Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 6 Key Findings

Bwyd a Chi 2 Cylch 6: Pennod 4 Bwyta allan a bwyd tecawê

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o arferion yr ymatebwyr o ran bwyta allan ac archebu bwyd tecawê.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2023

Cyflwyniad

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd trwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau. Fel arfer rhoddir sgoriau i leoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi, ei werthu, neu ei fwyta, gan gynnwys bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, a faniau a stondinau bwyd.

Mae’r ASB yn rhoi’r cynllun ar waith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd er mwyn i’r bwyd fod yn ddiogel i’w fwyta. Rhoddir sgôr i fusnesau, rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod safonau hylendid yn dda iawn, ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys. 

Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr o dan y Cynllun. Yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgôr, ond yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith. (footnote 1) Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan yr ASB.

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o arferion bwyta allan ac archebu bwyd tecawê yr ymatebwyr, y ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta neu archebu bwyd tecawê, ac adnabyddiaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Amlder bwyta allan ac archebu bwyd tecawê

Ffigur 13. Math o fusnes bwyd yr oedd ymatebwyr wedi bwyta ynddo neu wedi archebu bwyd ohono yn ystod y 4 wythnos flaenorol

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Math o fusnes bwyd Canran yr ymatebwyr
Dim un o'r rhain 8
Facebook Marketplace 1
Ap rhannu bwyd 3
Fan bwyd symudol neu stondin fwyd 8
Lleoliad adloniant 9
Mewn gwesty, safle Gwely a Brecwast, neu lety 15
Ffreutur 16
Bwyd tecawê trwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein 32
Safle bwyd brys - naill ai i'w fwyta ar y safle neu i'w gymryd i ffwrdd 40
Tafarn neu far 45
Bwyd tecawê - yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty 50
Bwyty 55
Caffi, siop goffi neu siop frechdanau 57

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr o ble roeddent wedi bwyta bwyd yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Roedd tua 6 o bob 10 o’r ymatebwyr wedi bwyta bwyd o gaffi, siop goffi neu siop frechdanau (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i fynd ag ef i ffwrdd) (57%) ac roedd 55% wedi bwyta mewn bwyty. Roedd hanner o’r ymatebwyr wedi bwyta bwyd o siop tecawê a archebwyd yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty (50%); roedd 45% wedi bwyta mewn tafarn neu far; roedd 40% wedi bwyta bwyd brys (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i fynd ag ef i ffwrdd); ac roedd 32% wedi bwyta bwyd o siop tecawê a archebwyd gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats). Nid oedd tua 1 o bob 10 o’r ymatebwyr (8%) wedi bwyta yn unrhyw un o’r busnesau bwyd a restrwyd yn ystod y 4 wythnos flaenorol (Ffigur 13). (footnote 2)

Ffigur 14. Nifer y bobl sy’n bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu o siop tecawê yn ôl grŵp oedran yn ystod y 4 wythnos flaenorol

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Grŵp oedran (blynyddoedd) Wedi bwyta mewn bwyty, tafarn neu far Wedi bwyta bwyd o siop tecawê, naill ai wedi'i archebu yn uniongyrchol neu ar-lein
16-24 69 76
25-34 71 80
35-44 69 75
45-54 67 64
55-64 72 56
65-79 68 38
80+ 60 22

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol o siop tecawê neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein) yn ystod y 4 wythnos flaenorol o gymharu ag ymatebwyr hŷn. Fodd bynnag, nid oedd y tebygolrwydd bod ymatebwyr wedi bwyta mewn bwyty, tafarn neu far yn amrywio rhwng y rhan fwyaf o grwpiau oedran. Er enghraifft, roedd 80% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed wedi bwyta bwyd o siop tecawê o gymharu â 22% o’r rheiny 80 oed neu’n hŷn. I gymharu, roedd 69% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed wedi bwyta mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â 68% o’r rheiny rhwng 65 a 79 oed (Ffigur 14).

Ffigur 15. Nifer y bobl sy’n bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu o siop tecawê yn ôl incwm blynyddol y cartref yn ystod y 4 wythnos flaenorol

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Incwm blynyddol y cartref Wedi bwyta mewn bwyty, tafarn neu far Wedi bwyta bwyd o siop tecawê, naill ai wedi’i archebu yn uniongyrchol neu ar-lein
Llai na £19,000 54 52
£19,000 - £31,999 66 62
£32,000 - £63,999 76 69
£64,000 - £95,999 86 72
Mwy na £96,000 91 72

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Roedd ymatebwyr ag incwm cartref uwch yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu wedi bwyta bwyd o siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol o siop tecawê neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein) yn y 4 wythnos flaenorol o gymharu ag ymatebwyr ag incwm is. Er enghraifft, roedd 86% o’r ymatebwyr ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â 54% o’r rheiny ag incwm o £19,999 neu lai. Yn yr un modd, roedd 72% o’r ymatebwyr ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 wedi bwyta bwyd tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol o siop tecawê neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein) o gymharu â 52% o’r rheiny ag incwm o lai na £19,000 (Ffigur 15).

Roedd amlder bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far neu fwyta bwyd o siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein) yn ystod y 4 wythnos flaenorol hefyd yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Maint y cartref: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi mwy yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi llai. Er enghraifft, roedd 76% o’r ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi 5 person neu fwy wedi bwyta bwyd o siop tecawê o gymharu â 43% o’r ymatebwyr a oedd yn byw ar eu pennau eu hunain. Fodd bynnag, nid oedd nifer yr achosion o fwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far yn amrywio yn ôl maint y cartref. Er enghraifft, roedd 66% o’r ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartref 5 person neu fwy wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â 67% o’r ymatebwyr a oedd yn byw ar eu pennau eu hunain.
  • Plant dan 16 oed yn y cartref: roedd ymatebwyr a oedd â phlant yn y cartref (74%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rheiny nad oedd ganddynt blant 16 oed neu iau yn y cartref (56%). Nid oedd nifer yr achosion o fwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far yn amrywio rhwng y rheiny â phlant (65%) neu heb blant (71%) 16 oed neu iau yn y cartref**.
  • NS-SEC (footnote 3): roedd ymatebwyr mewn rhai grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 77% o alwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â’r rheiny mewn grwpiau galwedigaethol eraill (er enghraifft, 55% o alwedigaethau gwaith ailadroddus a lled-ailadroddus), a myfyrwyr amser llawn (63%). Y rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (27%) oedd leiaf tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far. Fodd bynnag, roedd myfyrwyr amser llawn (73%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd tecawê na’r rheiny mewn grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 59% o alwedigaethau canolradd) a’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu nad oeddent erioed wedi gweithio (53%).
  • Trefol/gwledig: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardal drefol (63%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rheiny a oedd yn byw mewn ardal wledig (53%). Fodd bynnag, nid oedd nifer yr achosion o fwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far yn amrywio rhwng y rheiny a oedd yn byw mewn ardaloedd trefol (68%) neu wledig (71%)**. 
  • Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (73%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far na’r rheiny â diogeledd bwyd ymylol (67%), isel (62%) neu isel iawn (59%). Fodd bynnag, roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (58%) yn llai tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rheiny â diogelwch bwyd ymylol (67%), isel (68%) neu isel iawn (69%).
  • Grŵp ethnig: roedd ymatebwyr gwyn (70%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu ag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (62%). Fodd bynnag, roedd ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (72%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê o gymharu ag ymatebwyr gwyn (61%). (footnote 4)
  • Cyflwr iechyd hirdymor: roedd ymatebwyr heb unrhyw gyflwr iechyd hirdymor (73%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu ag ymatebwyr â chyflwr iechyd hirdymor (62%). Fodd bynnag, nid oedd gwahaniaeth mawr rhwng amlder bwyta bwyd o siop tecawê rhwng y rheiny â chyflwr iechyd hirdymor (58%) neu heb gyflwr iechyd hirdymor (64%)**. 

Bwyta allan a bwyd tecawê yn ôl pryd

Ffigur 16. Amlder bwyta allan neu brynu bwyd tecawê yn ôl pryd

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Math o bryd Tua unwaith yr wythnos neu'n fwy aml Tua 2-3 gwaith y mis neu'n llai aml Byth
Brecwast 12 37 49
Cinio 27 55 17
Swper 26 64 9

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml roeddent yn bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê i frecwast, cinio a swper.  Roedd ymatebwyr yn lleiaf tebygol o fwyta allan neu brynu tecawê i frecwast, gyda 49% o’r ymatebwyr erioed yn gwneud hyn. Dywedodd tua hanner yr ymatebwyr (55%) eu bod yn bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê i ginio 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fwyta allan neu brynu bwyd tecawê i swper, gyda 64% yn gwneud hyn 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml a 26% yn gwneud hyn tua unwaith yr wythnos neu’n amlach (Ffigur 16). (footnote 5) 

Ffactorau a ystyrir wrth fwyta allan 

Gofynnwyd i ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr, y byddent fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan mewn bwytai, tafarndai, bariau, caffis, siopau coffi neu siopau brechdanau.

Ffigur 17. Ffactorau a ystyriwyd wrth benderfynu ble i fwyta allan

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Ffactorau a ystyried Canran yr ymatebwyr
Y Sgôr Hylendid Bwyd 45
Awyrgylch y lle 48
Math o fwyd 54
Ansawdd y gwasanaeth 65
Hylendid y lle 67
Argymhellion 67
Lleoliad 67
Pris 71
Profiad blaenorol o'r lle 81
Ansawdd y bwyd 84

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Roedd y rheiny sy’n bwyta allan yn fwyaf tebygol o ystyried ansawdd y bwyd (84%) a’u profiad blaenorol o’r lle (81%) wrth benderfynu ble i fwyta. Roedd dros 4 o bob 10 (45%) o’r ymatebwyr yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta (Ffigur 17). (footnote 6)

Y ffactorau a ystyrir wrth archebu bwyd tecawê

Gofynnwyd i ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr, y byddent fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê. (footnote 7)

Ffigur 18. Y ffactorau y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddan nhw’n archebu bwyd tecawê

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Ffactorau a ystyried Canran yr ymatebwyr
Yr amseroedd danfon/casglu 32
A oes modd archebu'r bwyd ar-lein 32
A oes cynigion, bargeinion neu ostyngiadau ar gael 32
Lleoliad y siop tecawê 33
Y Sgôr Hylendid Bwyd 36
Math o fwyd 48
Argymhellion 48
Pris (gan gynnwys cost dosbarthu’r bwyd) 53
Ansawdd y bwyd 72
Profiad blaenorol o’r siop tecawê 78

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Roedd rheiny sy’n archebu bwyd tecawê yn fwyaf tebygol o ystyried eu profiad blaenorol o’r siop tecawê (78%) ac ansawdd y bwyd (72%) wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê. Roedd tua 4 o bob 10 (36%) o’r ymatebwyr wedi ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (Ffigur 18). (footnote 8)

Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (86%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Dywedodd dros hanner (55%) yr ymatebwyr eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a bod ganddynt o leiaf ychydig o wybodaeth amdano. (footnote 9), (footnote 10)

Ffigur 19. Canran o’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio fesul gwlad

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Cenedl Wedi clywed am y CSHB Byth wedi clywed am y CSHB
Lloegr 86 14
Cymru 92 8
Gogledd Iwerddon 91 9

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr a oedd yn byw yn Lloegr (86%), Cymru (92%), a Gogledd Iwerddon (91%) wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (Ffigur 19)**.

Roedd ymatebwyr yng Nghymru (69%) a Gogledd Iwerddon (65%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio a bod ganddynt o leiaf rywfaint o wybodaeth am y Cynllun o gymharu â’r rheiny yn Lloegr (54%).

Pan ddangoswyd delwedd sticer y Cynllun iddynt, nododd y mwyafrif (87%) o’r ymatebwyr eu bod wedi ei weld o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o sticer y Cynllun yn debyg ledled Cymru (91%), Lloegr (87%) a Gogledd Iwerddon (93%)**. (footnote 11)

Defnydd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Gofynnwyd i ymatebwyr a oeddent wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd tua 4 o bob 10 (43%) o’r ymatebwyr eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis blaenorol. (footnote 12)

Roedd ymatebwyr a oedd yn byw yng Nghymru (59%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf o gymharu ag ymatebwyr yn Lloegr (42%) a Gogledd Iwerddon (48%)**. 

Ffigur 20. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Busnes bwyd Canran yr ymatebwyr
Ar stondinau marchnad/bwyd stryd 6
Mewn siopau bwyd eraill 7
Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill 9
Mewn archfarchnadoedd 11
Mewn gwestai a safleoedd gwely a brecwast 17
Mewn siopau coffi neu frechdanau 37
Mewn tarfarndai 37
Mewn caffis 53
Mewn siopau tecawê 73
Mewn bwytai 73

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf pa fathau o fusnesau bwyd yr oeddent wedi’u gwirio. Y mathau mwyaf cyffredin o fusnesau bwyd yr oedd ymatebwyr wedi gwirio eu sgôr bwyd oedd  bwytai (73%) a siopau bwyd tecawê (73%). Roedd ymatebwyr yn llai tebygol o ddweud eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd caffis (53%), tafarndai (37%) neu siopau coffi neu frechdanau (37%) (Ffigur 20). (footnote 13)