enghraifft, roedd 97% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed wedi clywed am yr ASB o gymharu â 78% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed).
- Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr mewn cartrefi â rhwng 1 a 4 preswylydd (er enghraifft, 92% o’r rheiny mewn cartref o 1) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r ymatebwyr mewn cartrefi â 5 neu fwy o breswylwyr (79%).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 (96%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000 (84%).
- NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 93% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na myfyrwyr amser llawn (69%).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r ymatebwyr a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 95% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu ag 84% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).
- Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (93%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (77%). (footnote 6)
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (91%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (72%).
- Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (91%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw byth yn siopa am fwyd (80%).
Ffigur 1. Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB; dywedodd 7% eu bod yn gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith; a dywedodd 49% eu bod yn gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith. Dywedodd bron i draean (32%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am yr ASB ond nad oedden nhw’n gwybod dim byd amdani, dywedodd 6% nad oedden nhw wedi clywed am yr ASB cyn iddyn nhw gael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2, a dywedodd 6% nad oedden nhw erioed wedi clywed am yr ASB (Ffigur 1). (footnote 7)
Ymddiriedaeth a hyder yn yr ASB
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd ag o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB i ba raddau roedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, hynny yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dywedodd y rhan fwyaf (72%) o’r ymatebwyr eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, nid oedd 23% o’r ymatebwyr yn ymddiried ynddi y naill ffordd na’r llall i wneud ei gwaith, a dywedodd 2% o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith. (footnote 8)
Dywedodd y rhan fwyaf (79%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r asiantaeth o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd). Roedd dros dri chwarter (78%) o’r ymatebwyr yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol os nodir risg sy’n gysylltiedig â bwyd, ac roedd 72% yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd. (footnote 9)
-
Cwestiwn: Pa mor hyderus ydych chi… a) bod y bwyd rydych yn ei brynu yn ddiogel i’w fwyta, b) bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir (er enghraifft, cynhwysion, gwybodaeth am faeth, gwlad tarddiad)? Ymatebion: Yn hyderus iawn, Yn eithaf hyderus, Ddim yn hyderus iawn, Ddim yn hyderus o gwbl, Mae’n amrywio, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 5808, pawb a ymatebodd.
-
Sylwer: nid adroddir am ffigurau grwpiau ethnig eraill oherwydd maint sylfaen / sampl isel.
-
Cwestiwn: Pa mor hyderus ydych chi yn y gadwyn cyflenwi bwyd? Hynny yw, yr holl brosesau sy’n gysylltiedig â dod â bwyd at eich bwrdd. Ymatebion: Yn hyderus iawn, Yn eithaf hyderus, Ddim yn hyderus iawn, Ddim yn hyderus o gwbl, Mae’n amrywio, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 5808, pawb a ymatebodd.
-
Sylwer: nid adroddir am ffigurau grwpiau ethnig eraill oherwydd maint sylfaen / sampl isel.
-
Cwestiwn: Pa rai o’r cyrff canlynol, os unrhyw rai, ydych chi wedi clywed amdanynt? Dewiswch bob un sy’n berthnasol. Ymatebion: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), (Lloegr) Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), (Lloegr) Y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau, (Lloegr) Asiantaeth yr Amgylchedd, (Lloegr) Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, (Cymru a Lloegr) Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), (Cymru) Iechyd Cyhoeddus Cymru, (Cymru) Cyfoeth Naturiol Cymru, (Gogledd Iwerddon) Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd (PHA), (Gogledd Iwerddon) Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA), (Gogledd Iwerddon) Gweithrediaeth Iechyd a Diogelwch Gogledd Iwerddon (HSENI), (Gogledd Iwerddon) Safefood, Dim un o’r rhain. Sylfaen = 3915, pawb a ymatebodd ar-lein. Sylwer: Roedd yr holl ddefnyddwyr a gymerodd ran yn yr arolwg wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg a oedd yn sôn am yr ASB. Mae diffyg ymateb yn dangos nad oedd yr ymatebydd wedi clywed am y sefydliad neu nad oedd wedi ateb y cwestiwn.
-
Sylwer: nid adroddir am ffigurau grwpiau ethnig eraill oherwydd maint sylfaen / sampl isel.
-
Cwestiwn: Faint, os o gwbl, ydych chi’n ei wybod am yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a adwaenir hefyd fel yr ASB? Ymatebion: Rwy’n gwybod llawer am yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’i gwaith, Rwy’n gwybod ychydig am yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’i gwaith, Rwy wedi clywed am yr ASB ond dydw i ddim yn gwybod dim amdani, Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ASB nes i mi gael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, Dydw i erioed wedi clywed am yr ASB. Sylfaen = 5808, pawb a ymatebodd. Sylwer: Roedd yr holl ddefnyddwyr a gymerodd ran yn yr arolwg wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg a oedd yn sôn am yr ASB.
-
Cwestiwn: I ba raddau rydych chi’n ymddiried yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd i wneud ei gwaith? Hynny yw, sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Ymatebion: Rwy’n ymddiried ynddi’n fawr, Rwy’n ymddiried ynddi, Dydw i ddim yn ymddiried ynddi y naill ffordd na’r llall, Dydw i ddim yn ymddiried ynddi, Dydw i ddim yn ymddiried ynddi o gwbl, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3506, yr holl ymatebwyr a oedd yn gwybod llawer neu ychydig am yr ASB a’i gwaith. Sylwer: mae’r atebion ‘Rwy’n ymddiried ynddi’n fawr’ ac ‘Rwy’n ymddiried ynddi’ yn cyfrif fel ‘ymddiriedaeth’.
-
Cwestiwn: Wrth feddwl am yr Asiantaeth Safonau Bwyd / yr asiantaeth o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, pa mor hyderus ydych chi...a) y gellir dibynnu arni i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n ymwneud â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd); b) ei bod wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd; c) ei bod yn cymryd camau priodol os nodir risg sy’n gysylltiedig â bwyd? Ymatebion: yn hyderus iawn, yn weddol hyderus, ddim yn hyderus iawn, ddim yn hyderus o gwbl, ddim yn gwybod. Sylfaen = 5808, pawb a ymatebodd. Sylwer: mae’r atebion ‘yn hyderus iawn’ ac ‘yn weddol hyderus’ yn cyfrif fel ‘hyderus’. O ran yr ymatebwyr hynny a oedd yn gwybod ychydig neu ddim byd am yr ASB, gofynnwyd iddyn nhw am ‘yr asiantaeth o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd’; o ran y rheiny a oedd yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB, gofynnwyd iddyn nhw am yr ASB.