Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 6 Key Findings

Bwyd a Chi 2 Cylch 6: Pennod 2 Pryderon am fwyd

This chapter provides an overview of respondents’ concerns about food.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2023

Cyflwyniad

Gwaith yr ASB, a nodir mewn cyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol. Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon ymatebwyr am fwyd. 

Pryderon cyffredin

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Nid oedd gan y mwyafrif o’r ymatebwyr (82%) unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta, a dim ond 18% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder (footnote 1).  

Ffigur 3. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd yn ddigymel

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o bryder Canran yr ymatebwyr
Gofynion deietegol (heb fod yn gysylltiedig â gorsensitifrwydd i fwyd) 8
Labelu bwyd 10
Tarddiad bwyd 10
Materion amgylcheddol a moesegol 10
Halogi bwyd 12
Maeth ac iechyd 19
Dulliau cynhyrchu bwyd 21
Ansawdd bwyd 23
Hylendid a diogelwch bwyd 32

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt bryder esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd maent yn ei fwyta. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd (32%), ansawdd bwyd (23%), dulliau cynhyrchu bwyd (21%), a maeth ac iechyd (19%) (Ffigur 3) (footnote 2).

Ffigur 4. Y pryderon mwyaf cyffredin mewn perthynas â bwyd

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o bryder Canran yr ymatebwyr
Gallu bwyta'n iachus 46
Hylendid bwyd wrth fwyta allan 46
Faint o halen sydd mewn bwyd 47
Lles anifeiliaid 50
Gwenwyn bwyd 51
Faint o siwgr sydd mewn bwyd 55
Faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir 56
Ansawdd bwyd 61
Gwastraff bwyd 62
Prisiau bwyd 65

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt bryderon am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Y pryder mwyaf cyffredin oedd prisiau bwyd (65%). Pryderon cyffredin eraill oedd gwastraff bwyd (62%), ansawdd y bwyd (61%), a faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir (56%) (Ffigur 4) (footnote 3).

Ffigur 5. Lefel y pryder am bynciau sy’n ymwneud â bwyd

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Pwnc yn ymwneud â bwyd Ddim yn bryderus o gwbl Ddim yn bryderus iawn Ychydig yn bryderus Pryderus iawn
Argaeledd amrywiaeth eang o fwyd 10 35 37 14
Bod bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label 13 38 31 15
Bod bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU yn ddiogel ac yn hylan 9 37 31 18
Bod bwyd sy’n cael ei gynhyrchu y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label 5 22 44 24
Cynhwysion ac ychwanegion mewn bwyd 5 20 44 27
Bod bwyd yn cael ei gynhyrchu yn gynaliadwy 5 21 43 27
Bwyd wedi'i addasu yn enetig (bwyd GM) 9 22 34 27
Bod bwyd sy’n cael ei gynhyrchu y tu allan i’r DU yn ddiogel ac yn hylan 4 20 45 28
Lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd 4 17 42 32
Pa mor fforddiadwy yw bwyd 2 8 36 51

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi i ba raddau roeddent yn pryderu am nifer o faterion penodol sy’n ymwneud â bwyd. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o nodi lefel uchel o bryder am fforddiadwyedd bwyd (51%). Roedd materion eraill yr oedd ymatebwyr yn bryderus iawn yn eu cylch yn cynnwys lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd (32%) a bod bwyd sy’n cael ei gynhyrchu y tu allan i’r DU yn ddiogel ac yn hylan (28%) (Ffigur 5) (footnote 4)

Roedd lefel y pryder am fforddiadwyedd bwyd a nodwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol

  • grŵp oedran: roedd ymatebwyr rhwng 16 a 64 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r rheiny 65 oed neu hŷn (er enghraifft, 55% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed o gymharu â 37% o’r rheiny 80 oed neu hŷn). 
  • plant dan 6 oed yn y cartref: dywedodd 64% o’r ymatebwyr â phlant o dan 6 oed eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â 50% o’r rheiny heb blant yr oedran hwnnw yn y cartref.
  • incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm uwch, (er enghraifft, 59% o’r rheiny ag incwm o lai na £19,000 o gymharu â 49% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999).
  • rhanbarth (Lloegr) (footnote 5): roedd lefelau pryder ynghylch fforddiadwyedd bwyd yn amrywio fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (65%) a Dwyrain Canolbarth Lloegr (59%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd yn byw yn Llundain (45%).
  • diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (75%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd isel (65%) neu ymylol (56%). Y rheiny â diogeledd bwyd uchel oedd lleiaf tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd (44%).